Printer Friendly

Yr Hen Benillion yn dal i'n hudo heddiw; Ni charaf y glwfer na chobler na chrydd Na 'sgogyn o deiliwr nac eilun o wye dd Nac un o'r m,n grefftwyr, sut bynnag y bo, Ni charaf, ni cherais un llencyn ond go'.

Byline: Gan TUDUR HUWS JONES

On'd yw yn rhyfeddod Bod dannedd merch yn darfod? Ond tra bo yn ei genau chwyth, Ni dderfydd byth ei thafod.

Ac i gadw'r ddysgl yn wastad: Mae gennyf gariad sydd yn fychan Mae yn methu cyrraedd cusan Y mae'n gweiddio am stl i ddringo Yn fy myw ni chaf un iddo.

Mae'r Hen Benillion ymhlith y pethau hyfrytaf yn ein llenyddiaeth - yn syml a chryno ac eto'n adrodd cyfrolau. Dyna un rheswm eu bod wedi goroesi dros sawl canrif.

Casglwyd nifer o'r perlau bach yma ynghyd gan Syr T H Parry-Williams, a chyhoeddwyd detholiad ohonynt ym 1940, dan y teitl syml Hen Benillion.

Mae'r gyfrol wedi profi'n un boblogaidd tu hwnt, a chafwyd nifer o argraffiadau newydd - ym 1956, 1965, 1975, a 1988. Bellach gallwn ychwanegu 2010 at y rhestr honno.

Gydag ambell eithriad, mae'r casgliad wedi profi'n fwy poblogaidd nag unrhyw gyfrol farddoniaeth arall.

Ond pam? Mae sawl rheswm, meddai'r academydd T Robin Chapman yn ei ragair i'r argraffiad newydd.

"Maent yn perthyn i fyd y gallwn deimlo'n gyfforddus ynddo, ond erys er hynny'n fyd dieithr," meddai.

"Ni wyddom fawr ddim am eu tarddiad na sut y'u trosglwyddwyd, na'u hawduron (os mai dyna'r gair priodol). Eu hygyrchedd, mae'n siwr, sy'n ein gorfodi i ddod atynt yn y lle cyntaf; ond eu hodrwydd sy'n ein denu'n l."

Maent yn gyfyng eu byd, yn fyr a chynnil ac i'r pwynt, ac yn hawdd i'w cofio, a pherthyn rhyw "swyn anarchiadd iddynt."

Mae'r penillion wedi eu trefnu'n adrannau yn y gyfrol, yn cynnwys Hanes, Natur, Serch, a Ffraethineb, ac ymhob esiampl bron, mae dawn dweud y beirdd anhysbys hyn yn dal yn destun rhyfeddod i'n clustiau ni heddiw, ac mae pob emosiwn dan haul i'w cael o fewn cloriau'r gyfrol, rhai'n gyfarwydd: Dod dy law on'd wyt yn coelio, Dan fy mron, a gwylia 'mriwio; Ti gei glywed, os gwrandewi Swen y galon fach yn torri. A rhai'n llai cyfarwydd efallai: Mi fm gynt yn caru glanddyn, Ac yn gwrthod pob dyn gwrthun; Ond gweld yr ydwyf ar bob adeg Mae sadia'r mur po garwa'r garreg.

Rhai'n drist: Hiraeth ddaeth fel saeth i'm calon Gyda chnwd o ddwys och'neidion, Pan ganfyddwn fod f'anwylyd Yn y llwch ym mhlwyf Llanllechid.

A rhai'n ysgafn: Dacw 'nghariad ar yr allt, A chrib aur yn cribo'i gwallt; A'th gariad dithau yn y cwm, A chrib aur yn cribo'i mwng.

Mae rhai o'r penillion yn hawdd i'w dyddio am eu bod yn cyfeirio at ddigwyddiadau hanesyddol. Er enghraifft: Dyma fryniau Sir Feirionnydd, Llw mae mwynder a llawenydd. yn eu golwg nid oes galon Nac un o'r cuchiog Wylliaid Cochion.

Ond ar wahn i ganran fechan, mae'r rhan fwyaf o'r penillion yn eithaf anodd eu dyddio. Bron na allant fod cael eu sgrifennu unrhyw bryd yn ystod y 500 mlynedd dwytha. Cawn flas neu ymdeimlad o'u hynafiaeth, ond mae eu themu a'u mynegiant syml yn oesol, a dyna pam y mae cymaint wedi goroesi a pham eu bod yr un mor berthnasol a phoblogaidd heddiw.

Yn ei ragair i'r argraffiad gwreiddiol mae T H Parry-Williams yn crynhoi'r cyfan yn berffaith: "Bywyd gwledig, amaethyddol, awyr-agored yw awyrgylch y mwyafrif ohonynt - bywyd diddordeb mewn tymor a thywydd, mewn gweyl a ffair, mewn offer ac anifail. Bywyd ifanc afieithus ydyw hefyd, gan amlaf - bywyd diddordeb mewn serch a charu, mewn gogan a chellwair. Bywyd 'paganaidd' hefyd i raddau mawr..."

Hawliodd y Prifardd Meirion McIntyre Huws yn ddiweddar y dylai pob aelwyd fod chopi o'r Hen Benillion. Mae 'na dri acw rwan, felly Clywch! Clywch! yn wir.

Hen Benillion; Gol T H Parry-Williams; Gwasg Gomer; pounds 8.99 Geirfa: Hygyrchedd /accessibility; cuchiog /scowling; afieithus /mirthful
COPYRIGHT 2010 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2010 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Aug 25, 2010
Words:609
Previous Article:Pick of the day.
Next Article:Gosod her i seiclwyr Gogledd Cymru.

Terms of use | Copyright © 2018 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters