Printer Friendly

Ynys lle cafodd Orwell lonydd i sgwennu clasur.

Byline: angharad TOMOS

RYDW i eisiau i chi edrych ar y llun hwn yn ofalus, a''i werthfawrogi. Fe gewch ei dorri efo siswrn a''i fframio os dymunwch. Euthum i drafferth garw i''w gael, a does dim llawer o luniau tebyg iddo.

A dweud y gwir, dyma''r prif reswm pam yr euthum i''r Alban. Tye a rentiwyd gan Eric Blair ydyw, neu gwer sy''n fwy cyfarwydd inni fel George Orwell. Yma, ym 1948 yr ysgrifennodd un o nofelau mwyaf yr ugeinfed ganrif - The Last Man in Europe. Cyn ei gyhoeddi, newidiodd y teitl trwy ddrysu rhifau y flwyddyn honno, sydd yn rhoi 'Nineteen Eighty Four'' i chi.

Ddaru mi erioed feddwl y cawn deithio yno. Dowch o hyd i fap o''r Alban, ac edrychwch lle mae Arran. I''r gorllewin, mae''r Mull of Kintyre, ac yna Islay. Mae Ynys Jura i''r gogledd o Ynys Islay, dan Mull.

Cyfeirir ato hyd yn oed heddiw fel un o rannau gwyllt olaf Ynysoedd Prydain. Yma, mewn tye, a oedd bedair milltir o''r ln, y setlodd Orwell i gyfansoddi ei gampwaith.

Cael a chael oedd hi i ni gyrraedd Ynys Arran. Roedd pawb yn sn am y storm fawr oedd ar y ffordd.

Gwersylla oeddem yn Arran, ond dim ond un babell arall oedd i''w gweld. Ar y nos Sul, mi adawodd honno. Ers dau ddiwrnod, roeddem yn cysgodi mewn caffis yn mochel rhag y glaw. Nid storm oedd ar ei ffordd, ond corwynt.... roedd cynffon Corwynt Katia yn chwyrlio i gyfeiriad yr Alban.

Pan euthum i edrych ar ragolygon y tywydd yn y pentref, un frawddeg oedd yna - 'Batten down the hatches!'' Roedd hi''n rhy arw i gychod hwylio. Aethom i aros mewn gwely a brecwast i ymgeleddu.

Drannoeth y storm, roedd y cychod yn hwylio, ond doedd dim lle arnynt. Roeddem yn wynebu chwe awr ar y cei yn ansicr y caem groesi. Drwy ryfedd wyrth, cawsom le ar gwch amser cinio. Ymhen dwy awr, roeddem ar ynys Islay. Drannoeth, tywynnodd yr heulwen, a chefais ddiwrnod godidog ar Jura.

Llond dwrn o bobl sydd yn byw ar Ynys Jura heddiw, ac mae''r rhan fwyaf o''r rheiny yn byw yn y brif dref, Craighouse - hynny ydi, siop Spar, ychydig o dai, gwesty a ffatri wisgi. Mae 28 milltir faith tan cyrraedd Barnhill, cartref Orwell.

Dod yma i ddianc oddi wrth prysurdeb Llundain a wnaeth, ond mi fydda Craighouse wedi bod yn ddigon diarffordd. Wedi inni yrru am bedair milltir ar hugain, daeth y ffordd i ben. Rhaid oedd cerdded y bedair milltir olaf. Yn ystod y daith honno, welson ni 'run copa walltog (ar wahn i un pererin unig a''i feic), ond honno oedd y daith a''m argyhoeddodd fod Orwell wedi gwneud y penderfyniad cywir. Doeddwn i erioed wedi gweld anialdir tebyg. Doedd dim coed i''w gweld, dim ond ceirw. Un ffordd arw oedd o''n blaenau, a honno yn para am byth. Ond roedd y tawelwch yn eithriadol, ar wahan i adar yn trydar - ehedydd, cornchwiglen, adar ysglyfaethus, roedd yn fendigedig eu gweld yn eu cynefin naturiol. Teimlwn yn un natur, ac yn mwynhau'r awyr iach.

Anodd yw cyfleu yr harddwch.

Dyna lle rydych chi yn yr anialdir mwya diarffordd, ond dydych chi ddim yn teimlo yn unig. Rydych yn ddigon uchel ar y llwybr y edrych i lawr ar Swnt Jura, sy''n lasach na''r awyr. Ond yr hyn sydd yn eich amgylchynu yw''r ynysoedd a''r tir mawr tameidiog, yn llwyd ac yn gyfareddol, nes i chi deimlo eich bod wedi cyrraedd Tir na nOg.

Pan oeddem wedi llwyr ddiffygio, ac yn gweld yr arfordir, gwyddem ein bod yn agos. Mwya sydyn, fe''i gwelsom, tye gwyn yng ngahnol nunlle. Rhaid mai hwn oedd Barnhill.

Doedd ein mab ddim wedi ei gyfareddu. "Rydan ni wedi dod yr holl ffordd i weld Hwn?" meddai, yn methu credu na chai hyd yn oed fynd i mewn i''r tye. Ond fe ddaw i ddeall. Mewn rhyw saith mlynedd, bydd yn ddigon hen i ddarllen y nofel a chymryd diddordeb yn yr awdur.

Wn i ddim faint fydd o''n ei gofio o''r Daith Gerdded Hir Iawn rhyw haf pan oedd o''n blentyn. Pan oedd o''n rhy ifanc i ddeall beth oedd yr ysfa i ddianc o Lundain yng nghanol rhyfel. Pan oedd awdur ifanc newydd golli ei wraig, a''r mab roedden nhw wedi ei fabwysiadu yn ddim ond tair. Pan mae dyn sy''n ddifrifol wael gyda''r diciau yn cael hedyn nofel yn ei ben, ac yn awchu am lonyddwch i''w chofnodi. Pan mai''r cwbl oedd o ei eisiau oedd gwely, bwrdd a chadair - a''r teipiadur angenrheidiol wrth gwrs. Lampau a chanhwyllau oedd ei olau, a mawn oedd yn cynhyrchu''r unig wres.

Rhaid ei bod yn ddifrifol yn y gaeaf. Yn y diwedd, daeth chwaer Orwell i fyw yno a gofalu amdanynt.

Mae''n braf meddwl iddo gael tangnefedd a thawelwch ar Jura. Ai i sgota yn ddyddiol, dal cimwch a saethu cwningod. Cafodd gwblhau ei nofel fawr. Cafodd gwmni ffrindiau, a chafodd ramant munud olaf yn ei fywyd. Priododd Sonia Brownell ar ei wely angau. Erbyn Ionawr 1950, roedd wedi marw.

Dwi''n deall y llyfr yn well wedi bod ar Jura, ac yn teimlo mod i''n nabod mwy ar yr awdur. Cefais dangnefedd llwyr y diwrnod hwnnw, a theimlo peth o''r fendith gafodd Orwell. Ac am wn i, dyna pam mae rhywun yn gwneud pererindod, waeth befo pa mor bell ydyw.

CAPTION(S):

Barnhill, y tye ar ynys Jura lle sgwennodd George Orwell ei lyfr 1984
COPYRIGHT 2011 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2011 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Sep 28, 2011
Words:905
Previous Article:Wali'r parot drwg.
Next Article:Englyn Men yr ast.

Terms of use | Copyright © 2018 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters