Printer Friendly

Ymwelydd annisgwyl; BYD NATUR.

Byline: Gan BETHAN

MI fydda i'n aml iawn yn crwydro i chwilio am bethau diddorol ym myd natur, ond weithiau, mi fyddan nhw'n dod ata i, ac mi ddigwyddodd hynny yn ddiweddar. Roedd hi'n ddiwrnod braf - poeth a deud y gwir, ac roedd y drws allan yn llydan agored. Yn y cyntedd roedd hi - yn yr haul ar y mat o flaen y drws. A be wnaeth iddi ddod i'r tye, wn i ddim ond cyn gynted ag y gwelodd hi fi yn nesu, mi sleifiodd dan gysgod y cwpwrdd gwydr.

Gialapi wirion ydi'r enw fydda i'n ei roi ar hon. Er, dwi ddim yn amau mai enw Sir Fn ydi o. Mae'n debyg mai madfall fyddai'r mwyafrif yn ei roi'n enw arni. Mae Geiriadur yr Academi'n cynnig sawl enw - budrchwilen, genau-goeg, genau pry' gwirion, giali pen wirion, mablath a botrywilen. Sgwn i be fyddwch chi'n ei galw hi? O ran niferoedd mae'n bur debyg mai'r madfallod ydi'r mwyaf llwyddiannus o'r holl ymlusgiaid. Mae'r mwyafrif ohonyn nhw i'w canfod yn y trofannau, ond mae 'na nifer i'w gweld yn rhannau tymherus y byd. Ar y cyfan creaduriaid sydd o gwmpas yn ystod y dydd ydi madfallod.

Nodwedd arbennig o fadfallod ydi eu croen ac mae hwn wedi cael ei blygu i wneud cen. Mae haenen allanol y croen yn llawn ceratin, ac mae'r ceratin yma yn brodin sy'n gostwng faint o ddwer sy'n cael ei golli drwy'r croen. Dyma un rheswm pam fod madfallod yn gallu byw yn yr anialwch.

Mae'r cen yn gallu amrywio'n fawr iawn yn eu hymddangosiad mewn gwahanol rywogaethau. Rhai yn fach, ac eraill yn fawr ac yn debyg i blatiau. Mi fedran gyffwrdd ei gilydd neu mi allan orgyffwrdd ei gilydd, ac mi allan fod naill ai'n llyfn neu fod gwrym arnyn nhw. Fel arfer, mae'r croen cennog yn drwchus a gwydn, a dydi ddim yn hawdd ei dorri o. Mewn ambell i rywogaeth o fadfall, mae'r cen gwrymiog wedi cael ei haddasu i bigau miniog er mwyn codi ofn ar anifeiliaid eraill sy'n eu bygwth.

Un nodwedd ddiddorol gan fadfallod ydi'r chwarren bineal sy ganddyn nhw. Roedd Descartes o'r farn mai'r chwarren hon yn y corff dynol oedd ble roedd y meddwl a'r corff yn rhyngweithio. Roedd o'n ystyried y chwarren bineal fel llygad yr enaid, ac mewn madfallod, mae'n ymddangos fod rhan o'r ymennydd wedi'i gysylltu i ryw fath o "drydedd llygad". Mae gwaith ymchwil wedi dangos y gall y chwarren bineal fod yn chwarae rhan mewn rheoli cloc biolegol yr anifail.

Lacerta vivipara ydi'r enw gwyddonol ar yr un sy'n gyffredin yng Nghymru, a 'lizard' ydi'r enw Saesneg arni. Wrth edrych arni, mae ochr uchaf yr anifail yn amrywio mewn lliw o lwyd frown i frown tywyll, ac yn aml mae yna linell dywyllach sy'n mynd ar hyd y meingefn. Mae 'na hefyd fand du sydd ar y ddwy ochr i'r anifail. Mae'r lliw ar y bol yn amrywio; y gwrywod yn lliw melyn neu oren, tra mae'r benywod yn llwyd felyn.

Mae'r fadfall yn anifail sy'n gaeafgysgu ac mi fydd yn dechrau gwneud hynny tua mis Medi neu fis Hydref. Yn y gogledd mi fydd yr oedolion yn deffro o'u trwmgwsg tua diwedd mis Chwefror neu ddechrau mis Mawrth, a'r gwrywod sydd fel arfer yn ymddangos gyntaf. Maen nhw'n paru yn ystod Ebrill a Mai ac mi fydd y gwryw yn gafael yn y fanw yn ei geg cyn paru ond os nad oes gan y fanw ddiddordeb, mi fydd yn brathu'r gwryw yn reit giaidd.

Mi fydd y rhai ifanc yn datblygu y tu fewn i'r fanw am tua tri mis ac mi fydd hi'n geni'r rhai ifanc yn ystod mis Gorffennaf. Maen nhw'n cael eu geni mewn cas wyau sy'n torri wrth iddyn nhw gael eu geni neu'n fuan wedyn - o fewn tua diwrnod fel arfer. Dyna pam maen nhw cael yr enw gwyddonol Lacerta vivipara, am ei fod yn cyfeirio at y ffaith fod y rhai bach yn cael eu geni'n fyw yn wahanol i ddodwy wyau, sy'n fwy arferol gan fadfallod.

Mi fydd rhwng tri a deg o rai bach yn cael eu geni ac maen nhw tua 3-4 cm o hyd ac yn frown tywyll neu'n ddu eu lliw. Yn aml maen nhw'n edrych fel tasa ganddyn nhw gorff brown tywyll a chynffon ddu. Mae'r gwrywod yn gallu atgenhedlu pan maen nhw tua dwy flwydd oed, ond mae'n cymryd tua tair blynedd i'r benywod fod yn barod i fagu rhai ifanc.

Creaduriaid di-asgwrn-cefn ydi bwyd y fadfall, a phryfetach yn bennaf.

Yn gynnar yn y gwanwyn, yn yr hydref ac ar ddyddiau claear yn ystod yr haf mae'n torheulo yn yr haul i gyrraedd y tymheredd gorau i'w chorff sydd tua 30C. Mae madfallod yn weddol gyffredin yn Ynysoedd, Prydain, ac mi fedrwch chi weld un mewn gwahanol gynefinoedd. Yn y gwanwyn, mi fydd y gwrywod a'r benywod yn torheulo er mwyn amsugno gwres yr haul. Yn ddiweddarach yn yr haf, dim ond y benywod beichiog fydd yn torheulo.

Neu, wrth gwrs, mi fedran nhw ddod i mewn i'r tye a thorheulo ar y mat!

CAPTION(S):

Gialapi wirion (Lacerta vivipara Lizard) yn torheluo ar y mat yn y cyntedd Llun: Bethan Wyn Jones
COPYRIGHT 2010 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2010 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Aug 4, 2010
Words:868
Previous Article:Cyflafan ar y dorlan; LLYTHYRAU.
Next Article:Rhannu cyfrinach a datgelu lleoliad y llus gorau.
Topics:

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2018 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters