Printer Friendly

Y SILFF LYFRAU; HOFF GERDDI COFFA CYMRU.

Golygwyd gan Bethan Mair ac Elinor Wyn Reynolds (Gwasg Gomer, PS7.99) Nid ar chwarae bach yr eir ati i lunio blodeugerdd o gerddi. Gwaith anodd yw plesio pob darllenydd wrth ddewis a dethol, ac mae'r golygydd yn ei adael ei hun yn agored i feirniadaeth.

Hoff Gerddi Coffa Cymru yw'r seithfed yn y gyfres o hoff gerddi, a golygwyd y gyfrol ddiweddaraf hon gan Bethan Mair ac Elinor Wyn Reynolds.

Roedd tasg anferth yn wynebu'r golygyddion, gan fod gennym ni yn Gymraeg gyfoeth o gerddi coffa yn rhychwantu'r canrifoedd.

Yr hyn sy'n taro dyn ar unwaith yw'r amrywiaeth syfrdanol sydd gennym ni yn ein cerddi coffa.

Nid cerddi marwnadol, trwm, hiraethus yw pob un ohonynt o bell ffordd. Er enghraifft, mae'r cywydd "Marwnad" gan Meirion Macintyre Huws yn gellweirus, ac yn esgus marwnadu'r bardd Twm Morys, sy'n dal ar dir y byw, wrth gwrs - "Yn Forys sych ei feiro, yn Dwm trwm fu'n fardd un tro".

Yna ceir cywydd coffa enwog Alun Cilie i Moss y ci, a fu farw ym 1939.

Ond fel y gellid disgwyl mewn cerddi coffa, mae yma hefyd ing a hiraeth dwys ar ol anwyliaid a gollwyd.

Deil englyn coffa adnabyddus Goronwy Owen i'w unig ferch yr un mor ingol ag erioed. Felly hefyd gywydd Lewys Glyn Cothi i "Sion y Glyn", yr "un mab oedd degan i mi".

Ac o son am gerddi sy'n coffau plant a gollwyd, maedarllencywyddTLlewJones,"ErCof",am Dilys, merch fach a fu farw'n wyth oed, yn cyffwrdd dyn i'r byw.

Weithiau, er mor anodd derbyn marwolaeth un annwyl, daw rhyddhad a rhywfaint o gysur o wybod bod y person hwnnw bellach yn rhydd o boenau a gofidiau'r byd.

Dyna sydd yng nghywydd Einion Evans i'w ferch Ennis, a fu farw'n ifanc -"O gofio cur gaeaf caeth, meiriolwyrth oedd marwolaeth".

Y gerdd hwyaf yn y casgliad yw awdl Tudur Hallam, "Ennill Tir", sy'n goffad i Hywel Teifi Edwards. Hon oedd awdl fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy 2010, ac mae'n deyrnged deilwng i Gymro arbennig iawn.

Rhaid llongyfarch y golygyddion am bori mor drylwyr mewn maes mor eang, a rhoi i ni ddetholiad teilwng iawn o gerddi coffa Cymraeg.

| John Meurig Edwards | Crynodeb o adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatad Cyngor Llyfrau Cymru

COPYRIGHT 2014 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2014 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Features
Publication:Western Mail (Cardiff, Wales)
Date:Jul 19, 2014
Words:374
Previous Article:SPOTLIGHT ON...
Next Article:WORD OUT.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters