Y CELFYDDYDAU: Nostalgia'n boblogaidd.
Byline: Tudur Huws JonesROEDD y grwp Crys yn ffenomen rhyfedd a phrin pan gafodd ei ffurfio tua diwedd y 70au. Ac maen nhw'n dal felly.
Doedd 'na ddim llawer o grwpiau "heavy metal" yn canu yn Gymraeg bryd hynny, ond llwyddodd y bechgyn o Resolfen, ger Castell Nedd, i ennill dilynwyr ymhob cwr o'r wlad, a gwneud roc trwm yn boblogaidd gyda chynulleidfa na fyddai'n mwynhau'r math yna o gerddoriaeth fel arfer.
Mae cwmni Sain yn parhau 'u harfer diweddar o gribo drwy'r hen recordiau er mwyn rhyddhau casgliadau "goreuon" ar cd. 'Does dim o'i le ar hynny wrth gwrs, dim ond ei fod yn ymddangos fel pe bai mwy o'r hen na'r newydd yn dod o stiwdios y cwmni y dyddiau yma.
Ond roedd casgliad o oreuon Crys yn un amlwg i'w wneud. Mae teitl y casgliad - "Sgrech" yn un amlwg hefyd, o gofio perthynas glos y grwp 'r mudiad adloniant. Enillodd Crys wobr albwm gorau'r flwyddyn ddwy waith yn Noson Wobrwyo Sgrech yn yr 80au, gyda "Rhyfelwr" a "Tymor yr Heliwr". Ond os yw'r teitlau'n swnio fel efelychiad ystrydebol o gynnyrch roc trwm Seisnig, mae'n deg dweud mai gr wp Cymreig yn ogystal Chymraeg oedd Crys.
Roeddynt yn canu am bethau oedd yn berthnasol i Gymru a Chymry ifanc. Roedd ambell i gn yn sn am y ffans eu hunain - dyfais y byddai rhai'n ei galw'n sinigaidd, ac eraill yn ei gweld fel dim byd mwy na theyrnged i'w ffyddloniaid.
Ymhlith y "goreuon" mae "Lan y gogledd"' "Dyma'r band Cymraeg"' "Barod am Roc"' "Rociwch ymlaen", a chn newydd sbon - "Sgrech.
Mae'n amheus fydd y casgliad yn ennill dilynwyr newydd i'r grwp, ond pwy a wyr... Mae nostalgia'n boblogaidd iawn y dyddiau yma.
![]() ![]() ![]() ![]() | |
Publication: | Daily Post (Liverpool, England) |
---|---|
Date: | Sep 6, 2006 |
Words: | 285 |
Previous Article: | Y CELFYDDYDAU: Ein tywys o gylch y trysorau. |
Next Article: | Y CELFYDDYDAU: Reiat o stori yn llawn cymeriadau lliwgar. |