Printer Friendly

Welsh column: hafinaclwyd - Y mae ffawd a damweiniau hanesyddol yn llawn pe tai a phe tase.

YR oeddwn mewn priodas ddydd Sadwrn ac yr oedd yn braf gweld dau yn penderfynu priodi yn hytrach na byw tali. Mae cymaint o hynny'n mynd ymlaen ar hyn o bryd - gan gynnwys nifer o'm perthnasau ifanc i fy hun. Yr wyf yn cael trafferth i ddygymod 'r peth.

Yr wyf yn hoffi gweld dau'n gwneud addewid i'w gilydd yn hytrach na dilyn y ffasiwn a symud i mewn ac yna cerdded allan ar l y ffrae gyntaf.

Mewn eglwys yr oedd y briodas: llawer mwy ffurfiol nag mewn capel a'r canu heb fod cystal chwaith! Rhaid ychwanegu mai yn Lloegr yr oedd yr achlysur ac yr wyf yn gorfod cyfaddef bod y lleoliad yn un hudolus. Great Ness yn Swydd Amwythig oedd y fangre, pentref bach hyfryd a'r eglwys wedi'i chysegru i Sant Andreas ac wedi bod yng nghesail y pentref ers canrifoedd. Y tu mewn i'r porth yr oedd Rhosyn Tudur wedi'i gerfio i'r garreg a'r dyddiad 1618 arno.

Eglwys fechan ddiffwdan a'r clochydd yn yr oriel uwch ein pennau'n tynnu'r rhaffau i ganu'r clychau oedd yn atseinio ar draws tir ffrwythlon Swydd Amwythig.

Ac i goroni'r cyfan yr oedd heulwen danbaid ar y fodrwy.

Ac o dreulio diwrnod yn Swydd Amwythig yr oeddwn yn meddwl am droeon rhyfedd ffawd.

Ar un adeg yr oedd fy nhad yn chwilio am fferm fwy, eisiau symud o dir y topie yn Edeyrnion a chael troi ei law at ffermio tiroedd gwastad, ffrwythlon.

Ac ar ardal yr Amwythig yr oedd ei fryd. Ond yn ffodus i ni blant fe ddaeth fferm yn Nyffryn Clwyd ar y farchnad.

Ac i'r fan honno yr aethom ni hanner can mlynedd union yn l i'r mis hwn.

Ond mi fyddwn ni ein pedwar, fy chwaer a dau frawd a minnau, yn aml yn gofyn yn syn: beth pe tase?

Y mae ffawd a damweiniau hanesyddol yn llawn pe tai a phe tase. Beth pe tai Arthur, brawd hynaf Harri'r VIII, wedi cael byw ac iddo ef a Chatrin o Aragon gael plant?

A fyddem wedi cael Deddfau Uno? A fyddem wedi cael Beibl William Morgan? A fyddem wedi cael y Rhyfel Cartref?

Anodd dychmygu'r gorffennol heb Elisabeth I na Siarl II na'r hen Vic t or i a .

Ond pe byddai Arthur wedi byw a chael etifedd fyddai neb yn poeni bod yna rywun wedi amharu ar barti yr arfaethedig Wiliam V yng nghastell Windsor nos Sadwrn.

Pa ots, meddai rhai. Cewch feddwl fel y mynnoch. Yr hyn yr wyf yn ceisio ei bwysleisio yw mai hap a damwain yw llawer o'n bywydau.

Fel y dywedodd Omar Khayyam drwy gyfrwng John Morri Jones: Tynged 'i gordd a'th yrr fel pl ar ffo I dde ac aswy yn dy dro. Ac o feddwl am droeon yr yrfa medraf innau ddweud am Gymru fel T H ParryWilliams mai ``damwain a hap yw fy mod yn ei libart yn byw.''

Pe bai dymuniad fy nhad wedi cael ei gwireddu mi fyddem yn bobl hollol wahanol.

Byddem wedi mynd i ysgolion gwahanol a throi'n Saeson. Byddem wedi gwneud cyfeillion gwahanol, mynd i golegau gwahanol a dewis gyrfa wahanol.

A thrwy hynny wrth gwrs briodi rhywun gwahanol!

Mwy na thebyg na fyddech yn darllen hyn o eiriau.

Afraid dweud fy mod yn ddibendraw o falch mai i Ddyffryn Clwyd y daethom yn y diwedd.

Mae tir bras llawr y dyffryn gystal bob tamed dolydd ardal yr Amwythig. A rhaid cofio mai ni piau trefi megis yr Amwythig a Chroesoswallt wrth gwrs.

Damwain a hap oedd dewis ym mha le yr oedd y ffin rhwng Cymru a Lloegr siwr gen i.

Mi ddywedodd rhywun un tro pe baech yn rhoi haearn smwddio dros Gymru, y byddai hi'n fwy na Lloegr.

Gymaint mwy goludog a fyddem pe bai trefi llewyrchus Swydd Amwythig yn rhan o'n cenedl.

Rhaid cofio hefyd bod mwy o Gymraeg i'w glywed ar strydoedd Croesoswallt nag a glywir yn y Rhyl neu Wrecsam.

A phe byddai Arthur wedi byw ni fyddai Gruffydd Robert wedi gorfod mynd i Filan ac ni fyddai wedi dweud ``Chwi a gewch rai yn gytrym ag y gwelant afon Hafren neu glochdai Amwythig a chlywed Sais yn doedyd Good Morrow, a ddechreuant ollwng eu Cymraeg tros gof....''

Yn hollol.
COPYRIGHT 2003 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2003 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Features
Publication:Western Mail (Cardiff, Wales)
Date:Jun 24, 2003
Words:704
Previous Article:Sacrificing freedom for security - a cruel irony; 11.
Next Article:Bitesize: In the Dads' Race I pulled up short like a dog shot in the leg.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2021 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters |