Printer Friendly

WM DYLAN IORWERTH WELSH COLUMN.

MAE yna o leia' bedair Cymru wahanol erbyn hyn; mwy na hynny o bosib. Ond, o ran yr iaith beth bynnag, mi allwch weld pedwar math o ardal wahanol ac mi sonia' i am dri.

Gwrando ar gyfweliad rhwng Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, a'r holwr Guto Harri, wnaeth i fi feddwl am hyn. A'r ddau ohonyn nhw'n son am Gymru'r de-ddwyrain lle gallech chi feddwl bod pawb yn torri eu boliau i ddysgu a siarad Cymraeg, a rhywle o'r enw'r "Gorllewin" lle nad ydyn nhw ddim.

Mae'n eitha' sicr bod llawer o'r sgwrs wedi ei golygu cyn cael ei dangos ar y bocs, felly efallai nad oedd y darn bach yna'n adlewyrchiad teg o'r sgwrs gyfan... ond roedd yn ddigon i danio'r meddwl.

A derbyn bod rhaid cyffredinoli, mae yna ardaloedd yn y de-ddwyrain lle mae Cymry lleol yn ailafael yn yr iaith ar ol iddi gael ei cholli am genhedlaeth neu ddwy. Ac mae yna ambell ran o'r "Gorllewin" lle mae diffyg hyder a balchder yn yr iaith yn gwneud i bobol ddefnyddio llai arni a lle mae pobol ifanc, yn eu tro, yn methu a gweld y Gymraeg yn rhan o'u bywydau nhw.

Ond mae yna "Orllewin" arall hefyd, lle mae yna fywyd Cymraeg cry' - ymhlith y boblogaeth sydd ar ol. Bywyd a fydd, er enghraifft, yn llenwi Theatr Felin-fach am wythnos gyfan cyn bo hir efo nosweithiau'r Ffermwyr Ifanc.

Eto, mae'r iaith yn colli tir yn gyflym yn yr ardaloedd yma ac mae rhai o'r rhesymau yn weddol amlwg - esgeulustod economaidd a'r mewnlifiad anferth o bobol sy'n cael ei sbarduno gan yr esgeulustod hwnnw.

Yn naturiol, does gan y bobol ddi-Gymraeg newydd yma ddim o'r un rhesymau tros gydio yn yr iaith a'i chefnogi ac eithriadau gwych ydi'r rhai sy'n gwneud. Nid seicoleg sydd y tu cefn i'r dirywiad, ond economi a gwleidyddiaeth.

Does yna fawr neb yn dadlau bellach tros atal pobol rhag symud a hunanddifaol, beryg, fyddai polisi o'r fath. Ond mae'n bryd i wleidyddion a ffigurau cyhoeddus ddechrau dadlau yn erbyn polisiau a strategaethau economaidd a gwleidyddol sy'n annog a hyrwyddo'r symudiad, heb hyd yn oed gydnabod yr effaith.

Maes tai ydi'r enghraifft amlwg; yn hytrach na chodi'r ychydig sydd eu hangen yn glystyrau yma ac acw i gwrdd ag anghenion lleol ac, ie, i ddenu rhywfaint o boblogaeth newydd, mae yna stadau'n cael eu codi, ddegau o dai ar y tro, er efallai nad dyna'r angen.

Mae'n rhaid edrych yn oeraidd ar yr hyn sy'n digwydd a cheisio deall pam. Wedyn, mi allwn ni benderfynu a ydi hyn yn dda neu ddrwg ac, os oes yna effeithiau drwg, sut i'w lleihau neu eu taclo.

Yr un ateb amhosib ydi gwadu bod yna gwestiwn.

| Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddwr Golwg a Golwg 360 walesonline/cymraeg

COPYRIGHT 2019 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2019 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Western Mail (Cardiff, Wales)
Article Type:Column
Date:Feb 14, 2019
Words:462
Previous Article:Field housing scheme sparks language fears; Robert Harries reports on the controversy over a field that threatens to turn a majority Welsh village...
Next Article:No escape? El Chapo likely to die in 'prison of all prisons' Notorious Mexican drug lord Joaquin El Chapo Guzman has been convicted on all 10 counts...

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2021 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters |