Printer Friendly

VIEWPOINT.

Byline: ORIG WILLIAMS

AR fy ymweliad ddechrau'r wythnos ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Rhuthun, cefais gadarnhad, unwaith yn rhagor, mai yr Urdd ydyw y mudiad mwyaf llwyddiannus sydd ganddom fel cenedl.

Yno wrth grwydro'r maes roedd rhyw onestrwydd i'w deimlo: nid yn unig gonestrwydd y plant ond roedd gonestrwydd a chyfeillgarwch yn byrlymu o'r gweinyddwyr oedd yno hefyd. Efallai mai'r ffaith mai gwirfoddolwyr di-del oedd llawer ohonynt oedd yn eu gwneud mor barod eu cymorth.

Roedd cyngerdd nos Sul wedi ei sefydlu yn haeddiannol ar waith anhygoel y ferch fwyaf adnabyddus a gafodd ei geni yn Sir Ddinbych, sef Caryl Parry Jones.

Am dros ddwy awr, yn y neuadd orlawn yn ogystal ac ar deledu S4C, roedd gwaith gwych Caryl yn mesmereiddio yr holl genedl. Oes unrhyw berson unigol arall yng Nghymru heddiw allai ddiddanu cymaint am gyhyd?

Yn anuniongyrchol hefyd roedd cyngerdd nos Sul yn deyrnged i rieni Caryl, sef Gwen a Rhys Jones.

Heb unrhyw os mae'r ddau wedi gwneud cyfraniad aruthrol i fudiad yr Urdd ers degawdau. Bob blwyddyn yn rheolaidd mae plant a phobl ifanc, o cyn belled e Chaernarf on a Fflint, yn mynychu eu cartref ym Mhrestatyn yn edrych am hyfforddiant. Fel y Crist ei hun, does neb yn cael ei wrthod.

Gan nad ydwyf i yn bersonol yn gallu canu, adrodd na barddoni, bychan iawn ydyw fy nghyfraniad i at yr wyl wedi bod erioed. Eleni yn Rhuthun, fodd bynnag, ar Ol hir ddisgwyl, fe ddaeth fy nghyfle i wneud cyfraniad.

Ychydig yn Ol gofynodd Cyngor Sir Ddinbych i mi a fuaswn e diddordeb mewn cynnal gornestau cryfder ar y maes chwaraeon fel rhan o'u cyfraniad hwy at sicrhau llwyddiant yr Eisteddfod.

Yma mae'n orfodol i mi glodfori'r cyngor sir am ei haelioni eithriadol at ymdrechion yr Urdd yn Rhuthun, yn ogystal ag i brif swyddog datblygu chwaraeon y sir, Gareth John, am ei gydweithrediad.

Er bod sefydliad yr Urdd ei hun yn 80 oed, mae rhai o'r cystadlaethau yr ydym wedi eu trefnu yn dyddio yn Ol 500 mlynedd, i oes Owain Glyndwr ei hun. Tynnu torch a thaflu maen oedd prif ddiddordebau milwyr Owain yn eu horiau hamdden. Yn Ol chwedlau'r oes, Rhys Gethin - ei brif ymladdwr - oedd yr ennillydd bob tro, ac i hen gynefin Rhys yn ucheldiroedd Dyffryn Conwy yr euthum i chwilio am gryfder.

Gwyddwn y buaswn yn dod o hyd i bobl gyda chryf der a chalon yno. Yn Melin y Coed y canf [currency]m Antur Davies, ac yn Ysbyty If an canf [currency]m ferch hollol arbennig, sef Menna Jones.

Heddiw am ddau o'r gloch ar faes chwaraeon yr Eisteddfod mae her i unrhyw un o dan 20 oed ddod i roi sialens i un o'r ddau mewn reslo bOn braich. Ar y maes hefyd bydd cystadlaethau rhwng timau o bedwar o glybiau rygbi cyfagos yn ogystal e thimau o Ffermwyr Ifanc.

Dewch i'r frwydr Gymry dewrion!
COPYRIGHT 2006 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2006 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Features
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Jun 2, 2006
Words:483
Previous Article:Britain: Wettest May for 27 years.
Next Article:Letter: Only bad reasons to shun language.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2021 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters |