Printer Friendly

Troeon trwstan a thynnu coes.

Bu Rol Williams, Waunfawr, yn gweithio i'r Weinyddiaeth Amaeth wedi'r Ail Ryfel Byd. Yma, yn y gyntaf o ddwy erthygl, mae'n cofio rhai o'r troeon trwstan a ddaeth i'w ran yn ystod y cyfnod ABOD yn onest tros dro yn unig oedd fy arhosiad i fod fel aelod o staff swyddfa'r Weinyddiaeth Amaeth yng Nghaernarfon, neu'r War Ag fe y'i gelwid yn y cyfnod.

Ym 1947 roeddwn newydd dychwelyd gartref wedi pedair blynedd yn yr Awyrlu, ac wedi cael cyfweliad gyda'r bwriad o fynd i'r coleg cyn ymuno a'r RAF.

Bryd hynny roedd cannoedd os nad miloedd o fechgyn yn disgwyl am yr ail-gyfweliad i fynd i ryw goleg neu'i gilydd, er mwyn i'r awdurdodau am wn i, ganfod ai gwaeth ynte gwell oedd y cymeriadau ar ol treulio cyfnod yn lifrai'r brenin.

Doeddwn i ddim yn ffansio bod a'm trwyn ar y maen am dair neu bedair blynedd, a minnau wedi byw bywyd oedd yn digwydd bod yn weddol lawn o wahanol ddigwyddiadau ysgytwol ac fel arall. Felly pan es i am yr ail gyfweliad i'r coleg, roeddwn wedi penderfynu y byddwn yn ymateb i ambell gwestiwn yn fwriadol hurt er mwyn i'r cyfweliad hwnnw fod yn aflwyddiannus!

Er enghraifft, cofiaf un cwestiwn, sef a oeddwn wedi darllen un o nofelau T Rowland Hughes tra yn yr Awyrlu? Roedd nofelau'r gwr o Lanberis yn destun canmoliaeth dyddiol a haeddiannol ar y pryd, ac er fy mod yn byw o fewn dwy filltir i Lanberis bryd hynny, ac yn gyfarwydd a gwaith y bardd a'r llenor, yr ateb a roddais oedd nad oeddwn yn gwybod nemor ddim amdano.

Yn sgil y fath gelwydd bwriadol daeth ein cyfweliad i ben yn ddigon swta, ac ymhen ychydig ddyddiau yr oedd George Green y postman, yn gofalu fy mod yn derbyn y llythyr oedd yn cadarnhau nad oeddwn yn addas i gael mynediad i goleg.

Ymhen blwyddyn sylweddolias fy nghamgymeriad mawr, ond yr oedd yn anochel na allwn ond derbyn y dyfarniad a'r sefyllfa roeddwn i fy hun wedi ei chreu.

Yn y cyfamser cefais wahoddiad gan E Morgan Humphreys, a oedd ar y pryd yn brif weinyddwr yn swyddfa'r War Ag yng Nghaernarfon, i fynd am gyfweliad am swydd clerc, ac felly y bu am dros 30 mlynedd, gyda'r War Ag yn gwnedu lle i deitlau eraill dros y blynyddoedd, fel y Weinyddiaeth Amaeth ac yna y Swyddfa Gymreig, Adran Amaeth.

Ond offis y War Ag oedd y fangre i sawl ffermwr yng Ngwynedd o hyd - ac roedd Gwynedd yn cynwnys ffermydd Sir Fon yr adeg honno.

Yr oedd amryw o feirdd gwlad ymysg ffermwyr yr hen Sir Gaernarfon ar un cyfnod, ac yn aml pan alwai rhai o'r gwyr hynny yn y swyddfa yng Nghaernarfon, ar derfyn y drafodaeth swyddogol anelwn am sgwrs farddonol ei chynnwys.

Un o'r rhain oedd y diweddar William Pritchard, Braich Dinas, Cwm Pennant. Nid oedd angen fawr o berswad ar William i'w annog i adrodd un englyn ar ol y llall o'i eiddo. Er bod toreth o waith yn disgwyl wrthyf, rhaid i mi gyfaddef y byddwn yn fwy na pharod i roi clust i'w lais cyhyrog, ac yn edrych ymlaen at ei ymweliadau.

Aelod hoffus o'r staff ar un adeg oedd y naturiaethwr a'r darlledwr Henry Lloyd Owen. Ei deitl swyddogol oedd Swyddog Pla, a byddwn wrth fy modd yn ei gwmni. O dro i dro deuai i yfed ei 'baned ddeg' yn ein rhan ni o'r swyddfa, lle'r oeddan ni'n dyst i rhibidires o straeon diddorol a throeon trwstan tu hwnt, am ei brofiadau.

Un bore, pwysleisiodd mor ddichellgar oedd yr anifail hwnnw, y llwynog.

Dylid cofio y byddai'r Weinyddiaeth yn talu hyn a hyn o arian i bob ffarmwr a fyddai'n dod a chynffon llwynog i'r swyddfa, fel prawf iddo ei ladd.

Soniodd Lloyd Owen fel y bu iddo unwaith saethu llwynog a thoi am adref a chorff y cadno dros ei war. Ond yn y man roedd angen agor giat a rhoddodd gorff y llwynog ar lawr ym mon y giat. Y funud honno daeth adfywiad rhyfeddol i'r cadno cyfrwys, a diflannodd yn swn ebychiadau lliwgar a bygythiol yr hen Lloyd Owen.

Nid cyfrinach oedd y ffaith fod ganddo'r tueddiad i golli ei dymer yn eithaf rhwydd o dro i dro, ac un bore uwch paned ddeg, gyda chyd-weithrediad gweddill y staff a chyda'r esgus fy mod yn mynd i olchi cwpan, fe ddefnyddiais ffon ystafell wag, a ffonio Mr Owen.

"Rhywun ar y ffon i chi," meddai'r ferch, fel yr oeddem wedi trefnu ymlaen llaw.

"Pwy sy' ne?" gofynnodd yn fy nghlust.

"Hym, hym William W an," medda finna gyda dipyn o atal dweud, "isio permit tyrchod Mr W an, plis."

Doeddwn i ddim wedi siarad yn eglur iawn, dim ond gofalu fod ambell air o bwys yn ddealladwy, fel 'permit tyrchod' a ddefnyddiwyd gan ffermwyr i gael strychnine o siop fferyllydd i ladd tyrchod, a'r swm yn ddibynadwy ar faint o aceri oedd gan y ffarmwr.

"Be ydi'ch cyfeiriad chi?" holodd. "Hym, hym, Tan hym, hym, Rallt Mr Lloyd W an." Erbyn hyn yr oedd yr hen gyfaill wedi decrhau colli ei dymer ac fe'i clywn o'n dweud wrth ei gynulleidfa o ddau neu dri "ew mae 'na rhyw greadur anodd ei ddallt ar y ffon 'ma, wn i ddim be gythrel mae o'n ddweud," ac ail-gydiodd yn y sgwrs gyda'r ffarmwr: "Faint o aceri sydd gennych chi?" "Ym, ym pum deg a thri," meddwn innau'n frysiog.

"Faint?" "Ym, ym pum deg a thri, Mr Lloyd W an." Holodd enw'r fferm drachefn, a minnau'n ateb yn aneglur eto, nes bod yr hen gyfaill bron a tharo'r to erbyn hyn.

Trodd at ei gynulleidfa eto i gwyno fod y boi ar y ffon yn anodd ei ddeall, ac yna taranodd yn nerthol yn fy nghlust i: "Sgwennwch lythyr i ni da chi a gofalwch roi y manylion i gyd ynddo fo!" A gyda hynny daeth ein sgwrs i ben.

Toc dychwelais i'r ystafell, a dywedodd Mr Lloyd Owen hanes 'y ffermwr anodd ei ddeall' wrthyf, a minnau'n ymddwyn yn ddiniwed wrth gwrs. Wnes i rioed ddweud wrtho yn nhreiglad amser mai fi oedd y William W an hwnnw!

GAN fy mod yn dipyn o ramantydd, roeddwn yn un o'r criw oedd ar y tren olaf un o Gaernarfon i Afonwen, ac yn eistedd yn yr un cerbyd a mi roedd ffermwr a adwaenwn yn weddol, gan y byddai'n galw heibio'r swyddfa o dro i dro, sef Robert Jones, Dafarn Faig, Garn Dolbenmaen, a buan iawn yr aethom i drafod hyn ac arall.

"Ydach chi'n cadw defaid rwan Robert Jones?" gofynnais.

"Na, dim rwan, dim ond defaid cadw te," oedd ei ateb.

Arhosodd ei ateb gyda mi am sbelan dda o'r daith honno, am y rheswm syml, wnaeth Robert Jones ddim ond newid lleoliad dau air, ac yr oedd hynny'n ddigon i roi gwedd hollol wahanol ar ei ddull ef o ffarmio.

? Rhagor o atgofion Rol Williams yr wythnos nesaf

CAPTION(S):

Rol Williams, Waunfawr, fu'n hel atgofion am ei gyfnod yn gweithio i'r Weinyddiaeth Amaeth yng Nghaernarfon
COPYRIGHT 2012 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2012 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Features
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Oct 31, 2012
Words:1176
Previous Article:Anghofiwch am Efrog Newydd, mae Oriel Ynys Mon lawer mwy cw l coeliwch chi fi.
Next Article:Coroner: Missing man fell to death.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters