Printer Friendly

Teimlo'n fwy lwcus nag erioed o gael byw yng Nghymru.

Byline: angharad TOMOS

RYDW i yn cyfrif fy mendithion yn aml - yn amlach pan mae''r tywydd yn braf, dwi''n cyfaddef. Ond dwi''n teimlo yn ddiolchgar mai yng Nghymru rydw i''n byw, ac yn Eryri yn arbennig. Nid yn unig rydan ni''n mwynhau y golygfeydd gorau yn Ynysoedd Prydain, ond mae''r iaith Gymraeg yn fyw iawn yma, ac rydan ni''n meithrin talentau arbennig.

Teimlais hynny ar yr 22ain o Orffennaf pan aethom i lawr i Barc Glynllifon. Roedd gwyliau''r Haf newydd gychwyn, ac roedd y plantos a''u traed yn rhydd. Lawr a ni i Lynllifon i weld cynhyrchiad diweddaraf Cwmni''r Frn Wen, Swyn y Coed. Rydw i wedi gweld digon o gynyrchiadau''r cwmni hwn i wybod beth bynnag a lwyfennir, bydd o safon, ac eto mi gaf syndod o ryw fath, wyddoch chi byth beth sydd o''ch blaen.

I''r sawl ohonoch sydd ddim wedi bod ym Mharc Glynllifon eto, ewch yno, ar bob cyfrif. Os byddwch chi''n mynd i gyfeiriad Porthmadog neu Bwllheli yr Haf hwn, dydi o ddim yn bell iawn o''ch ffordd. Mae''n un o''r parciau mwyaf hudolus yng Ngwynedd, ac mae''r Cyngor Sir yn gofalu amdano. Yr hyn a''i gwnaiff yn arbennig yw''r awyrgylch. Dwi wastad yn teimlo mod i''n tresmasu pan af yno (a chaf wefr o deimlo hynny!), fel taswn i''n cael cip ar foethusrwydd boneddigion dyddiau gynt.

Ond cryfder y lle yw''r digwyddiadau a gynhelir yno. Fan hyn y cychwynnodd Gwyl Gardd Goll, ac mae pob digwyddiad a gynhelir yma yn achlysur i''w gofio. Dyna pam yr ydym mor siwr mai Eisteddfod yr Urdd Dyffryn Nantlle 2012 fydd yr Eisteddfod orau erioed.

Chwedl Pwyll a Rhiannon oedd sail y stori, ond fyddech chi byth wedi dyfalu hynny o weld dyn mewn kakhi yn syrthio gyda''i barashwt i ganol y coed. O''r cychwyn cyntaf, roedd hwn yn ansicr pwy ydoedd a lle roedd wedi glanio. Drwy ei lygaid o yn bennaf y cawsom ein cyflwyno i''r cymeriadau eraill. Gwelsom ferch mewn gwisg wen yn cuddio mewn hanner cwch, ac roedd Manon Vaughan Wilkinson yn rhoi rhyw ddwysder i gymeriad trasig Rhiannon. Roedd yna gyd chwarae deheuig gan Elen Gwynne fel ei morwyn, a hi oedd y gorau yn fy marn i. Symudent o le i le, cawsom weld y garwriaeth rhwng Rhiannon a Phwyll (Emyr Wyn Gibson) oedd yn gadarn ac urddasol . Cyn cychwyn y daith roedd y plant wedi cael gwneud dipyn o waith paratoi gyda Shirley Owen, sef peintio ei hunain gyda phaent glas, yn nhraddodiad y Celtiaid, a sgwennu eu henw mewn Ogam ar ddarn o bren o amgylch eu gwddf (jest y peth fyddai wrth fodd plant).

Roedd haid ohonom ni famau, a phlant o bob oed, ynghyd a choetus a neiniau a phwy bynnag arall oedd eisiau bod yn rhan o''r cyfan. Rhaid rhoi clod i''r gwisgoedd (Erin Fflur Maddocks) ac roedd l llaw brofiadol Iola Ynyr ar y cyfan. Cawsom gyfeiliant dramatig y drymiau wrth inni symud o lech i lwyn, gyda''r coed enfawr yn gefnlen i''r cyfan.

Roedd cainc gyntaf y Mabinogi yn ddewis da - mae cymaint o emosiynau, yn gariad, brad, twyll, ofn, cynddaredd, gwallgofrwydd, dial a maddau i gyd yn dod i brofiad rhywun o fewn awr. Y difyrrwch mwyaf gefais i oedd astudio wynebau''r plant yn edrych mewn syndod ar yr hyn oedd o''u blaenau. Roedd rhywun yn gallu teimlo grym y stori. Un o''r munudau rhyfeddol oedd Rhiannon gyda''i adar papur, ac yna hi mewn cawell yn cael ei rhyddhau gan y peilot a ddihangodd. Down i wybod yn y diwedd mai hwn yw Pryderi. Cawsom gyfle i rannu yn y dathlu ar y diwedd, gyda phawb yn cael wy bach a hadau ynddo i''w ysgwyd, a dilyn gweddill yr osgordd gan orymdeithio (neu ddawnsio a sgipio) i ddwndwr y drwm.

Yn y toiledau yn ddiweddarach, roeddwn yn ceisio cael gwared o''r paent glas ar fy nhalcen a''m bochau, a''r ddynes yn y sinc wrth fy ochr yn edrych yn ddigon od arnaf. Chefais i fawr o hwyl ar y glanhau, ac yn y diwedd, bu raid i''r wraig gael gofyn i mi, "Excuse me, but what was that all about?" Trois ati, fel rhyw wrach Geltaidd biws, ac ateb yn falch, "It was a local theatr company - Cwmni''r Fran Wen - performing one of the legends of the Mabinogi."

Ddaru hyn ddim ei helpu ryw lawer, ac roedd yn dal i edrych ar y paent. "We painted ourselves blue - like the old Celts used to do" eglurais ymhellach.

"I was just wondering" meddai hithau, "we heard the drumming in the woods, and we couldn''t imagine what it was. It sounded so exciting."

"We''re very lucky in this part of the world" oedd geiriau olaf y Gymraes wrth iddi hwylio allan o''r lle chwech efo gwn fawr ar ei wyneb piws.

Angharad Tomos
COPYRIGHT 2011 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2011 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Aug 3, 2011
Words:797
Previous Article:Mynydd Rhos.
Next Article:Budd o'r Loteri; LLYTHYRAU.

Terms of use | Copyright © 2018 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters