Printer Friendly

Taith fythgofiadwy i Albania'r 1980au.

DYCHWELYD i Albania. Yn 1987 es i Albania gyda'm ffrind Gwilym Hughes, Amlwch.

Roedd pawb yn meddwl ein bod ni yn wallgof.

Yr oeddwn wedi darllen erthygl yn son am y wlad rhyfedd oedd wedi cyhoeddi eu hunain fel " Y weriniaeth di-grefydd gyntaf yn y byd".

Yr oedd gan Gwilym ddiddordeb hefyd yn y wlad - pan yn byw yn Rhyl prynodd radio a darganfyddodd Radio Tirana. Gyda'r nos ar ei ymweliad a thafarn y Ceffyl Gwyn cafwyd ganddo y newyddion diweddaraf o Albania.

Yr oedd rhaid mynd yno.

Hedfan i Belgrade ac wedyn ymlaen i Titograd, Montenegro.

Y bore wedyn aethom at y ffin.

Wrth gerdded i mewn i Albania yr oedd milwyr arfog o'n hamgylch efo'i gynnau yn pwyntio tuag atom ni.

Yn sydyn roeddwn mewn gwlad heb geir preifat. Y siopau'n wag o bethau i brynu. Dynion tenau, tywyll eu pryd, yn crwydro yn ddiamcan yn eu siwtiau di-siap.

Roedd yn ymddangos bod merched yn gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith caled mewn caeau cydweithredol anferthol yn chwynnu ac agor ffosydd.

Daeth rai Albaniaid dewr ataf i siarad. Eisiau gwybod os yr oeddwn yn adnabod Norman Wisdom. Yr oedd ei ffilmiau yn dderbyniol gan y llywodraeth am ei fod yn cynrychioli ymdrech y dyn bach i drechu y dosbarth rheoli.

Yn ystod yr wythdegau rhanwyd yr ymwelwyr yn ddwy garfan. Darllenwyr y Daily Telegraph a aeth yno i weld y gelyn ac i gadarnhau eu barn o pa mor ofnadwy oedd y system gomiwnyddol, ac hefyd darllenwyr y Daily Worker yn mynd gan credu bod Albania wedi darganfod yr ateb i holl problemau y byd.

Wedi saith diwrnod bythgofiadwy yr oedd rhaid mynd yn ol at y ffin.

Cyn croesi i Montenegro cafodd bob un o'n parti anrheg gan swyddog y llywodraeth. Cefais gopi o lyfr - y clasur 'The Thoughts of Enver Hoxha on the Middle East situation'. (Enver Hoxha oedd unben Albania ar y pryd). Darllenais y llyfr o un 'ben' i'r llall, wrth gwrs.

Y bore wedyn yr oedd ein awyren ychydig yn hwyr yn gadael am Belgrade oherwydd niwl.

Awyren Llundain oedd yn ein disgwyl ni yna - yr oedd y capten wedi cyhoeddi bod rhaid aros am parti o Albania cyn gadael.

Unwaith ar yr awyren dechreuodd Gwilym siarad gyda dynes wrth ei ochr.

Roedd hi yn Serb ac yn byw yn Llundain.

Ar y dechrau roedd hi'n ddigon anghyfeillgar - wrth glywed ni yn siarad Cymraeg yr oedd hi'n meddwl ein bod ni yn siarad iaith Albania.

Nid oedd hi yn hoffi Albaniaid, ond buan iawn y rhoddwyd hi yn ei lle gan Gwilym.

Yr oedd hi wedi meddwl ein bod ni yn garcharwyr gwleidyddol newydd ein rhyddhau.

Cafodd sioc o ddeal ein bod ni wedi mynd i Albania o'n gwirfodd ac wedi talu am y fraint o fynd yno!!

Deg mlynedd ar hugain wedyn roedd yn amser i fynd yn ol.

Y tro yma hedfan yn union i Albania.

Roedd y gwesty di-gysyr lle bum yn aros yn 1987 rwan yn westy rhyngwladol moethus.

Mae Albania yn wlad ddiddorol i ymweld. Pobl gyfeillgar a hynod addysgiadol yn byw mewn gwlad brydferth.

Cerwch yno cyn ei bod hi'n mynd yn rhy boblogaidd.

Hefin Thomas, Wrecsam

COPYRIGHT 2017 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2017 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Conwy, Wales)
Geographic Code:4EXAL
Date:Nov 29, 2017
Words:530
Previous Article:Son am Esgair Llyn yn codi atgofion am y cneifio.
Next Article:O ydi, mae ysbryd y Nadolig yn fyw ac yn iach yn y panto.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters