TV Wales: Wyth yn ymgiprys am ysgoloriaeth.
YR wythnos hon ar S4C, bydd cyfle i wylwyr ddilyn hynt a helynt wyth o bobl ifanc fwyaf talentog Cymru, wrth iddynt ymgiprys am Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru 2005. Daw'r cyfle hwn - sy'n werth pounds 4,000 i'r unigolyn buddugol - yn sgil eu llwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd draw ym Mae Caerdydd eleni.Cynhelir y rownd derfynol yng nghanolfan Galeri yng Nghaernarfon nos Sul, 18 Medi, pan fydd cyfle i'w gwylio hefyd ar S4C am 8.25pm ar y noson honno.
Ond cyn hynny, mae'r wyth yn bachu ar gyfle gwerthfawr i gael mymryn o ymarfer munud olaf - a hynny gyda rhai o'r goreuon yn eu maes. Bob noson yr wythnos hon felly, byddwn yn dilyn cystadleuydd gwahanol wrth iddo ef neu hi dderbyn hyfforddiant mewn Dosbarthiadau Meistri.
Ymysg yr arbenigwyr mae'r soprano Miriam Bowen, sy'n dysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama yng Nghaerdydd; y coreograffydd a'r ddawnswraig sydd bellach yn byw yng Ngwlad Belg, Sioned Huws; y gantores a'r cyn-enillydd Eisteddfodol, Nia Clwyd; y cerddor, arweinydd a phianydd Terence Lloyd; yr actor Shakespearaidd o'r Rhondda, Daniel Evans; a Tim Rhys-Evans, arweinydd corau Serendipity ac Only Men Aloud. Y rhain hefyd fydd y beirniaid ar y noson yn Galeri.
Beth felly am y cystadleuwyr eu hunain? Yr wyth sy'n mynd amdani eleni yw Nerys Alwena Brown - enillydd yr Unawd 19 -25 oed yn yr 3/4yl - o Garno; Catrin Evans (Llefaru 19-25 oed) o Lanerfyl; Glesni Fflur Evans (Unawd Cerdd dant 19-25 oed) o'r Bala; Llion Evans (Unawd allan o Sioe Gerdd 14-25 oed) o Ynys MOn; Carwyn James (Cyflwyno Drama Unigol 14-25 oed) o Gaerfyrddin; Glian Llwyd (Unawd Offerynnol 19-25 oed) eto o'r Bala, Gregory Vearey Roberts (Unawd Alaw Werin 19-25 oed) o Aberystwyth; a Lowri Walton (Dawns Werin Unigol i Ferched 15-25 oed) o Benarth.
Meddai Bryn Terfel, "Mae'r Dosbarthiadau Meistri eleni yn rhoi cyfle i'r perfformwyr ifanc roi sglein ar eu rhaglen ar gyfer yr Ysgoloriaeth. Dwi'n hynod falch gweld yr Ysgoloriaeth hon yn mynd o nerth i nerth ac yn datblygu ymhellach eleni."
Meddai Sien Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod a'r Celfyddydau Urdd Gobaith Cymru, "Gobeithio y bydd y cynlluniau newydd cyffrous ar gyfer datblygu Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru yn gyfle i ddatblygu sgiliau a thalentau'r goreuon hyd yn oed ymhellach. Dwi'n si3/4r y bydd gwledd yn aros y gynulleidfa yn Galeri a'r gynulleidfa adref ar noson yr Ysgoloriaeth, ac yn y rhaglenni sy'n dangos y gwaith paratoi
Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru 2005: Y Dosbarthiadau Meistri Darllediadau dyddiol ar S4C ac S4C digidol drwy gydol yr wythnos
CAPTION(S):
Bryn Terfel gyda'r wyth ymgeisydd
![]() ![]() ![]() ![]() | |
Title Annotation: | Features |
---|---|
Publication: | Daily Post (Liverpool, England) |
Date: | Sep 10, 2005 |
Words: | 435 |
Previous Article: | I went about my acne and I was offered liposuction; Keira Knightley tells Eileen Condon she nearly lost the role of Elizabeth Bennet because she was... |
Next Article: | TV Wales: Singh-along. |