Printer Friendly

Rhybudd o'r gorffennol i fyddigions y presennol; welshcolumn.

Byline: Dylan Iorwerth

WNES i erioed feddwl y baswn i'n teimlo cydymdeimlad at fyddigions ysglyfaethus o gefnog. Ond, ddydd Sul, mi ddigwyddodd.

Dros y ffin o'n i - yn y Midlands - ac mewn byd cwbl wahanol. Ar stad a oedd, ar un adeg, yn un o'r rhai mwya' cyfoethog yn Lloegr.

Doedd y teulu ddim yn enwog; roedd y rhan fwya' ohonyn nhw naill ai'n rhy brysur yn gwneud pres neu'n rhy swil i fentro lawer trwy'r drws ond, ar un adeg, roedd enw eu stad yn gyson yn y newyddion.

Union chwarter canrif yn l, a finnau'n ennill fy mara menyn yng nghoridorau tywyll San Steffan, roedd yna gryn dipyn o ddadlau am blasty o'r enw Calke Abbey. Yn y gyllideb y flwyddyn honno, roedd y Canghellor Toraidd wedi rhoi rhywbeth fel pounds 4m at warchod yr hen le.

Nodweddiadol, meddech chi - a finnau hefyd - maen nhw'n gallu ffeindio arian i arbed eu tebyg ac mi gafodd y penderfyniad ei gondemnio gan sawl sosialydd selog. Bellach, dw i'n ddiolchgar.

Dim ond enw oedd Calke Abbey tan ddydd Sul ac enw yr o'n i wedi ei hen anghofio. Tan hynny, doedd gen i ddim cliw lle'r oedd y bali lle, a llai fyth o ddiddordeb.

Ond mae o'n lle gwahanol. Nid cyfoeth sydd yno, mewn gwirionedd, ond olion cyfoeth. Yn hytrach na mynd 'r tye yn l i'w gyflwr gwreiddiol mae'r perchnogion, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (pwy arall), wedi ei gadw fwy neu lai fel yr oedd yn 1984.

Erbyn hynny, ac ers hanner canrif, roedd y rhan fwya' o'r plasty anferth ar gau a neb yn mentro hyd y coridorau tamp ac i'r ystafelloedd llychlyd. Roedd y perchnogion ola' wedi eu cau eu hunain mewn cwpwl o stafelloedd ac i gorneli o'r rheiny.

Hyd yn oed heddiw, mi allwch chi gael y teimlad o fyd yn cau amdanoch... fel petai'r lleithder yn dringo'n araf i fyny eich corff chithau nes eich tynnu i lawr a'ch pydru. Fel anifail wedi eich cornelu a'r bytheiaid wrth ddrws y ffau.

Roedd yn debyg iawn, ond ar raddfa lawer mwy, i blasty Llanerchaeron yng Ngheredigion lle bydd Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn nesa'. Yno hefyd, roedd plasty a moeth wedi dadfeilio'n raddol o amgylch yr etifedd ola'.

Mi fues i yno hefyd, cyn i'r gwaith atgyweirio ddechrau ac roedd yno'r un teimlad o sefyll ar draeth caregog a'r mr wedi hen fynd allan.

Ac, felly, werth edrych ar wyneb trist y perchennog ola', mi deimlais i bang o gydymdeimlad - etifedd oedd hwn, wedi cael ei eni gyda llwy arian yn ei geg a chroes o amgylch ei wddw.

Roedd rhai o'i gyndadau wedi diodde'n debyg - roedd un neu ddau ohonyn nhw'n ddychrynllyd o swil, yn batholegol felly. Ac roedd un arall yn gasglwr, yn gwario'i ffortiwn anferth ar stwffio anifeiliaid.

Roedd hi'n hawdd teimlo cydymdeimlad at y rheiny a nhwthau'n amlwg wedi cael eu dal yng nghyfoeth gwallgo'u teulu. Ond, wrth gwrs, roedd yna filoedd o bobol dlawd wedi diodde'n llawer gwaeth i greu eu hystd a'u treftadaeth.

A hyd yn oed os ydyn nhw wedi mynd, dydi pethau ddim wedi newid yn sylfaenol. Lle'r oedd eu catrodau nhw o weision, mae yna heddiw filiynau o ffoaduriaid economaidd yn ein gwasanaethu ni ac yn creu ffortiynau newydd a chyfoeth ffiaidd i rai.

Dyna pam ei bod hi'n dda bod Calke Abbey yno. Fel ysbryd o'r gorffennol, mae'n rhybudd i fyddigions heddiw. Yn union fel yr oedd y plasty gwirion-o-fawr yn faich i'r teulu breintiedig, mae enwogrwydd a moeth yn aml yn felltith ar blant a phlant y plant.

Yn Calke, roedd gweision yn gweini ar y gweision oedd yn gweini ar y gweision oedd yn gweini ar y gwyer mawr. Yn y diwedd, mae unrhyw gyfundrefn fel yna yn siwe r o chwalu'n rhacs.

Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddwr Golwg a Golwg360 CLICIWCH YMA Gellir darllen y colofnau Cymraeg ar ein gwefan WalesOnline.co.uk /cymraeg
COPYRIGHT 2009 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2009 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Western Mail (Cardiff, Wales)
Date:Oct 7, 2009
Words:651
Previous Article:The buzz of hunting for sandy treasure; A metal detectorist last month discovered Britain's biggest haul of Anglo-Saxon gold in a Staffordshire...
Next Article:Plaid could give Labour a future in Wales; The apparent certainty of Labour's defeat in the general election may mark a new low in the party's...

Terms of use | Copyright © 2017 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters