RHYFEDD yw'r adroddiadau am [...].
Byline: GAIR I GALL Lefi GruffuddRHYFEDD yw'r adroddiadau am yr ad-drefnu siroedd sydd ar y gweill a'r trafod y gallai Ceredigion orfod uno gyda Sir Benfro. Mor rhyfedd yw llawer o'r awgrymiadau nes 'mod i'n hanner disgwyl clywed David Moffet yn cynnig ei enw i ddatrys yr holl gymhlethdod (petaen nhw'n gallu ei fforddio fe).
Dw i'n siwr y gallem gael ein hysbrydoli gan lwyddiant rhyfeddol uno Castell-nedd ac Abertawe i greu tim rygbi Gweilch Tawe-nedd (fel oedden nhw'n wreiddiol), ac wedyn Pontypridd a Phen-y-bont i greu'r datrysiad gwych o'r enw'r Celtic Warriors.
Ma' uno Ceredigion a Sir Benfro yn gwneud tua'r un faint o synnwyr neu falle lai, fel tase chi am uno clybiau pel-droed Abertawe a Chaerdydd (neu uno'r FAW a'r FUW fel ma'r hollwybodus Alun Davies am ei wneud). Falle bod angen newid pethau, ac ma' rhyw synnwyr cyffredin i gael llai o gynghorwyr, ond fydde fe ddim yn lot o hwyl ymuno 'da Sir Benfro, yn arbennig i ni yma yn y Canolbarth ym mhen pella stribed o sir ddigon rhyfedd.
Dyna'r sir sydd newydd anfon y neges nawddoglyd, neu efallai un hollol gywir, yn nodi nad yw'r Gymraeg yn rhan flaenllaw o'u gwasanaethau cymdeithasol.
Ma' siwr gewn ni hwyl yn trio perswadio'r cyngor i gynnal cyfarfodydd a gweinyddiaeth drwy'r Gymraeg - rhywbeth sydd wedi bod yn amhosib hyd yn oed o dan arweinyddiaeth Plaid Cymru yn y Geredigion bresennol. Beth bynnag am hynny, does dim amheuaeth y byddai uno gyda Sir Benfro yn newydd go drychinebus i'r Gymraeg. Yn ogystal a hynny mae'r holl doriadau ag oblygiadau go ddifrifol i rhywle fel Aberystwyth.
Dw i'n sylwi nad yw Henebion Cymru sydd yn Aberystwyth ddim wedi uno gyda Cadw fel yr ofnwyd ac y bygythiwyd gan Huw Lewis - gall hynny o leia gadw 50 o swyddi yn y dref, am y tro beth bynnag.
Ond mae'r uno gyda Phenfro neu Ddyfed yn debyg o fod yn golledus iawn i'r dref. Ydi'r comisiwn 'ma wedi gweld yr adeilad crand newydd sydd gan Geredigion ar bwys adeilad y Cynulliad? Falle dyle rhywun ddweud wrth Tesco, Marks & Spencer neu'r bobl sy'n codi maes parcio aml-lawr newydd fod safle parod ar gael.
Ond mae gorddibyniaeth Aber ar y cyngor a'r sector gyhoeddus yn mynd i daro'r dre'n eitha drwg ddweden i, gyda 40% yn gweithio yn y sector gyhoeddus, a phawb yn wynebu toriadau (a chynnydd yn nhreth y cyngor).
Falle fod lle i wneud arbedion wrth uno ambell sefydliad arall? Beth am uno'r Cyngor Llyfrau a Llenyddiaeth Cymru a chael un sefydliad llyfrau yn Aberystwyth? Byddai hynny o leia'n rhoi gobaith i ni gael cynnal gwobr Llyfr y Flwyddyn yn Aber am newid.
Beth am uno'r Urdd gyda'r Cubs a'r Guides o dan rhyw nawdd brenhinol, a symud pencadlys y sefydliad hwnnw nol i Aberystwyth? Dw i'n ofni y bydd hi'n dod at y math yna o feddylfryd yn fuan. Rydyn ni eisoes wedi gweld bwyty yr Eidal Fach yn uno gyda thafarn Scholars.
Mae 'na son hefyd am fynd nol at yr hen Ddyfed.
Dw i ddim yn gweld hynny'n gweithio chwaith, er rhai o'r atgofion melys (mae gen i gap pel-droed Dyfed yng ngwaelod rhyw wardrob). Ma' popeth yn anochel yn mynd i ganoli yng Nghaerfyrddin, ac mae'r cynghorwyr Llafur ac Annibynnol lawr fanna'n waeth nag yng Ngheredigion hyd yn oed.
Neu oes opsiwn arall? Mae Mike Parker yn nodi mewn pol y posibilrwydd o uno gogledd Ceredigion i greu sir y Canolbarth, gyda Meirionnydd a Phowys, lle byddai rhannau o Ddyffryn Teifi yn uno gyda Sir Benfro. Neu falle mai'r cynllun gorau yw uno Ceredigion gyda rhannau o Orllewin a Gogledd Caerdydd - fydde digon o Gardis wedyn i gael un sir ddeche, a falle bydde bach mwy o Gymraeg nag sydd yno ar hyn o bryd, o bosib.
@LefiGruffudd
Ma'n gwneud synnwyr i gael llai o gynghorwyr, ond fydde fe ddim yn lot o hwyl ymuno 'da Sir Benfro
![]() ![]() ![]() ![]() | |
Title Annotation: | Features |
---|---|
Publication: | Western Mail (Cardiff, Wales) |
Geographic Code: | 4EUUK |
Date: | Feb 1, 2014 |
Words: | 653 |
Previous Article: | O Ddinbych y Pysgod i'r byd. |
Next Article: | In praise of the poet; He's influenced everyone from Bob Dylan to Terry Jones and just like the man himself, those who love him speak eloquently and... |