Printer Friendly

RHAGLENNI ETHOLIAD CYNULLIAD CYMRU YN BAROD I ADAEL EU MARC.

Etholiad y Cynulliad - E03, S4C, nos Iau, 10pm a 10.35pm Etholiad y Cynulliad - E03, S4C, dydd Gwener, 12.15pm WRTH i ddiwrnod Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru agosau cewch gyfle i ddweud eich barn chi wrth i `Garryfan' BBC Cymru ymweld a threfi ledled Cymru. Cerbyd y newyddiadurwr Garry Owen ydy'r `Garryfan' sydd ar grwydr drwy Gymru ar hyn o bryd gan roi cyfle i bobol bicio draw gyda'u sylwadau, materion llosg a phryderon am yr etholiad. Mae adroddiadau nosweithiol Garry a'i griw yn rhan o wasanaeth Newyddion nosweithiol BBC Cymru ar S4C.

``Bwriad y `Garryfan' yw rhoi darlun o'r ardal a cheisio darganfod teimladau pobol tuag at yr etholiad,'' esbonia Garry, sy'n wyneb cyfarwydd i wylwyr Newyddion S4C. ``Mi fyddwn ni'n cynnig rhyw fath o ddiwrnod yn hanes pentref neu dref wahanol bob nos. Mae'n ddull o gael darlun cywir o gonsyrns a phryderon pobol o lygad y ffynnon.''

Bydd y `Garryfan' yn ymweld a Phontardawe ar ddydd Llun, 28 Ebrill, Pontypridd ar ddydd Mawrth, 29 Ebrill a Chaerdydd ar ddydd Mercher, 30 Ebrill.

Hefyd, fe fydd S4C yn cynnig y gwasanaeth mwyaf cynhwysfawr posibl ar noson etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 1 Mai.

Fe fydd rhaglen Etholiad y Cynulliad - E03 yn edrych ar bob ongl a phosibilrwydd wrth i'r canlyniadau ddod i law. Bydd Dewi Llwyd, Rhun ap Iorwerth, Vaughan Roderick, Richard Wyn Jones a phanel o wleidyddion yn ymateb i'r canlyniadau yn y stiwdio gyda gohebwyr E03 yn barod i dorri'r newyddion diweddaraf o'r etholaethau mwyaf diddorol.

Dudley, S4C, nos Fawrth, 8.30pm BYDD Dudley Newbury yn cymryd cwch araf i Aberhonddu yn rhaglen gyntaf ei gyfres newydd ar ei gwest i ddod o hyd i gynnyrch blasus ym Mannau Brycheiniog.

Mynd ar drywydd `Bwyd Di-frys' fydd cogydd hwyliog S4C - athroniaeth newydd sy'n hybu bwydydd ffres, lleol, yn ystod eu tymor. Yn yr Eidal ddechreuodd y mudiad gyntaf mewn gwrthryfel yn erbyn canolfannau `Bwydydd Cyflym' sy'n gwerthu'r un math o gynnyrch drwy'r byd i gyd.

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw'r lle cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu'r syniad newydd hwn fel y bydd Dudley yn darganfod wrth grwydro ar hyd y gamlas rhwng Y Fenni ac Aberhonddu. Gobaith Awdurdod y Parc yw hybu cynnyrch ffermwyr lleol a rhoi hwb i'r economi yn ogystal a chynnig bwydydd a blas cofiadwy fydd yn denu ymwelwyr.

Mae Jane Lewis yn hyrwyddo'r ymgyrch ar ran y Parc. Mae hi wrth ei bodd gyda'r llwyddiant y mae wedi'i gael hyd yma. ``Dechreuom ni ym mis Mawrth y llynedd gyda chwe busnes yn rhan o'r cynllun. Bellach, mae dros ugain gyda ni, ac mae'r nifer yn codi o hyd. Yn ogystal ag annog bwytai a thafarndai i ddarparu cynnyrch lleol, rydym ni nawr yn targedu busnesau gwely a brecwast hefyd. Rydym wedi cael ymateb ffafriol iawn gan ymwelwyr.''

Crwydro, S4C, nos Fercher, 8.25pm CRWYDRO yn Sir Gaerfyrddin y byddwn yr wythnos hon yng nghwmni'r Parchedig Canon Patrick Thomas a Iolo Williams. Mae Patrick yn dewis cerdded yn ardal Brechfa, lle roedd yn offeiriad am 17 mlynedd. Man cychwyn y daith ydy Llanfihangel Rhos y Corn, ac eglwys `y plwyf cosb', fel y'i hadnabyddir gan rai. ``Roedd y myfyrwyr yn Llanbed yn gweddio na fyddent yn cael eu penodi yma,'' meddai Patrick dan chwerthin. ``Dyma un o'r eglwysi mwyaf anghysbell yng Nghymru, mae mor ddiarffordd.''

Wrth iddynt barhau a'u taith drwy bentref Gwernogle a draw i Frechfa, cawn glywed hanes Patrick a aned yn Y Trallwng, cyn symud i Swydd Derby yn 7 oed. Dim ond fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caergrawnt y daeth i werthfawrogi pwysigrwydd ei wreiddiau Cymreig a phenderfynu sefyll papur mewn Cymraeg Canol.

Yn ddiweddarach, pan yn astudio ar gyfer gradd uwch yn Aberystwyth penderfynodd hyfforddi i fod yn offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru. Adeg hynny roedd prinder o weinidogion Cymraeg eu hiaith a dyna a'i hysgogodd i ddysgu'r iaith o ddifrif. Erbyn hyn, mae Patrick wedi symud o Frechfa i Gaerfyrddin, ond mae'r tri phlwyf gwledig yn dal a lle arbennig yn ei galon.

``Mae Llanfihangel Rhos y Corn, Brechfa ac Abergorlech ill tri a chymeriad unigryw, a chymeriadau unigryw yn byw ynddynt,'' meddai Patrick. ``Mae rhai pobl yn dweud mai peth drwg yw canolbwyntio'n ormodol ar faterion lleol, ond mae'n dda bod yn `blwyfol' weithiau!''

Ar dy Feic, S4C, nos Sul, 8.30pm BYDD dod o hyd i wely cynnes yn dasg hawdd i Hywel Gwynfryn wrth iddo ymweld a Geraint a Sonia Evans yn Seland Newydd yn Ar dy Feic yr wythnos hon.

Gwerthodd y cwpl o Lannerchymedd ddwy fferm y teulu, Cae Mawr a Tai Hirion yn Sir Fon er mwyn prynu motel ar Ynys y Gogledd, lle maen nhw bellach yn byw gyda'u merch 4 oed, Megan.

Ar ol cyrraedd Seland Newydd, dechreusant ar y gwaith o redeg y motel yn syth, a hynny dros gyfnod y Nadolig, yr adeg brysuraf. Erbyn hyn maen nhw wedi cyflogi rheolwr, sy'n rhoi mwy o amser iddynt weithio ar eu fferm ugain acer. Mae bywyd yn Seland Newydd yn wahanol iawn, ond yn fywyd braf yn ol Geraint. ``Dwi'n colli nos Wener pan o'n i'n arfer mynd i drafod hefo'r hogiau yn nhafarn y Rhos!'' esbonia. ``Y pris 'dan ni'n ei dalu am fyw fan hyn ydi ein bod ni'n colli pethau felly. Ond wedi d'eud hynny, 'dan ni ddim yn gorfod wynebu'r dyddiau sy'n fyr a'r diwrnodau lle mae'n bwrw glaw trwy'r dydd... Dan ni'n lwcus ofnadwy.''

CAPTION(S):

Bydd Dewi Llwyd a phanel o wleidyddion yn ymateb i ganlyniadau'r etholiad
COPYRIGHT 2003 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2003 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Features
Publication:Western Mail (Cardiff, Wales)
Date:Apr 26, 2003
Words:914
Previous Article:Review: Not worth the Outhwaite.
Next Article:Welsh Homes: It's end of an era for family; Mansion will pass out of familiar hands as it comes on market for first time in 400 years.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters