Printer Friendly

Profiad i'w drysori yng Ngwe yl Dinefwr er gwaethaf rhai man drafferthion.

Byline: angharad TOMOS

OS ydych chi eisiau cadw pobl yn llwyr o''ch gweyl, dyma''r ffordd berffaith o''i wneud. Bod yn eitha dibynnol ar bebyll mawr a chanfod fod y gwynt a''r glaw wedi ei gwneud yn ddiwerth erbyn y diwrnod cyntaf. Ail-drefnu''r cwbl fel eu bod wedi eu lleoli mewn ystafelloedd, ond newid yr amseroedd a''r mannau ymgynnull (fwy nag unwaith) nes nad oes gennych y syniad lleiaf lle ydych chi i fod ar amseroedd arbennig. Wedi i mi gael y profiad hwn ddwywaith, ron i am ofyn am y deirpunt am y rhaglen yn l, ac yn ystyried gadael Gweyl Dinefwr y noson honno. Dwi''n falch na ddaru mi.

Doedd dim pwynt bod yn flin, yn enwedig a hithau''n Fis Mehefin Gwylypa''r ''Rioed.

Cymrais blentyn naw mlwydd fel tywysydd, a chanfod fy hun yn gwrando ar Ffuglen Wyddonol Dr Who (dwi''n cas[sz]u Dr Who). Ond yn yr amrywiaeth mae''r gyfrinach mewn gwyliau fel hyn, a gadewais y persona Hen Ddynes Flin rhywle rhwng Castell yr Arglwydd Rhys a''r blodau menyn. Euthum i wrando ar dair chwaer yn canu''n swynol dan yr enw The Staves, ac aros yn fferru yn y babell streips nes daeth Gruff Rhys ar y llwyfan. Erbyn hynny, roedd y plentyn yn cysgu, a''i hoff ganeuon am Lys Arthur a Gyrru Gyrru Gyrru yn hedfan heibio i''w ben draenog. Tyrd adre, meddwn, yn freuddwydiol wedi swyn Gruff Rhys, a dyma gysgu yn y Berlingo dan andros o leuad mawr melyn.

Yn blygeiniol y bore wedyn, roedd diffyg pabell wedi peri fod y Dyn Peintio Adar rhywle yn uchelfannau Plas Dinefwr, a dyna lle roeddan ni efo soser o baent amryliw yr un, a brwsh.

Rhannodd Matt Sewell ei hoffter o adar gyda ni, a dyna orig braf oedd honno. Penderfynais nad oedd dim sy''n eich ymlacio yn well na pheintio lluniau adar yn y bore bach. Rhannu bwrlwm criw o feirdd Cymraeg wedyn, cyn cael Gweithdy Comics gyda Huw Aaron. Dyna fyddwn i yn ei frolio yn arbennig am yr weyl hon (heblaw y lleoliad trawiadol) oedd yr amrywiaeth.

Nid lln yn unig a gynigiwyd, roedd digon o waith celf i''w wneud a cherddoriaeth. Roedd hefyd - gan mai dyma''r tro cyntaf - yn ddigon bach, ac mae rhywbeth hyfryd am hynny. Dyna sydd wedi diflannu yn llwyr o rywle fel Gweyl wyl Y Gelli. Mae honno wedi colli y mymryn Cymreictod oedd ganddi, ond roedd ochr Gymreig Dinefwr yn ddigon hyfyw - byddai''n gywilydd iddi beidio a bod! Yr unig rai a edrychai yn hurt o glywed yr heniaith oedd staff y Nashiynyl Tryst. Peth o hwyl yr weyl oedd siarad Cymraeg efo''r rhain. Wn i ddim sut oedden nhw''n teimlo wrth weld traed rapsgaliwns yn camu drwy eu hystafelloedd crand, (ond mi fedra i ddychmygu) ond mae''n iawn fod pobl gyffredin yn cael meddiannu plasdai moethus o bryd i''w gilydd. Un o bleserau''r penwythnos oedd suddo i hen gadair esmwyth gyfforddus, a cwtshio i wrando ar stori. Mae o''n brofiad sy''n gymaint o bleser, ac eto''n rhywbeth mor syml.

Petasai, ...petasai''r haul yn gwenu - fel y dylai ar benwythnos olaf Mehefin - byddem yn eistedd ar y gwair yn mwynhau''r pitsas ffresh o''r pobty clai yn yr iard. Ond mater o fochel rhwng cawodydd oedd hi gan mwyaf, a byw mewn wellingtons am dridiau a chotiau glaw. Difyr iawn oedd stori Huw Aaron, a''i wers fer ar ddawn y cartwnydd. A thra aeth y mab i sesiwn Stwnsh a chael y siawns i stwnshio Bardd Plant Cymru, sleifiais i''r Ystafell Fwyta i wrando ar 'Datblygu a''r Sn Gerddoriaeth Gymraeg''. Pwnc difyr, ond wn i ddim a oedd gwrando ar dri boi y cyfryngau yn actio hogiau drwg a direidus yn gwneud cyfiawnder 'r testun. Rebel go iawn yw Dave Datblygu. Rebels smal oedd y gweddill.

Mae 'na sawl peth na welais, megis yr arddangosfa gwehyddu rhisgl coed ar y Lawnt Croce, na''r Gweithdy Sgiliau Syrcas. Dyma benderfynu boicotio y siop Waterstones oedd yn rhan o''r weyl. Fel rhan o''r arlwy fwyd, roedd stondinau bwyd amgen organig, a''r pwyslais ar y lleol a''r iach. Os mai dyna oedd y rhesymeg efo bwyd, pam ddim efo llyfrau (yn enwedig efo gweyl lenyddol)? Fydden nhw byth wedi gwadd Starbucks yno, felly pam rhoi lle i Waterstones? Onid oedd gwerthwr llyfrau Cymraeg ar gael yn rhywle - neu a oedd Caerfyrddin yn rhy bell? Ar wahn i ambell beth hurt fel hyn, roedd o''n dridiau rhagorol. Steve Eaves oedd ar y fwydlen nos Sadwrn, wedi detholiad bachog gan feirdd crwydrol o hanes yr iaith ar ffurf cyflwyniad Dal Dy Dafod. Trois am adre cyn cinio Sul wedi cael fy ngwala o ddiwylliant a difyrrwch. Bydd ceirw Dinefwr a''r am dro i gastell yr Arglwydd Rhys i weld yr afon Tywi yn aros yn ddelweddau hardd iawn yn y cof.
COPYRIGHT 2012 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2012 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Features
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Jul 4, 2012
Words:798
Previous Article:Gardd wyllt ar garreg y drws; BYD NATUR.
Next Article:N.Wales councils hire 800 as others axe staff; They buck trend as posts down 6,000 across country.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters