Pigion Y DYDD.
Paparazzi (S4C, 4.25pm)Dyma raglen ar gyfer pobl ifanc sydd yn ceisio mynd dan groen byd y selebs yn Llundain - gan gwrdd ambell seleb o Gymru'r un pryd!
Yn y rhifyn yma, bydd Luke Davies o Ysgol y Strade yn cwrdd e'r cyflwynydd a'r newyddiadurwr Huw Edwards ac yn cael cyfle i'w weld wrth ei waith gyda'r BBC yn Llundain. Yn y cyfamser, bydd Rhodri Owen yn rhoi sialens i gymeriadau Rownd a Rownd yn Stadiwm y Mileniwm tra bydd Sarra Elgan yn Efrog Newydd ar gyfer rhifyn arall o 'Mond yn America'.
WawFfactor (S4C, 8.25pm)
Yn y byd sydd ohoni bellach, ym maes cerddoriaeth bop mae gan sioeau talent gerddorol le amlwg iawn. Ymunwch ag Eleri SiOn wrth iddi gyflwyno'r rownd gynderfynol o'r gyfres ddifyr hon sy'n edrych am seren newydd i'r son cerddorol yng Nghymru.
Bydd y panel o feirniaid, sydd yn cynnwys Aled Haydn Jones, o sioe radio Chris Moyles ar Radio 1, y canwr a'r actor Huw Chiswell, cyn gitarydd Catatonia - Owen Powell, a'r DJ, Radio 1- Bethan Elfyn, yn dewis a dethol y goreuon o'r cystadleuwyr - a hynny wrth bwyso a mesur eu cryfderau a'u gwendidau.
Wrth i'r pedwar olaf ganu am le yn y ffeinal, dim ond tri fydd yn cael camu ymlaen i'r rownd olaf tra bydd un cystadleuydd yn cael ei anfon adref.
Ond a fyddwch chi yn cytuno e phenderfyniad y beirniaid?
![]() ![]() ![]() ![]() | |
Title Annotation: | Features |
---|---|
Publication: | Daily Post (Liverpool, England) |
Date: | Mar 18, 2006 |
Words: | 233 |
Previous Article: | What to WATCH. |
Next Article: | Tri ffrind yn helpu i drawsnewid garej yn ganolfan chwarae. |