Printer Friendly

Pam mae'n rhaid iddi fod mor anodd i sicrhau mynediad i rai o'n henebion?

Byline: rhys

RHWYSTREDIGAETH yw'r ddolen gyswllt yr wythnos hon a'r hyn sydd dan sylw yw'r anhawster ar adegau i sicrhau mynediad i rai o'n henebion ni yma yng Ngogledd Cymru. Fe soniais yn y golofn yr wythnos dwetha am rai o ffynhonnau Llyen sydd dan do a dan glo. Efallai fod hynny yn angenrheidiol nes fod "ymddygiad gwrth-gymdeithasol" yn cael ei ddatrys a dyma mae'n debyg yw'r rheswm fod Tomen y Bala bellach dan glo.

Yn gwisgo fy het "dysgu" roeddwn wedi treulio bore bendigedig yn Ysgol y Berwyn, a rhaid dweud mai dyma'r disgyblion ysgol / pobl ifanc mwyaf cwrtais i mi eu cyfarfod ers amser.

Yno i sn am gychwyn busnes fel rhan o gynllun Dynamo (Menter a Busnes) oeddwn i a phleser oedd cael dosbarth o bobl ifanc 14 oed yn gwrando ac yn trafod. Anodd gennyf gredu fod unrhyw broblemau gwrth-gymdeithasol yn y Bala o ystyried y fath gwrteisi a welais yn Ysgol y Berwyn.

Ar l gorffen yn yr ysgol fe es draw i Gapel Tegid i dynnu llun o gofeb Thomas Charles, galwais heibio am sgwrs yn Awen Meirion, cefais ginio ardderchog yn Caffi'r Cyfnod a wedyn ymlwybrais draw am yr hen domen (caeedig).

Unwaith eto dim ond croeso a chwrteisi a welais ar strydoedd Bala, yr Iaith Gymraeg oedd iaith y stryd a phawb yn trio eu gorau i gael hyd i'r goriad i mi gael cerdded i ben y domen.

O gopa'r domen mae cynllun strydoedd Bala i'w gweld ac yn benodol y drefn grid sydd yn nodweddiadol o hen drefi canol oesol lle roedd y tir yn cael ei rannu mewn plotiau "burgage" ymhlith y trigolion.

Ond chefais i ddim y profiad yma, ofer oedd chwilio am y goriad, ac yn y diwedd penderfynais ar dacteg wahanol.

Dyma dynnu lluniau drwy'r ffens fawr oedd yn gwarchod y castell. Mae gennyf luniau tebyg o ran cyfleu y rhwystr rhag mynediad o Gor y Cewri drwy'r ffens weiran o amgylch y safle.

Y peth arall od am Domen y Bala yw fod yr holl beth wedi ei dirweddu, mae yna lwybr i'r copa, a choed wedi eu plannu - a hyn ar safle hen gastell Normanaidd o'r 11eg neu 12fed Ganrif. Ni chefais fy argyhoeddi o gwbl gyda'r "tirweddu" er fel y deallais fod hyn wedi creu gwaith i bobl ifanc oedd angen gwaith sydd bob amser yn rhywbeth i'w ganmol mewn egwyddor.

I'r gogledd o Lyn Tegid, mae cymaint a phedair safle lle codwyd cestyll o bridd a phren - sef ar hyd lannau'r Dyfrdwy, rhai yn Normanaidd ac eraill o bosib yn rhai Cymreig, yr holl gestyll yn awgrymu fod rheoli a chadw threfn ar yr ardal yma wedi bod yn bwysig yn ystod y Canol Oesoedd. Tomen y Bala yw un o'r mwyaf o ran maint a'r awgrym felly yw mai yma oedd canolfan maerdref ardal Tryweryn.

Ar daith arall bu i mi daro mewn i Nefyn, eto cael cinio rhagorol y tro yma yn Nghaffi Penwaig, ac i ddefnyddio iaith disgyblion ysgol dyddiau yma, mae wy, pys a sglodion Caffi Penwaig yn haeddu "A-Serennog".

Dros y ffordd i'r caffi mae'r hen dwer gwylio, yn amlwg newydd ei atgyweirio. Ond unwaith eto dan glo. Unwaith eto rhaid dringo ar ben wal a thynnu llun dros y ffens. Dim byrddau dehongli, dim mynediad. Piti.

A'r enghraifft olaf yr wythnos hon, a hyn ychydig yn wahanol ac i ddweud y gwir yn hollol eithriadol. Yn gwisgo fy het "darlithydd" mae gennyf ddosbarth Dysgu Cymraeg / Archaeoleg (Dysgu Gydol Oes) drwy Brifysgol Bangor bob bore Mercher yn festri Capel Ebenezer, Llanfairpwll. Rwan fel arfer rydym yn cael egwyl am baned tua'r hanner amser a dyma un o'r dosbarth yn sylwi fod rhywun wedi dringo i ben Twer Ardalydd Mn. Yr argraff gyntaf oedd fod rhywun ar fin neidio o ben y twer mewn gweithred o hunanladdiad dramatig dros ben nes i ni sylweddoli fod mwy nac un ar y twer ac yn wir fod rhaffau yn eu clymu rhag disgyn.

Dipyn o ddirgelwch felly, efallai fod yna waith cynnal a chadw ar y golofn, felly dyma ddychwelyd at y dosbarth. Ond roedd gormod o chwilfrydedd gennyf i deithio yn syth adre felly dyma benderfynu cael dro bach i weld beth oedd yn digwydd ar l cloi'r festri.

Wrth gyrraedd y bwthyn bach lle mae rhywun yn talu mynediad i gael cerdded y 115 stepan i ben y twer dyma gael gwybod nad oedd posib mynd i fyny ar y diwrnod hwn.

Dyna siom meddyliais. "Oes gwaith cynnal a chadw felly?" Yr ateb oedd fod myfyrwyr Coleg Llandrillo yma yn dringo ar y twer - un o'r cyrsiau "magu hyder" - drwy ddringo lawr o uchder - felly roedd y golofn wedi ei chau i'r cyhoedd ond roedd croeso i mi aros a gwylio am ychydig.

Unwaith eto dyma glywed lleisiau Cymraeg yn uchel uwch fy mhen, 112 troedfedd i fod yn fanwl gywir, a dyma wylio disgyblion o Bwllheli yn trechu unrhyw ofnau ac yn disgyn yn esmwyth.

Diddorol iawn, dim gormod o rwystredigaeth gan fy mod yn Llanfairpwll bob bore Mercher am y deg wythnos nesa felly bydd digon o gyfle i mi gael troedio'r 115 stepan yn yr wythnosau i ddod.

Efallai mai'r awgrym caredig yw fod angen cyfeiriad neu rhif ffon os yw'r henebion yma yn mynd i fod dan glo, a fod y broses o gael hyd i a benthyg y goriad yn un gymharol hawdd achos mae yna bobl allan yna hefo diddordeb ac sydd yn sicr o barchu'r henebion.
COPYRIGHT 2011 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2011 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Oct 19, 2011
Words:915
Previous Article:I CONSIDERED CHEATING.
Next Article:Un o filiwn yn canu mewn gwe yl gorawl.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2020 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters