MAE heddiw yn ddiwrnod pwysig, sef diwrnod cyhoeddi enillwyr
Gwobrau Tir na-Nog eleni, gwobrau sy'n cael eu cyflwyno i'r
goreuon sy'n ysgrifennu ar gyfer plant a phobol ifanc. Bydd y
seremoni wobrwyo yn digwydd yn fyw ar Uned 5 (S4C, 5.00pm), yng
nghwmni'r cyflwynwyr Catrin, Bedwyr a Lowri.
Bydd nifer o s r yn darllen darnau o'r llyfrau sydd wedi dod
i'r brig. Mi gawn ni hefyd y cyfle i alw i mewn i Barti Sbondonics
ac ymuno x gweithdy barddoniaeth yng nghwmni Bardd Plant Cymru, Mei Mac.