O'r maes awyr i'r gegin am 12 awr; Y CELFYDDYDAU.
WEDI dychwelyd o daith hectig yn gigio o gylch America, byddai'r rhan fwyaf o gantorion yn falch o'r cyfle i orffwys a chael rhywfaint o gwsg - ond nid felly Lisa Jen Brown.A hithau adref yn ddiogel ym Methesda wedi tair wythnos yn canu mewn gwahanol lefydd yn America - fe anelodd hi'n syth amy gegin!
"Dwi'n caru coginio," meddai. "Ro'n i'n teimlo mor rhwystredig mod i heb gael cyfle i goginio ers cyhyd," esbonia Lisa sydd wedi bod yn canu gyda Gruff Rhys ar y daith Candylion.
"Ddes i adre a chwcio ambron i 12 awr! Nes i chutni bitrwt, tair torth, bisgedi a stew - mae'r amser yn diflannu pan dwi'n y gegin."
A hithau mor hoff o goginio, does rhyfedd fod Lisa'n mwynhau ei sialens newydd yn cyd-gyflwyno'r rhaglen Blas ar BBC Radio Cymru gyda Rhodri Ogwen Williams a Brychan Llyr.
"Mae'n brofiad gret i rywun fel fi sydd wrth ymmodd efo bwyd," medd Lisa.
"Dwi yn fy elfen yn mynd i wyliau bwyd ac yn sgwrsio efo pobl sy'n rhedeg bwytai - gan fusnesu r'un amser.
"Da ni'n darganfod pobl ddiddorol iawn yng Nghymru sy'n gneud petha gwerth chweil o fewn y farchnad fwyd.
Yr wythnos hon fe fues i yn Llewenni yn sir Ddinbych yn ymweld a Catrin ac Euros Evans sy'n cadw anifeiliaid a thyfu eu llysiau eu hunain ac maen nhw newydd agor siop ar y tir.
"Fe brynais i lysiau yna ac fe wnes i gawl bendigedig efo nhw - roeddach chi'n medru blasu'r gwahaniaeth."
Pan nad yw'n actio neu'n canu gyda'i grwp 9bach, coginio sy'n mynd a'i hamser, neu mynd a'i chi defaid Cymreig, Bobi Bingo, am dro.
Mae'n byw bellach yn hen dy ei nain ymMethesda gyda'i theulu o'i chwmpas.
"Mae pawb yn ein teulu ni'n gwcs o fri - fy chwaer, fy mama 'nhad. 'Da ni'n cael cinio dydd Sul gyda'n gilydd gan fynd o gylch y tri thy gwahanol yn eu tro ac mae pawb yn trio cystadlu a'i gilydd. Mae'n gret o beth gan fod pawb yn cwcio pethau gwahanol a rheini i gyd yn flasus tu hwnt," ychwanega Lisa sy'n amlwg a choginio yn y gwaed!
Blas, Dydd Mercher, BBC Radio Cymru, 12.15pm; Ail-ddarllediad Dydd Sul, 1.15pm
CAPTION(S):
Lisa Jen Brown Llun Martin Roberts
![]() ![]() ![]() ![]() | |
Publication: | Daily Post (Liverpool, England) |
---|---|
Date: | Oct 24, 2007 |
Words: | 376 |
Previous Article: | A wyddoch chi... Y CELFYDDYDAU. |
Next Article: | Casgliad yn gofnod o yrfa grwp arloesol; Y CELFYDDYDAU. |