Printer Friendly

Noddfa fechan yn swn y mor; BYD NATUR.

Byline: Gan BETHAN WYN JONES

RYW ddiwrnod ddigon be na i oedd hi. Y cymylau'n isel a llwyd ac roedd hi wedi dechrau smwc bwrw pan grwydrais i draw i Borth Diana ger Trearddur. Mae'r enw'n fy synnu - tybed ai llygriad ydi hwn o ryw enw arall? Beth bynnag am hynny, wedi mynd draw i weld gwarchodfa fechan o'r un enw sydd ym mherchnogaeth Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru oeddwn i. Mae'n reit hawdd dod o hyd i'r warchodfa, rydach chi'n dilyn y llwybr troed, ac mae arwyddbost y llwybr reit wrth ymyl yr arwydd Porth Diana.

Roeddwn i'n ddigon ffodus o gael fy arwain yno gan Ben Stammers o'r Ymddiriedolaeth, ac mi eglurodd mai safle fechan iawn ydi Gwarchodfa Porth Diana, sydd wedi cymryd yr enw o'r traeth bach sydd fwy neu lai gyferbyn a'r warchodfa, ond ei bod yn bwysig fel darn sy'n weddill o rostir arfordirol.

Amgylchynir y safle gan dai ar un ochr, carafanau ar ddwy ochr a chae ar yr ochr arall, ac mae llwybr troed yn arwain drwy'r safle.

Mae codiad tir yng nghanol y safle ac mae creigiau yn brigo i'r wyneb yma, ac yma yn y tywydd poeth mae cyfle i weld gwiberod a madfallod. Dyma'r union fath o gynefin maen nhw'n ei hoffi gan eu bod yn aml yn torheulo ar greigiau sy'n brigo i'r wyneb ac eto yn cael lle i lechu dan yr eithin sydd ar y safle. Yn anffodus, doedd o ddim y math o ddiwrnod oedd yn denu gwiberod!

Roedd Ben, unwaith, wedi bod yn ddigon ffodus o weld gwiber yn rhoi genedigaeth i un fach, oedd tua'r un maint a phensel, a'i gweld yn anadlu ei hanadl cyntaf.

Wrth gerdded ar hyd y llwybr troed i gyrraedd y safle roedd darn o wal ar un ochr a'r ddeilen gron, gwyddfid a bysedd y cwn yn tyfu arni. Yn y warchodfa roedd 'na lwyth o wahanol flodau gwyllt tlws iawn fel yr amlaethai (milkwort) glas sy'n flodyn bach cain iawn. Y briwydd wen (Galium saxatile; heath bedstraw) oedd blodyn arall oedd i'w weld yna yn ogystal a melog y cwn (Pedicularis sylvatica; lousewort). Mae melog y cwn yn gwbl nodweddiadol o'r math yma o gynefin - tir hefo ychydig iawn o faeth a dyfnder daear lle mae'r graig yn aml i'w gweld yn brigo i'r wyneb.

Trychfilod bach sy'n byw yn y cynefin yma ydi sioncod gwair, ac un welsom ni ac y llwyddodd Ben i'w ddal oedd robin sbonc y ddol neu sioncyn gwair y ddol (Chorthippus parallelus; meadow grasshopper). Wrth gerdded drwy'r warchodfa roedd y llwydfron (Sylvia communis; whitethroat) a chorhedydd y waun (Anthus pratensis; meadow pipit) yn canu.

Y seren yn y warchodfa fach yma ydi'r cor-rosyn rhuddfannog (Tuberaria guttata; spotted rock-rose) a hwn ydi blodyn swyddogol Ynys Mon. Mae hwn yn flodyn sy'n eithriadol o brin ac yn gyfyngedig ei ddosbarthiad yng Nghymru i ardaloedd tir calchog ar Ynys Cybi a Phen Llyn. Blodyn bach ydi o hefo smotiau duon y tu mewn i'r pum petal felen. Mi fues i'n eithriadol o lwcus o weld hwn yn ei flodau ac i weld clystyrau ohono. Mae'n rhaid i chi ei ddal ar yr union amser cywir gan ei fod yn blodeuo unwaith yn unig yn ystod ei fywyd ac mae'r petalau disgyn o fewn oriau wedi iddyn nhw agor.

Roedd briweg y cerrig a melog y cwn yn tyfu yn ei ymyl, ac roedd digonedd o faw cwningod a'u tyllau i'w gweld o gwmpas y lle.

Wrth edrych tua'r gorllewin o ben y graig roedd cae islaw, oedd yn rhan o'r warchodfa ond yn llawer iawn gwlypach. Yma roedd sioe ddigon o ryfeddod o'r gellesg (Iris pseudacorus; Yellow iris) a robin garpiog neu carpiog y cors (Lychnis flos-cuculi; ragged robin) yn un cwrlid pinc hardd. I'r ochr ddeheuol lle roedd mwy o goed, mae moch daear yn byw yn ol Ben.

Mae'r warchodfa fach hon, fel gweddill gwarchodfeydd yr Ymddiriedolaeth Natur, yn agored i'r cyhoedd, ac wir mae'n berl fach o warchodfa ac yn llecyn sy'n werth ymweld ag o.

CAPTION(S):

Y cor-rosyn rhuddfannog; yr amlaethai; Ben Stammers yn edmygu'r cor-rosyn rhuddfannog, a sboncyn y gwair y ddol
COPYRIGHT 2015 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2015 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Conwy, Wales)
Date:Jun 24, 2015
Words:693
Previous Article:Dim pwynt cael egwyddor os nad ydych yn ei chadw; BARN.
Next Article:Ail-ddarganfod y brwsh a'r paent; Bethan Gwanas BARN.
Topics:

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters