Mwynhau her y Talcen Caled; Annes Glynn yn sgwrsio a'r act ores a'r sgriptwraig deledu, Mirain Llwyd Owen.
`Tydi Bywyd yn Boen!'' oedd cri Delyth Haf gynt wrth iddi drio dod i delerau a threialon bywyd merch bymtheg oed -- rhieni, hogia, ysgol, y byd! Pymtheg mlynedd yn ddiweddarach ac y mae'r act ores fu'n portreadu'r hogan ifanc llawn angst yr arddegau, a seiliwyd ar gyfrolau poblogaidd Gwenno Hywyn, yn canfod nad yw bywyd yn gymaint o boen wedi'r cyfan. Yn wir, mae'n fwrlwm braf a hithau erbyn hyn yn cyfuno ei gwaith fel actores a bod yn sgriptwraig deledu.Bu Mirain Llwyd Owen yn ysgrifennu i'r cyfresi drama Tipyn o Stad, Amdani!
a Pobol y Cwm ac yn ystod yr wythnosau diwethaf bu'n portreadu Magi yn nrama gyfres afaelgar Meic Povey, Talcen Caled.
``Dwi wedi bod yn ddilynwr brwd o Talcen Caled erioed, '' meddai Mirain amy ddrama a leolir ym Mhorthmadog ac sydd bellach ar ei phedwaredd gyfres. ``Mae'r cymeriadau yn arbennig iawn ac mae sgriptio Meic Povey yn wych.
``Felly pan ges i gynnig rhan Magi yn y gyfres bresennol, roedd o'n an odd gwrthod. Wedi dweud hynny, roeddwn i'n poeni braidd, gan 'mod i'n gymaint o ffan, y byddwn i'n gwneud cam a'r gyfres. Ond yn ffodus dw i wedi cael ymateb da i'r cymeriad gan wylwyr. ''
Mae'r hero'i phortreadu yn un y mae'n ei fwynhau. ``Mae hi'n gymeriad mor ddiddorol a rhyw ddirgelwch yn perthyn iddi o'r dechrau. Mae Magi wedi cael bywyd dig on caled. Bu farw ei mam wrth ei geni hi a dydi ei thad (Iori, a chwaraeir gan John Pierce Jones) erioed wedi maddau iddi hi am hynny. Mae hi wedi cael bywyd ynysig ar y ffarm a heb gael fawr o gyfle i gymysgu. Ar un adeg mi ddaru hi drio torri i ffwrdd a mynd i'r coleg, ond roedd hi adre' mewn fawr o dro. Mae'n gymeriad cymhleth hefo lot yn corddi y tu mewn iddi. ''
Mae'n cyfaddef ei bod hi'n teimlo braidd yn nerfus cyn ymuno a'r cast. ``A doeddwn i ddim wedi gweithio efo John Pierce Jones o'r blaen. Ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi cael miloedd o hwyl yn ei gwmni fo, a phawb wedi bod yn glen. ''Yr hyn y mae'n ei hoffi amy gyfres meddai yw'r ffaith fod pethau'n `mudferwi' a phob math o bethau'n ffrwtian o dan yr wyneb heb fod rhyw ddigwyddiadau dramatig mawr yn taro'n gyson. 'r gyfres bresennol yn dirwyn tua'i therfyn yr wythnos hon, y cwbl y mae Mirain yn fodlon ei ddatgelu am Magi ar hyn o bryd yw bod ``llygedyn o obaith'' iddi ar ei diwedd.
Un peth sy'n sicr, mae Magi'n un go wahanol i Delyth Haf, y cymeriad a hudodd Mirain i fyd y ddrama a theledu yn y lle cyntaf. Ar hap bron y digwyddodd hynny meddai a hithau'n cael ei hannog gan ei hathro Cymraeg yn Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon ar y pryd i fynd amy clyweliadau er nad oedd ganddi brofiad actio cyn hynny. ``Pymtheg oed oeddwn innau ac roeddwn i'n medru uniaethu efo'r cymeriad. Doedd gen i ddim arddull na dim, dim hang ups. Mi wnes i jest bwrw 'mlaen a'i wneud o a mwynhau'r profiad. Mi roedd o'n gymaint o hwyl ac mi agorodd ddrws newydd i mi. ''
A hithau wedi meddwl a studio Ffrangeg, ymhellach ar un adeg, penderfynodd Mirain astudio Llen Cymraeg a Llen y Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor. Er bod elf en Ddrama yn y cwrs, roedd yn tueddu i fod yn rhywbeth mwy damcaniaethol nag ymarferol meddai a dim ond un cynhyrchiad a lwyfannwyd yn ystod ei chyfnod yno. Miss Julie oedd y ddrama honno a chafodd y cyfle i chwarae'r brif ran, profiad re it frawychus meddai gan mai dyma ei phrofiad cyntaf o actio ar lwyfan ond un y gwnaeth hi ei mwynhau yn fawr er hynny.
Ers iddi adael y coleg mae hi wedi actio rhan Anwen, merch John Albert (Maldwyn John) yn y gyfres ddrama boblogaidd Pengelli a'r cymeriad Jo yn y gyfres i bobl ifanc Rownd a Rownd. Ond wedi meithrin y ddawn i ddehongli ac anadlu bywyd i eiriau awduron eraill, penderfynodd Mirain fynd ar gwrs sgriptio o dan y cynllun Cyfle yn 2000 ac erbyn hyn ma en un mor brysur yn sgriptio ac yw hi'n actio. ``Dw i wrth fy modd yn chwara efo geiria a chlywed yr actor ion yn eu dweud nhw.
Mae hi wedi ysgrifennu sgriptiau i Rownd a Rownd yn ogystal a Tipyn o Stad a'r gyfres ddiweddaraf o Amdani! ac y mae wrthi'n ysgrifennu ar gyfer Pobol y Cwm ar hyn o bryd -- ``Yr acen ydi'r peth mwya gwahanol efo sgwennu i'r gyfres honno ond mae'r ffaith fod rhywun wedi dilyn y gyfres dros y blynyddoedd, heb son amy ffaith fod gen i lot o ffrindia coleg yn Hwntws, wedi bod o help mawr i mi o ran hynny!'' meddai. Dywed i'r faith ei bod hi'n actio hefyd wedi bod o help pendant wrth feithrin y ddisgyblaeth o ysgrifennu sgriptiau. ``Mae rhywun yn fwyymwybodol o'r ffordd y mae pobol yn siarad. Mae rhywun yn trio canfod beth ydi'r ffordd hawsaf o ddweud gwahanol bethau. '' A bydd yn darllen am bell linell all an yn uchel os yw'n peri mwy o drafferth nag arfer. ``Mae rhywun yn defnyddio'i glust. ''
Ei huchelgais yn y pen draw yw ysgrifennu rhywbeth ei hun, o'r cychwyn cyntaf, ar gyfer y teledu. ``Mae 'na syniadau'n troi. Gawn ni weld. . . '' Ond mae'n awyddus i ddal a ti a'r actio ar yr un pryd hefyd meddai. Waeth beth ddigwydd, ``ei chymryd hi fel mae'n dod, '' yw athroniaeth Mirain y dyddiau yma meddai, yn wahanol iawn i'r cymeriad Delyth Haf gynt!
Mirain Llwyd Owen from Y Felinheli portrays the complex character Magi in the drama series, Talcen Caled.
Talcen Caled S4C, Nos Sul, 9pm; repeated Tuesday with English sub-titles
CAPTION(S):
Pa ddyfodol sy'n wynebu Magi (blaen), Gwenno (Mari Wyn Roberts) a Dic (Stewart Jones)?
![]() ![]() ![]() ![]() | |
Title Annotation: | Features |
---|---|
Publication: | Daily Post (Liverpool, England) |
Date: | Nov 13, 2004 |
Words: | 979 |
Previous Article: | overheard. |
Next Article: | The funny side of life; Comic Huw Marshall on how being the fat lazy one landed him an acting role. |