Mwynhau'r hedd yng Nghors Bodgynydd.
BYD NATUR Gan BETHAN WYN JONES Tawelwch y lle wnaeth yr argraff fwyaf arna i. Y tangnefedd oedd i'w deimlo yma. Roeddwn i'n medru clywed 'tsip-tsip-tsip' y gylfingroes (Loxia curvirostra; Crossbill) yn galw o'r pellter yn y coed ond fel arall, doedd 'na ddim smic. Dim ond ymdeimlad llwyr o heddwch y gwanwyn - y distawrwydd cyn i natur ffrwydro yn wallgo las.Ond rydw i'n rhoi'r drol o flaen y ceffyl. Dowch i mi ddweud lle roeddwn i. Yng Nghors Bodgynydd, ac wedi mynd yno yng nghwmni Rob Booth, swyddog gwarchodfeydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
I gyrraedd yno, rydach chi angen troi wrth y Ty Hyll (rhwng Capel Curig a Betws y Coed) a dal i fynd nes y gwelwch chi arwydd Llyn Geirionnydd. Troi wrth yr arwydd yma a dal i fynd am ryw chwarter milltir go dda nes y gwelwch chi fymryn o gilfan i droi i mewn iddo a reit yn ymyl, mae 'na giat bren a logo'r Ymddiriedolaeth arni hi. Ac rydach chi yno.
Un llwybr troed sy'n arwain drwy'r warchodfa, ac mi wnaiff y llwybr yma eich arwain i Gapel Curig yn y pendraw.
Gwartheg oedd yn fy nghroesawu i yno - mae 'na bedair ohonyn nhw i gyd a ffermwr lleol sy'n eu pori yno er mwyn cadw'r tyfiant i lawr. Maen nhw'n arbennig o ddefnyddiol yn pori glaswellt y gweunydd (Molinia caerulea; Purple moor grass), yn torri'r rhedyn ac yn bwyta coed helyg ifanc.
Cynefin gwlyb ydi hwn ac mae enghreifftiau o cyforgors, ffen a chors yma. Fe'i ffurfiwyd i ddechrau tua 1625 pan wnaeth dyn ddechrau cloddio am blwm yn yr ardal hon.
Roedd yn rhaid cael dwr ar gyfer y broses ac felly fe adeiladwyd argae gan ffurfio Llyn Bodgynydd Bach yn y top ac yn is i lawr, argae arall i ffurfio Llyn Ty'n y Mynydd.
Roedd hyn y gadael y canol yn gynefin gwlyb, a dros y blynyddoedd, mae o'n raddol wedi llenwi hefo mwsoglau, mawn a phlanhigion.
Gan fod planhigfeydd o goed o amgylch, yn raddol dros y blynyddoedd, yn y canol roedd coed conifferaidd fel sbriwsen Sitca a sbriwsen hemlog y Gorllewin wedi hadu a thyfu.
Fe gwympwyd y rhain yn ystod nawdegau'r ganrif ddiwethaf a gyda chymorth grwpiau o wirfoddolwyr yn dal i glirio'r rhai sy'n aildyfu a'r gwartheg yn pori, mae'r Ymddiriedolaeth wedi llwyddo i adfer y tir i'r cynefin gwlyb, cyfoethog sydd yno rwan.
Beth sydd yma erbyn heddiw ydi cynefin go arbennig lle mae amrywiaeth o'r migwyn, fel y Sphagnum magellanicum, yn tyfu ac ambell i rywogaeth o'r migwyn sy'n eithaf prin yng ngogledd Cymru.
Mae'r rhedynen gyfrdwy (Osmunda regalis; Royal fern) i'w gweld yma ac mae hon yn eithaf prin yng ngogledd Cymru. Mae cnwp-fwsoglau yn tyfu yma hefyd ac mi fues i'n ddigon ffodus i weld un neu ddau.
Roedd cnwp-fwsogl y gors (Lycopodiella inundata; Marsh clubmoss) yn arfer tyfu yma ond mae ryw ugain mlynedd ers pan gafodd ei weld. Mae'n hoff o dir asidig a'r gred ydi fod llai o goed conifferaidd a llai o law asid yn cyfri am ei absenoldeb.
Mae helygen Fair, llafn y bladur, chwys yr haul neu'r gwlithlys, tafod y gors a'r chwysigenddail bach i gyd i'w canfod yma. O ganlyniad mae digonedd o drychfilod o gwmpas.
Yn yr haf, mae tua dau ar bymtheg o wahanol rywogaethau o weision neidr a mursennod i'w canfod yma. Un o'r rheini ydi'r picellwr cribog (Orthetrum coerulescens; Keeled Skimmer), sy'n brin ond sydd i'w ganfod yma.
Mi fedrwch hefyd ganfod y waell ddu (Sympetrum danae; Black Darter) a'r fursen dinlas fach (Ischnura pumilio; Scarece Blue-tailed Damselfly) yma.
Mae'r giach cyffredin (Gallinago gallinago; Snipe) a'r giach bach (Lymnocryptes minimus; Jack snipe) i'w gweld yma hefyd.
Os dowch chi yma fin nos, mae'n ddigon posibl y bydd modd i chi glywed y troellwr (Nightjar) yn galw, ac mae'r Ymddiriedolaeth wedi trefnu dwy daith drwy'r warchodfa am 8.30 y nos ar yr 8fed a'r 16eg Mehefin er mwyn clywed yr aderyn nodedig hwn.
Pryd bynnag y dewiswch chi fynd draw am dro i Gors Bodgynydd, dwi'n reit siwr y cewch chi, fel finna, eich swyno gan y lle.
Wrth sgwennu hyn o bwt, rydw i'n ymwybodol iawn mai dyma'r tro olaf y bydda i'n sgwennu hefo Tudur Huws Jones fel Golygydd. 'Blaw amdano fo, faswn i ddim wedi cael y cyfle i ymweld a'r holl fannau hudolus rydw i wedi cael cyfle i'w gweld dros y blynyddoedd ac rydw i tu hwnt o ddiolchgar iddo fo am y cyfle.
![]() ![]() ![]() ![]() | |
Publication: | Daily Post (Conwy, Wales) |
---|---|
Date: | Apr 25, 2018 |
Words: | 749 |
Previous Article: | Morris off to a flier on the European GT stage; Marford racer Seb takes second place on Blancpain debut. |
Next Article: | S4C yn gwario PS3m ar [...]. |