Printer Friendly

Morio stormydd bywyd... a mwy.

Byline: Gan TUDUR H JONES tudur.jones@trinitymirror.com

NOS Sul ar y rhaglen DNA Cymru ar S4C, clywodd yr actor John Pierce Jones ei fod yn rhannu elfennau genynnol pobol o benrhyn Iberia. Roedd posibilrwydd hefyd, yn ol y rhaglen, ei fod o dras y Llychlynwyr ar ochr ei fam.

"Yn wyddonol, mae'n ddiddorol ffeindio allan o ble 'da chi wedi dwad, lle mae'ch genynnau chi, be' 'di pendraw eich bodolaeth chi, ond fel arall, yn athronyddol, be' ydw i a pwy ydw i? Wel, hogyn o Sir Fon wedi cael ei fagu yn Sir Fon, dyna ydw i," meddai John, sy'n wreiddiol o Niwbwrch.

Ac mae'r fagwraeth honno yn cael dipyn o sylw yn ei hunangofiant - Yr Hen Ddyddiadau - sydd newydd gael ei gyhoeddi.

Ffordd o ddod i adnabod rhywun yn well ydi hunangofiant yn y bon, ac mae hwn yn gwneud popeth y dylai hunangofiant da ei wneud.

Mae'n onest a dadlennol, a thrwy bortread byw iawn o'i blentyndod cawn wybod a deall llawer am gymeriad y John Pierce Jones y daeth nifer fawr ohonom i'w adnabod fel Arthur Picton - cymeriad sydd wedi bod yn fendith ac yn felltith iddo ar hyd yn blynyddoedd, meddai.

Mae'n hunangofiant hynod ddarllenadwy, gydag ambell i ddarn lle byddwch yn chwerthin yn uchel ac eraill lle byddwch yn eich dagrau bron. Ac mae'r sgwennu'n gelfydd, fel y byddech yn ddisgwyl gan actor sydd hefyd wedi ysgrifennu neu gyd-ysgrifennu rhai o gyfresi doniola'r Gymraeg - Diar Diar Doctor (efo Wil Sam) Glas y Dorlan (efo Meic Povey) a Teulu'r Mans (efo William Owen Roberts) i enwi dim ond tair.

Mae John yn ffodus o fod wedi gweithio ar rai o gyfresi mwyaf poblogaidd yr iaith Gymraeg, megis C'Mon Midffild. Ond mae o wedi gweithio efo rhai o'r enwau mawr ar draws y ffin yn Lloegr hefyd, a hynny eto ar gyfresi mor boblogaidd a Blackadder, Only Fools and Horses a Dr Who. Cawn glywed am y profiadau hynny, a llawer o rai cyffelyb, ond mae'n datgelu hefyd sut a pham y cafodd ei ddenu i'r busnes actio yn y lle cyntaf.

Mae'r ffilm Madam Wen, a ddarlledwyd yn nyddiau cynnar S4C, wedi bod yn dipyn o destun sbort erioed, ond mae John yn datgelu ambell i ffaith annisgwyl amdani: Er iddo gael gwersi reidio ar gyfer y ffilm, cafodd ei feirniadu yn Y Cymro oherwydd ei ddiffyg sgiliau marchogaeth. Ond nid John oedd ar gefn y ceffyl yn yr olygfa y cyfeiriwyd ati!

Ac wrth gychwyn ffilmio ei olygfa farchogaeth gyntaf, roedd John wedi dechrau ymgynefino a'r ceffyl du yr oedd o'n credu y byddai'n ei reidio.

Roedd hwnnw'n farch digon tawel ei natur, ond och a gwae, clywsai John swn ceffyl yn gweryru ac yn cicio mewn lorri geffylau gerllaw. Ia, hwnnw oedd ceffyl John - stalwyn Sbaenaidd o'r enw Fury - ac mae ei ddisgrifiad o'r olygfa lle bu'n carlamu'n wyllt i lawr y cae efo'r cynhyrchydd yn gweiddio ei fod yn mynd i'r cyfeiriad anghywir, yn un o nifer o straeon doniol iawn am y ffilm.

Fel hyn y mae'n disgrifio golygfa garu deimladwy rhyngddo a Marged Esli, oedd yn chwarae rhan Madam Wen: "Yr wythnos ganlynol roeddan ni'n ffilmio'r olygfa sensitif, deimladwy honno yng ngerddi Gwesty Bodysgallen ger Llandudno. Roedd pethau'n mynd yn wych ond yng nghanol un o ddarnau tawel, tyner yr olygfa, gollyngodd un o'r trydanwyr y rhech fwyaf a glywais i erioed. Er i ni drio cario 'mlaen i actio, methu wnaethon ni."

Mae ei farn am C'mon Midffild yn ddadlennol hefyd: "Dros y blynyddoedd mae nifer fawr iawn o bobol wedi dod ata i a gofyn, 'Dwi'n siwr ych bod chi 'di cael amser da yn ffilmio'r C'mon Midffild 'na; lot o sbort dwi'n siwr?' Wel do, mewn ffordd, ydi'r ateb.

"Roedd y cyfnod yn un anhygoel o hapus a dedwydd i mi, yn gweithio ar sgriptiau rhagorol efo actorion gwych a oedd hefyd yn ffrindiau agos. Roedd y criw cynhyrchu hefyd ymysg y rhai gorau a mwyaf diwyd y cefais y fraint o weithio efo nhw.

"Ond roedd y gwaith yn galed iawn, iawn gan ein bod yn codi cyn pump bob bore a chyrraedd adre tua saith neu wyth y nos. Roedd pawb yn cymryd y gwaith o ddifri, a bu i hynny dwi'n siwr ychwanegu at lwyddiant y gyfres."

Roedd brwydr John efo'r botel eisoes yn hysbys cyn iddo gyhoeddi'r llyfr, ond mae'n delio efo'r bennod ddifrifol honno yn ei fywyd heb geisio rhamantu am y peth - dim ond ei dweud hi fel y mae hi, ac fel yr oedd hi iddo fo ar y pryd.

Magwyd John ar fferm Cefn Mawr Uchaf, Niwbwrch yng nghefn gwlad Mon yn y 1950au, ac mae talp helaeth o'r gyfrol yn son am y fagwraeth honno ac mae'n bortread manwl a chynnes o'r cyfnod, ond gyda nifer o ddigwyddiadau dirdynnol hefyd, megis hunanladdiad dau o'i deulu agos. Daw teitl y gyfrol o rhywbeth ddywedodd ei fab, Iwan, pan oedd yn bedair oed, pan ofynnodd i'w dad son am yr "hen ddyddiadau, maith maith yn ol."

Hunangofiant gwerth ei gael.

Yr Hen Ddyddiadau; John Pierce |Jones; Gwasg Carreg Gwalch; PS9.50

CAPTION(S):

John Pierce Jones yn y gyfres Codi Hwyl (S4C) |

John fel yr anfarwol Arthur Picton - |melltith a bendith o gymeriad iddo
COPYRIGHT 2015 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2015 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Conwy, Wales)
Date:Dec 9, 2015
Words:876
Previous Article:Jem to sparkle at Lingfield.
Next Article:Ukip 'set to win AMs in N.Wales'.

Terms of use | Copyright © 2017 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters