Printer Friendly

Miloedd yn ysbrydoli ym Merthyr.

Byline: BARN Angharad Tomos

ROEDD Rhys Mwyn yn cwyno yr wythnos dwytha ei fod yn digalonni, ac roedd mwy nag un yn ei chael hi - dosbarth gweithiol Casnewydd a Chwmbran, a'r rhai naif oedd yn chwifio baneri 'Yes Cymru' (sydd ddim mwy na 'phiso yn y gwynt'). Y cyngor sydd gennyf i Rhys yw ymuno yn y protestiadau, a diosg mantell sinigiaeth.

Un o'r rhai sydd wedi gwneud hynny yw Greta Thunberg, enw nad oeddwn i na fawr o neb arall wedi ei glywed tua blwyddyn yn ol. Falle mod i wedi cymryd mwy o ddiddordeb ynddi gan ei bod yr un oed a fy mab, fe'i ganed yn Ionawr 2003. Rai blynyddoedd yn ol, roedd hi'n teimlo ddigon tebyg i Rhys Mwyn, ynghylch newid hinsawdd, ond roedd hefyd yn teimlo'n llegach, ac wedi colli ei harchwaeth. Yna, fe benderfynodd y byddai'n syniad gwneud rhywbeth. Cofiaf deimlo yn ddigon dibwys pan ron i'n bymtheg oed, yn teimlo ar dan dros Gymru a'r Gymraeg, ond yn methu cyfrannu fawr ddim at y frwydr, gan mod i'n rhy ifanc.

Merch ysgol yn Stockholm ydi Greta, a daeth i'r casgliad y gallai fynd a'i galwad at y Senedd. Ffigwr unig oedd hi yno, efo'i phlacard cardbord yn galw ar Senedd Sweden i weithredu ar newid hinsawdd. Ond wrth dynnu sylw, cafodd eraill eu hysbrydoli, a dyma nhw'n ymuno efo hi. Lledodd y syniad i wledydd eraill. Mewn mater o fisoedd, roedd plant ysgol mewn sawl dinas dros y byd yn cael 'Gwener i'r Dyfodol'/ 'Friday for Future', pan oeddent yn cymryd amser o'r ysgol i brotestio. Yn fuan iawn, gwahoddwyd Greta i gynhadledd gan y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd.

Eleni, roedd Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Weithredu er mwyn yr Amgylchedd yn cael ei chynnal yn yr Unol Daleithiau, a rhai yn gweld hyn yn her i Greta.

Os oedd hi yn erbyn hedfan ar sail egwyddor, roedd hi'n amlwg yn mynd i fethu bod yn bresennol yn y Gynhadledd. Yn ei ffordd ddi-gyfaddawd ei hun, daeth Greta dros yr anhawster - gallai fynd yno mewn llong hwylio, a dyna a wnaeth. I mi, roedd hynny yn drobwynt.

Os gallai merch mor ifanc ddioddef pythefnos o daith ddigon anghyfforddus er mwyn peidio teithio mewn awyren, dylwn innau wneud hefyd. Doeddwn i ddim wedi hedfan er tua degawd, ond eleni, a minnau eisiau cyrraedd Sardinia, roedd hi'n haws dal awyren.

Fyddai Greta ddim wedi gwneud, a dylem ninnau ddilyn ei hesiampl.

I'r rhai sy'n dweud mai yn yr ysgol ddylai Greta a phlant eraill fod ar ddydd Gwener, mae ganddi ateb parod. Ofer yw idddi hi a'i chenhedlaeth fod tu ol i ddesgiau yn dysgu ar gyfer ei dyfodol os yw'r union ddyfodol hwnnw yn cael ei fygwth gan newid hinsawdd. Petai pawb eisiau safon byw Sweden, byddai angen 4 planed fel y Ddaear, a dim ond un sydd yna. Rhaid i Sweden a gwledydd eraill ostwng eu allariadau carbon 15% yn flynyddol er mwyn cydymffurfio a Chytundeb Paris a Kyoto.

Mae Greta yn galw ar blant pob gwlad i bwyso ar eu Senedd i ymrwymo eu hunain i'r cytundebau hyn. Oni wnant, y gwledydd tlawd sy'n dioddef. Ac mae plant y byd yn streicio ar ddyddiau Gwener. Ewch ar dudalen trydar Greta, a gweld lluniau o blant dros y byd i gyd yn cefnogi ei galwad.

Ym Mhenygroes, dyma feddwl mai da o beth fyddai cael murlun yn tynnu sylw at eiriau Greta. Y dyfyniad oedd 'Mae newid yn dod, - lecio fo neu beidio'. Ychwanegwyd plethen wrth y dyfyniad gan fod hyn yn un o nodweddion Greta. Dim ond am ddeuddeg awr y gwelwyd y murlun cyn bod paent gwyn wedi ei orchuddio. Ond mae'r neges yn dal yno, yn llai amlwg, ac yn dal i'n herio. Mater i ni yw ystyried y ffeithiau. Ydyn ni yn euog o 'ddwyn' dyfodol cenhedlaeth Greta? Gair cyn cloi am Rali Annibyniaeth Merthyr. Os mai 'piso yn y gwynt' oedd y miloedd yng Nghaernarfon, anodd iawn dweud hynny am Merthyr. Mae mater annibyniaeth yn sicr o daro tant yn yr Arfon Gymraeg, nid felly ym Merthyr. Mae cael dros 5,000 ar Sgwar Penderyn dros annibyniaeth yn hanesyddol.

Roedd bod yno yn fraint. Os na chawsoch y cyfle i fod yno, ewch ar safle trydar AUOBCymru (All Under One Banner), a chewch glywed yr areithiau. Mae rhywbeth mawr yn digwydd. Ac fel y dywedodd un o'r siaradwyr, "Siaradwch am y mater gyda rhywun arall, lledwch y neges. Dyna fydd yn gwneud gwahaniaeth".

Mae cael miloedd yn dod i drefi fel Caernarfon a Merthyr yn gwneud gwahaniaeth. Mae'r sgwrs yn codi yn naturiol, yn y siopau, a'r caffis ac ar y stryd. A wna i na sawl un arall anghofio'r wraig ger cartref Joseph Parry. Gan weld y torfeydd yn mynd heibio ei chartref, daeth allan, yn ei chot wely biws. Safodd yno mewn syfrdan. Gwelodd rhywun ei gyfle, rhedodd ati i sgwrsio a hi, a rhoi copi o 'The Nation' yn ei llaw. Fuo fo'n drobwynt iddi? Wn i ddim, ond mi gafodd y cyfle. Dyna sy'n codi calon, ac yn cadw anobaith draw.

Dwi'n sgwennu hwn ar nos Sul, 83 mlynedd i'r diwrnod y llosgwyd yr Ysgol Fomio yn Llyn. Mor hawdd ym 1936 fyddai anobeithio ac amau doethineb ymosod ar ysgol fomio a herio holl rym yr Ymerodraeth Prydeinig. Trodd un fflam fach yn gam pwysig yn hanes Cymru. Weithiau mae un weithred fach yn cydio yn nychymyg y genedl. Wyddoch chi byth........ Yr unig ffordd sicr o gadw'r status quo yw gwneud dim.

CAPTION(S):

Gorymdaith Merthyr Tydfil Dydd Sadwrn. Chwith isod: dyfyniad gan Greta Thurnberg. Lluniau gan Angharad Tomos.
COPYRIGHT 2019 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2019 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Conwy, Wales)
Date:Sep 11, 2019
Words:937
Previous Article:Departing Monday 18 Nov Situated [...].
Next Article:Dragons to host St Mirren rookies as Quay visit Partick; FOCUS ON SPFL CHALLENGE CUP 4TH ROUND DRAW.
Topics:

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters