Mentora Manw - stori Tara Bethan.
UN peth sydd wedi bod yn ganolog i lwyddiant Manw drwy'r broses Chwilio am Seren Junior Eurovision yw cymorth ei mentor Tara Bethan.
Mae Tara yn gantores ac actores brofiadol iawn ac roedd ganddi lwyth o gyngor i Manw a fu o gymorth iddi yn ystod y gyfres Chwilio am Seren Junior Eurovision ar S4C.
Mae'r ddwy yn amlwg yn agos iawn ac yn cydweithio'n dda. Yn ol Manw, roedd gweithio gyda Tara yn un o uchafbwyntiau Junior Eurovision.
"Dwi wedi gwirioni'n llwyr hefo Tara, mae hi'n fentor gwych ac mor ddoniol hefyd," meddai Manw Lili Robin, 14 oed o Rostryfan, Gwynedd. "Mae'n berson mor anhygoel ac mae'n dwad o'r Gogledd!" Mae Tara wedi bod yn gweithio gyda Manw ers iddi ennill Chwilio am Seren yn Llandudno ar ddechrau mis Hydref i greu a pherffeithio ei pherfformiad ym Minsk.
"Dw i wrth fy modd bod Yws Gwynedd wedi cael y cyfle i greu trac mor ffynci a punchy," meddai Tara. "Dw i'n browd iawn ohono fo ac o Manw achos mae'r gan 'Perta' wedi cael ymateb brilliant."
Bydd Tara yna wrth ei hochr yn helpu hi drwy'r ymarferion a thrwy'r ffeinal. Ac fe fydd y canlyniadau i'w gweld yn fyw ar Chwilio am Seren Junior Eurovision - Y Ffeinal ARVS4C ddydd Sul, 25 Tachwedd, 3.00pm, pan fydd miliynau'n gwylio ar wahanolsianeli ledled y byd.
"Mae wedi bod yn fraint cydweithio efo talent mor dda a thalent wahanol i beth mae Cymru eisoes wedi gweld ar ein llwyfannau arferol," meddai Tara, sy'n bendant ei barn bod cymryd rhan yn y Junior Eurovision yn bwysig i Gymru a'r iaith Gymraeg.
"Dw i wedi teithio lot yn bersonol dros y blynyddoedd, wedi cwrdd a phobl o bob cwr o Ewrop a'r byd ac wedi synnu bo nhw'n synnu bo gennym ni iaith yng Nghymru," medd Tara. "Gobeithio bod hwn yn blatfform i Gymru ddweud wrth y byd bod gennym ni iaith sydd yn fyw a bod pobl ifanc sydd yn defnyddio'r iaith yn falch ac yn browd iawn ohoni."
Junior Eurovision 2018: Y Ffeinal Dydd Sul 25 Tachwedd, 3.00 S4C
![]() ![]() ![]() ![]() | |
Title Annotation: | Features |
---|---|
Publication: | Daily Post (Conwy, Wales) |
Date: | Nov 24, 2018 |
Words: | 348 |
Previous Article: | SOAPBOX; what's happening in the week ahead. |
Next Article: | Y Ffair Aeaf yn dangos bod dyfodol disglair i amaeth. |