Printer Friendly

Melys yw'r cof am ferch y blodau Mai.

Byline: ANGHARAD TOMOS

MI gofiaf y wats yn arbennig - wats dyn - am ei garddwn. Rydw i rhyw amau mai wats ei gwr ydoedd, fu farw ganol y Chwedegau, a'i gadael yn weddw weddol ifanc.

Naill ai wats ei gwr, neu wats ei thad, ond roedd hi'n gysylltiedig ag un o'r colledion mawr a ddaeth i'w rhan.

Roedd un golled gynnar iawn. Pan oedd yn ddeuddeg oed, aethpwyd a'i mam ymaith i ysbyty meddwl, a welodd Ffion mohoni byth wedyn. Bu fyw am ugain mlynedd arall mewn ysbyty, ond ddaeth hi byth yn 61 i'r aelwyd.

O ganlyniad, bu raid i'w merch aeddfedu yn reit gyflym ac ysgwyddo cyfrif oldebau mawr.

Roedd ei thad yn rhiant sengl wedi hynny, ac roedd ganddi frawd bedair blynedd yn iau na hi. Mawr fu ei gofal ohono, ar hyd y blynyddoedd.

Mi fum yn dyst i'r cariad f u rhwng y ddau, achos y brawd bach ydi 'Nhad.

'April is the cruellest month, breeding Lilacs out of the dead land, mixing Memory and desire...' - geiriau agoriadol T S Eliot o'r 'Waste Land' ddaw i'r cof, gan mai yr Ebrill hwn a'i cipiodd oddi wrthym. Addas hefyd, gan mai athrawes Saesneg oedd Ffion am flynyddoedd yn Ysgol Ramadeg y Merched yn Llanelli. A chymysgedd o atgofion ac awydd sydd wedi bod ynof ers dydd ei marw, atgofion rif y gwlith, ac awydd angerddol i'w gweld drachefn.

Hogan o Ffordd y Coleg, Bangor oedd hi. Yno y bu'n byw nes iddi briodi. Yn Ffordd y Coleg y cafodd ei haddysg uwchradd, yn Ysgol Merched Bangor, ac yn yr un ffordd y cafodd ei haddysg Prifysgol. Yno hefyd y cyfarfu ei gwr Herman Jones o Ddeiniolen, a aeth yn weinidog gyda'r Annibynwyr.

Wedi naw mlynedd ym Mhorthmadog lle cafodd ddau o fechgyn, Rhion a Caron, symudodd y teulu i Borth Tywyn, ger Llanelli, lle bu Herman yn weinidog ar Gapel Jerusalem am ddeng mlynedd.

Pan fu farw yn frawychus o sydyn, bu rhaid i Ffion ganfod cartref newydd a swydd i gynnal ei bechgyn.

Bu'n fam ragorol iddynt, ac yn gefn aruthrol. Fel y dywedodd Caron, y mab 'fenga: "Byddai Mam yn gadael imi ddatgymalu injan car ar fwrdd y gegin cyn te. Fyddwn i byth yn gadael i 'run o 'mhlant i wneud y fath beth!"

Soniodd fel y byddai croeso di-ben draw i'w ffrindiau, a chyflenwad di-ddiwedd o baneidiau. Byddai Anti Ffion yn hoffi llond ty, wrth ei bodd ef o cwmni.

Na, fuo Ffion erioed yn ferch gofidiau. Er mor greulon fu Ffawd, cadwodd ei gofid yn ddwfn oddi mewn, trodd i wynebu'r haul ac ail-gydio yn ei bywyd.

Pan gafodd ei geni yn Nhalysarn ym 1920, aeth ei thad, David Thomas, a changen o Fai i'w wraig. Meddai yn ei hunangofiant,

"Ganwyd merch inni... ac yr oedd ein hapusrwydd yn awr yn gyflawn. Galwasom hi yn Ffion Mai, ac mi es a changen o Fai i Bet yn ei gwely."

A dyna sut yr hoffaf feddwl am Ffion, fel 'merch y blodau Mai'.

Haerai mai hi oedd y Ffion gyntaf.

Aeth i'r drafferth unwaith i anf on gair at Mrs William Hague gan roddi ychydig o nodiadau am darddiad yr enw. Dydw i ddim yn credu iddi rioed gael ateb, sydd ddim yn syndod o ystyried mor wahanol oedd gwleidyddiaeth y ddwy!

Roedd hi'n ferch hardd ryfeddol, efo croen tywyll iawn, llygaid oedd yn pefrio a'i gwallt y donnau du.

Diau mai hi oedd y wraig gref gyntaf i mi ei chyfarfod (wel, ar wahan i Mam!) Ond roedd ymweliad gan Anti Ffion yn newid naws ac awyrgylchy ty.

Doedd o ddim yn dy distaw efo ni'n pump yn blant, o byddai pawb yn tawelu y nghwmni Ffion.

Mi fyddai'n setlo yn y gadair, ac yn siarad, a siarad, neb ball am air. Gwrando a rhyfeddu fyddwn i yn blentyn. Roedd hi'n stor o wybodaeth, o hanesion, o storiau, ac roedd ganddi'r ddawn i'w hadrodd yn ddifyr.

Cymerai ddiddordeb mawr yn ein haddysg n yn naturiol, ac ni fedrai ddiffodd yr athrawes ynddi, hyd yn o ar wyliau.

Fydda f o'n d ganddi droi at ein gwerslyfrau a dechrau ein holi yn drylwyr, gan fwr goleuni gwbl newydd ar gerdd neu nofel. A rydw i'n ei hedmygu am un peth yn arbennig - ers yn 13 oed, cadwodd gofnod o bob llyfr a ddarllenodd, nesy flwyddyn cyn ei marw.

Ym 1974, safodd ei mab hynaf, Rhion, fel ymgeisydd Llafur yn Sir Feirionnydd yn erbyn Dafydd Elis Thomas. Adref yn Llanelli, roedd yn gwylio'r canlyniadau, a dywedodd yn sydyn: "Mi fyddwn i'n lecio bod yn bresennol"

Gyda awr i fynd cyn y canlyniadau, meddai Caron, "Mewn a chi i'r car ta, Mam"

Gyrrodd o Lanelli i Ddolgellau mewn ychydig dros awr a hanner (roedd o'n yrrwr rali penigamp, rhaid dweud).

Wrth gyrraedd y cyfrif, rhwystrodd heddwas nhw rhag mynd heibio. Hysbysodd Ffion ef ei bod yn fam i un o'r ymgeiswyr, ond doedd dim yn tycio. "A ga i ychwanegu ein bod wedi gwneud ymdrech arbennig i gyrraedd mewn pryd? Rydan ni wedi gyrru CAN milltir mewn CAN munud!"

Roedd Caron yn disgwyl cael ei restio unrhyw funud am or-yrru, ond bu geiriau Ffion yn ddigon, a chawsant fynd i mewn.

Rhyfedd meddwl fod y storm o fywyd wedi mynd. Rhyfedd na chaf i fyth ei ffonio eto a chlywed ei llais. Rhyfedd na fydd angen galw eto ym Mhorth Tywyn, rhyfedd na chaf i fyth eto lythyr difyr yn ei llawysgrif.

Fydden ni ddim yn gweld ein gilydd mor aml a hynny, ond doedd dim ots. Roedd hi yno, yn gadwyn gref a'm gorffennol. Roedd hi yno yn gefn, unrhyw adeg roeddwn i'n crwydro y pen hwnnw o Gymru.

Rhyfedd na chaf i byth eto deimlo ei breichiau yn lapio am fy ngwddf mewn coflaid. Atgofion yn unig sy'n weddill bellach, ond y fath stor o atgofion!

Wedi'r angladd, daeth y blodau i fyny i Ddeiniolen, i'w gosod ar fedd ei gwr, ac roedd hynny mor addas.

Er iddo ei gadael ddeugain mlynedd ynghynt, ddaru ei chariad at ei chymar ddim pallu. Mae ei gariad ef ati hi wedi ei anfarwoli mewn englyn, a tan ddydd ei marw, roedd yr englyn - yn ei brodwaith ei hun - uwchben gwely Ffion.

Gorau ferch a garaf fi - Ffion fwyn

Hoffwn fyw'n dy gwmni, Boed diddiwedd yw ngweddi Oriau dwys i'th garu di.

Ar Fai 17 eleni, dydd ei phenblwydd, melys fydd y cof am ferch y blodau Mai.

Dydw i ddim yn credu iddi rioed gael ateb, sydd ddim yn syndod o ystyried mor wahanol oedd gwleidyddiaeth y d dwy

CAPTION(S):

Ffion Mai
COPYRIGHT 2007 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2007 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:May 16, 2007
Words:1097
Previous Article:Y CELFYDDYDAU: Rhamant y mor yn dal i'n denu heddiw.
Next Article:Golygfeydd godidog, ond ei hanes a'i phobl yw hanfod y lle.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters