Mae popeth i'w weld ar y Maes.
MAE gweyl flaenaf Cymru'n 'fecca' i unrhyw un sy'n hoffi siopa - cewch hyd i bob math o bethau, o bob lliw a llun - wrth grwydro'r stondinau lliwgar o amgylch Maes yr Eisteddfod - mae'r amrywiaeth yn arbennig - a bydd hyn i gyd yn Y Gweithfeydd, Glyn Ebwy eleni.
Cewch hyd i bob math o dlysau - y rhan fwyaf wedi'u hysbrydoli gan Gymru ac wedi'u gwneud yma - lluniau gan artistiaid newydd cyffrous - yn ogystal gweithiau gan enwau cyfarwydd.
Hefyd, mae pob math o ddillad ar gael ar Faes yr Eisteddfod - mae gan y Brifwyl ei diwylliant crysau-T ei hun, gyda nifer o gwmnau'n datblygu a chreu cynlluniau newydd i'w gwerthu yn ystod yr wythnos.
Mae'r llyfrau newydd gorau i gyd yn cael eu rhyddhau erbyn wythnos yr Eisteddfod, yn lyfrau Cymraeg a llyfrau am Gymru, a llawer llawer mwy.
A chyda'r Eisteddfod yn para am wythnos gyfan, cewch ddigon o gyfle i grwydro a phori cyn penderfynu beth i'w brynu.
Ond mae llawer mwy i'r Maes na'r cannoedd o stondinau. Defnyddiwch yr Eisteddfod i ddarganfod mwy am Gymru ac am yr hyn sy'n digwydd yn y wlad.
Bydd gan sefydliadau mwyaf a phwysicaf Cymru stondinau ar y Maes, gyda digonedd o wybodaeth am yr hyn maen nhw'n ei wneud - a sut maen nhw'n ei wneud o! Felly, os ydych am gael gwybod mwy am gerddoriaeth, celf, diwylliant, twristiaeth, busnes, gwleidyddiaeth - beth bynnag - dewch lawr i Faes yr Eisteddfod i weld beth sy'n digwydd.
Y Pafiliwn Pinc yw prif ffocws y cystadlu yn ystod yr wythnos, felly os ydych yn hoffi canu, bandiau pres, cyflwyniadau neu ysblander seremonau'r Orsedd, dewch i'r Pafiliwn i weld rhai o dalentau mwyaf Cymru'n cystadlu am y bri o ennill gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Bydd yr Eisteddfod eleni'n wahanol mewn nifer o ffyrdd - a lleoliad Y Lle Celf yw un o'r gwahaniaethau mwyaf.
Gan ddefnyddio adfeilion yr hen waith dur, mae oriel gelf genedlaethol flynyddol Cymru'n mynd dan ddaear i'r 'stack annealer basement' - un o'r adeiladau tanddaearol a ddefnyddid i ddal y peiriannau trwm, gyda digonedd o le i ni arddangos celf, a chyda gofod ychwanegol ar gyfer darnau mwy os oes angen.
Ac i'r rheini ohonoch sydd wedi meddwl nad oes modfedd o arfordir yn sir Blaenau Gwent, bydd tipyn o sioc ar y Maes eleni, wrth i ni gael hwyl ar y traeth yng Nglyn Ebwy - am wythnos o leiaf!
Dewch i fwynhau ar lan y mr ar y Maes, a gyda chyfle i chwarae gemau traeth a gweithgareddau bob dydd, diolch i Gyngor Blaenau Gwent . Gyda chyfle hefyd am weithgareddau llai corfforol fel peintio wynebau, adrodd straeon, peintio, cwisiau, cerddoriaeth fyw a llawer mwy mewn stondinau ar hyd a lled y Maes - chewch chi byth gyfle i weld popeth mewn diwrnod - felly, beth am ddod nl y diwrnod wedyn am fwy o hwyl?
CAPTION(S):
Yr Archdderwydd newydd, Jim Parc Nest Llun: Arwyn Roberts