Printer Friendly

Mae anwybodaeth weithiau'n fendith; COLUMNISTS welsh column.

Byline: Hafina Clwyd

MI FENTRAIS i Wlad Llyn ddydd Sadwrn. Yr oedd yr haul yn gwenu, y mor yn las a'r blodau yn eu hanterth.

Onid yw hi'n werth chweil gweld cymaint o gennin pedr o gwmpas y dyddiau hyn - y mae holl briffyrdd Gogledd Cymru'n un bataliwn o betalau melyn yn moesymgrymu yn yr awel.

Diwrnod Agored Cymdeithas Bob Owen oedd y rheswmdros fynd i Gricieth ac yr oedd gwesty Bron Eifion yn fwrlwm o gasglwyr. Fum i erioed yng nghartref Bob Owen, Croesor, onddywedir ei fod yn llawn i'r ymylon o lyfrau a phapurau acmai prin y medrech ddringo'r grisiau. Yr oedd dewis ei enw ef ar Gymdeithas o gasglwyr ynweithred cwbl naturiol.

Yr oedd pawb bron yn ei edmygu er nad oedd pawb yn cymryd ato efallai. Mae hyd yn oed y llariaidd Ambrose Bebb yn mesur ei eiriau'n ofalus wrth ddisgrifio Bob. Meddai: "...mae ynddo wylltineb heb ei dofi gan lyfrau, llond croen o eiddigedd sanctaidd, enaid cymwynasgar brawdol. Un o sefydliadau Cymru."

Yr oedd gerddi eang Bron Eifion yn werth eu gweld ond yr oedd pawb yn llawer rhy brysur i fynd i grwydro. Yr oedd rhai wedi teithio cryn bellter - tri gwron deallus o ardal Llanelli, dau wedi dod yr holl ffordd o Bedford. Cawsant werth eu pres.

Ysiaradwr cyntaf oedd y Dr Deri Tomos, Bangor, yn trafod Hanes DNA ac wedi seilio'i sgwrs ar gwpled Tudur Aled, "Hysbys y dengys y dyn, Oba radd y bo'i wreiddyn."

Nid oedd Tudur Aled wedi breuddwydio y byddai ei gwpled ef yn gweddu mor berffaith i'r astudiaethgyfoes o DNA - rhywbeth a roddwyd inni oll filiynau lawer o flynyddoedd yn ol pan holltwydycelloedd ynAffrica ac yr ydym oll wedi etifeddu'r gwreiddyn hwnnw sydd yn ein gwneud i gyd yn wahanol ac eto i gyd yr un fath.

Yn rhyfedd iawn y mae astudiaeth yn dangos bod y Cymry'n perthyn yn agos i'r Basgiaid ac mai ychydig iawn o waed y Llychlynwyr na'r Rhufeiniaid sydd ynom.

Mae'n ddigon posib nad Celtiaid ydym hyd yn oed.

Nid wyf yn meddwl fy mod eisiau gwybod gormod a dweud y gwir. Oherwydd gall astudiaeth DNA ddweud pa glefyd sydd yn debyg o ymosod arnom. Mae anwybodaeth weithiau'n fendith. "Boed anwybod yn obaith," meddai R Williams Parry.

Harri Parri oedd yr ail siaradwr a chawsom ganddo bortread crwn o'r hen weinidog Henry Hughes, Bryncir.

Nid un o'r hoelion wyth meddai Harri eithr "pregethwr at iws gwlad". Priododd Henry Hughes deirgwaith-collodd ei wraig gyntaf ei bywyd pan gafodd ei chwythu oddi ar bont heb ganllaw. Yr oedd yn ddyn bwyteig hefyd fe ymddengys.

Un o'i nodweddion a wnaeth i bawb ohonomchwerthin oedd ei anallu i ddweud "g".

Dywedai "j".

Felly soniai am "Hojia a jenod" ac wrth y bwrdd bwyd mewn Cyfarfod Misol (a ddisgrifwyd gan Harri fel cyfarfod bychan rhwng dau bryd bwyd) fe ofynnodd am chwanej o jij.

Ie diwrnod llawn hwyl a chyfarfod pobl o'r un anian - pobl sydd yn parhau i gasglu a phrynu llyfrau hyd yn oed os ydynt, fel fi, wedi rhedeg allan o wal.

O ie un peth arall arloesol.

Yr oedd y cadeirydd, Rheinallt Llwyd, a'r is-gadeirydd J Elwyn Hughes, am roi'r gorau i'w swyddi. A wyddoch chi beth - etholwyd dwy ferch am y tro cyntaf. Y cadeirydd newydd yw Helga Martin o Ysbyty Ifan a BuddugMedi o'r Bala yn ddirprwy iddi.

Ac am y tro cyntaf hefyd y mae'r Gymdeithas ar fin mynd ar y we a bydd honno'n cynnwysmynegai i holl rifynnau'r Casglwr, y cylchgrawn chwarterol. Mel Williams o Lanuwchllyn yw'r golygydd ac yr oedd staff y gwesty yn meddwl mai ef oedd Bob Owen. Dylwn egluro efallai mai Pwyliaid oedd nifer o'r staff. Yn ddiwyd a chwrtais ac yn ddi-Gymraeg.
COPYRIGHT 2008 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2008 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Features
Publication:Western Mail (Cardiff, Wales)
Article Type:Column
Date:Apr 22, 2008
Words:618
Previous Article:Hundreds flee Hong Kong as Sars fears grow; RETRO REPORT April, 2003 How we covered...
Next Article:Goodbye wooly pully, hello sulk; COLUMNISTS.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters