Printer Friendly

Loetran ger y glannau; BYD NATUR.

Byline: Gan BETHAN WYN JONES

PNAWN braf a'r haul ar fy ngwar wrth i mi adael Porth Eilian a dilyn llwybr yr arfordir. Y tro dwytha i mi fod yma oedd yng nghanol miri Awst pan oedd plant a phobl a chwen yn mwynhau'r haul a'r heli. Heddiw roedd y traeth yn wag ac eithrio un cwpwl oedrannus oedd yn mwynhau paned.

Roedd y tymor wedi newid ac roeddwn i'n gallu gweld llaw'r hydref wedi dechrau crino'r llechwedd gyferbyn mi, ac eiddew wedi dechrau blodeuo - arwydd pendant fod tymor yr hydref wedi cyrraedd.

Dyma adael Porth Eilian drwy git fach bren a dilyn y llwybr uwchben y clogwyni. Roedd arwydd ar y git yn nodi fod y rhan hon o'r daith hefyd yn rhan o Daith Arfordir Copr. Roedd swen y nant islaw i mi, eirin moch yn gawod goch ar y ddraenen wen, y ffrwythau'n aeddfedu ar y jacmor a'r dail wedi dechrau crino a rhai wedi disgyn dan draed ar y llwybr.

Mi 'steddais am funud ar un o'r meinciau sydd wedi'u gosod yn bwrpasol a mwynhau munud o heddwch pnawn braf yn nechrau hydref a gwirioni wrth weld cen oren y cerrig (Xanthoria parietina) ar y creigiau gyferbyn a chlywed swen y tonnau'n tynnu'n ysgafn ar y graean. Edrych ar y Graig Ddu yn gwthio ei thrwyn allan i'r bae ac roedd y mr yn eithriadol o glir a Thrwyn Leinws i'w weld y tu hwnt. Roedd gwylan yn crio ymhell yn rhywle ond doedd dim yn tarfu ar heddwch y pnawn godidog yma o Fedi.

Roedd cwlwm y coed (Tamus communis; black bryony) yn fwclis gwyrdd, melyn a choch ar y gwrychoedd a gwenyn meirch yn chwilota'n ddioglyd am neithdar. Eirin perthi (sloes) yn lasddu ar y ddraenen ddu a'r rhedyn yn rhydu. Dan fy nhraed roedd yr heboglys (Hieracium; hawkweed) yn felyn a'r meillion coch a blodyn neidr dan y gwrych. Roedd y gl|yn byw cain, brych y coed (Pararge aegeria; speckled wood) yn hofran o flodyn i flodyn yng nghysgod y coed.

Dringo roedd y llwybr a chlychau gwynion y taglys mawr (Calystegia silvatica; large bindweed) ar y gwrychoedd a'r rhedyn. Roedd aeron yr ysgawen yn drwm yn haul y pnawn. Ble roedd y creigiau'n brigo roedd grug y ml a grug yr ysgub i'w gweld, ond dal i ddringo roedd y llwybr ac roedd brych y coed (mistle thrush) yn dal i hedfan yn l ac ymlaen rhwng yr eiddew.

Roedd gwenoliaid yn gweiddi ac yn trywanu'r awyr 'u ehediad slic nes eu bod yn plymio i lawr ymhell islaw i mi, ac allan ar y mr roedd mulfran (Phalacrocorax carbo; cormorant) yn plymio o'r golwg i chwilio am fwyd.

Ar ochr y llwybr roedd tresgl y moch a'r goesgoch yn tyfu ac wrth ymyl git mochyn bren roedd y byddon chwerw.

Ymlaen mi i dir mwy agored ac yma roedd y clefryn glas (Jasione montana; sheep's-bit) yn creu patrwm hyfryd hefo porffor cyfoethog grug y ml. Islaw, roedd cwch yn hwylio'n araf i Borth Eilian ac yn loetran yn y bae. Doedd dim swn yn unman ag eithrio'r mr yn torri'n ddistaw yn erbyn y creigiau.

Git mochyn arall, ac oedi am funud i sbo i lawr ar y creigiau a gweld y tonnau'n trochi'n dros liw llwyd y cregyn llong ar y graig. Dal ymlaen yn hamddenol ar hyd cae gwastad a phostyn yn dangos y ffordd i mi.

Aros eto uwchben hafn serth yn y graig a corn carw'r mr yn tyfu ar y graig noeth.

Yma roeddwn i uwchben Ogo'r Sant ac yn gallu gweld gwylanod a'u cywion ar graig yn y mr islaw yn gwybod eu bod yn ddiogel ymhell o gyrraedd dyn.

Roedd yr haul yn dal i wenu a'r mr yn dal i siffrwd a dyma groesi cae arall, drwy git mochyn, ac ar draws pompren. Roeddwn i ym Mhorth yr Ychen, ac yn l yr hanes yma y glaniodd Sant Eilian a'i deulu hefo'u anifeiliaid. Gyda llaw, os cewch chi amser, mae'n werth galw heibio Eglwys Sant Eilian ble mae sgrin, a murlun o sgerbwd a'r geiriau "Colyn Angau yw Pechod".

Mi ges i bnawn bendigedig, ac rydw i'n lwcus iawn mod i'n cael byw mewn lle mor hardd a gallu mynd a dwad fel rydw i isio i fwynhau heddwch a harddwch glannau Mn.

CAPTION(S):

Cwlwm y coed (Tamus communis; black bryony) Lluniau: Bethan Wyn Jones Porth yr Ychen gyda Thrwyn Eilian yn y cefndir
COPYRIGHT 2009 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2009 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Sep 23, 2009
Words:743
Previous Article:Anghofio'r holl ofidiau ar Yl archebu'r baned gyntaf.
Next Article:Y pry cop a'r gwenyn meirch; LLxN Y LLYSIAU.
Topics:


Related Articles
Horse Racing: Cyfarpar Cymreig yn arwain y byd.
BYD NATUR: Llawlyfr lliwgar ar gael i'w ennill.
Y Pabi: Poenladdwr arbennig byd natur; BYD NATUR Mwy o ryfeddodau byd natur gyda.
Can fod lliw yn y tywyllwch duaf; BYD O LIW: Y RHYFEL MAWR, S4C, nos Iau, 8.25pm.
Gwireddu breuddwyd yn yr Aifft; BYD NATUR.
Deinasoriaid yn rheoli byd cerddoriaeth.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters