Llwybrau Lleiniog; BYD NATUR.
Byline: BETHAN WYN JONESDI-LEF yw tywod Lafan a, rhagor, mud yw'r gro mn Geiriau Myrddin ap Dafydd yn ei gywydd i Gwenllan ddaeth i'r cof wrth i mi barcio'r car ar lannau'r Fenai ym maes parcio Traeth Lleiniog ac edrych draw ar fynyddoedd Eryri y tu hwnt i dywod Lafan. Roedd 'na awel ffres o'r mr a brath yr hydref ar y bore. Ond nid wedi dod yma i fwynhau gogoniant Traeth Lafan na gwychder y mynyddoedd roeddwn i, ond i weld Coedydd Afon Lleiniog yng nghwmni Leah Williams o Menter Mn.
Mae angen gadael y car yn y maes parcio, a dilyn y ln am sbel cyn dod at git mochyn bren a chychwyn at y llwybr troed sy'n arwain wrth ochr yr Afon Lleiniog a thrwy'r coedydd at Gastell Aberlleiniog. Unwaith wedi mynd drwy'r git mochyn, roedd arwydd pren yn dangos y ffordd i'r Castell ac eglurodd Leah fod yr arwyddion ar y safle wedi'u gwneud o goed oedd yn tyfu yma pan ddechreuwyd clirio'r safle. Cafwyd arian i wneud hyn gan Cydcoed (un o brosiectau'r Comisiwn Coedwigaeth) a gwnaed y gwaith ym Mn gan Weithdy Mona.
Roedd y llwybr ger glan yr Afon Lleiniog yn hyfryd. Roedd y brwyn (rushes) a'r erwain (Filipendula ulmaria; meadowsweet) i'w gweld yn amlwg iawn, ac yn gymysg rhyngddyn nhw roedd Jac y neidiwr (Impatiens glandulifera; Himalayan balsam) yn mynnu dangos ei drwyn. Mae hwn yn gallu bod yn bla ar lannau afonydd ac mewn mannau gwlyb.
Roedd llysiau'r gymalwst (Aegopodium podagraria; ground elder), blodyn neidr (Silene dioica; red campion) yr hesg (Phragmites australis; common reed), a choed coed ysgawen, onnen a sycamorwydden i'w gweld o boptu'r llwybr.
Ond dyma gyrraedd pompren oedd yn croesi'r Afon Lleiniog ac wrth edrych i lawr i'r dwer, gallwn weld olion hen bont gerrig a arferai groesi'r afon yn y fan yma.
Erbyn heddiw, mae olion y dyfrgi (Lutra lutra; otter) i'w gweld ar yr Afon Lleiniog ac mae llyg y dwer (Neomys fodiens; water shrew) yn cael lloches ar ei glannau. Mae brithyll yn magu yn yr afon, ac wrth loetran ar y bont oedd yn croesi'r ln fawr, mi allwn eu gweld yn nofio'n braf mewn pwll llonydd.
Ond dyma barhau ar y llwybr oedd erbyn hyn yn dechrau dringo'n raddol. Ar y dde i mi, roedd hen goed deri tal a'r dail yn troi eu lliw. Roedd hwdedd o eiddew yn gorchuddio boncyff un o'r coed derw ac yn cynnig lloches wych i adar mn. Yn y coedydd ceir tri math o gnocell y coed - y gnocell fraith fwyaf, y gnocell fraith leiaf a'r gnocell werdd. I'r chwith i mi, roedd coed gwern gafodd eu plannu tua phedair blynedd yn l yn tyfu'n gadarn. Cafwyd nifer o wahanol rywogaeth o ystlumod yng Nghoedydd Afon Lleiniog gan gynnwys dwy rywogaeth o'r ystlum lleiaf, yr ystlum mawr, yr ystlum hirgoes a'r ystlum barfog.
Cwmnau lleol sy'n gyfrifol am y llwybrau pren ac mae'r canllawiau sydd arnyn nhw'n arbennig o hwylus wrth ddringo'r allt. Dyma aros am bwl a rhyfeddu unwaith eto at y coed derw sydd, mi gredir, tua 300 mlwydd oed. Draw i'r dde i mi mewn gallt o goed pinwydd yr Alban roeddwn i'n clywed y cigfrain (Corvus corax; raven) yn galw. Mae'r cudyll coch (Falco tinnunculus; kestrel), y gwalch glas (Accipiter nisus; sparrowhawk) a'r golomen wyllt (Columba oenas; stock dove) hefyd i'w gweld yma. Wrth syllu mewn rhyfeddod i lawr ar y coed ac ymhellach at fynyddoedd Eryri yn y pellter, beth groesodd o'n blaenau ond dau fwncath (Buteo buteo; buzzard) ac un ohonyn nhw'n cario cwningen fechan yn ei grafangau.
Erbyn hyn, roeddwn i yng ngolwg Castell Aberlleiniog. Hugh D'Avranches, Iarll Caer oedd yn gyfrifol am ei adeiladu rhwng 1084 a 1088. Roedd ganddo sawl llysenw gan gynnwys Huw Dew, a Huw Flaidd am ei fod yn ymladdwr mor fileinig. Castell tomen a beili oedd yma'n wreiddiol, a byddai'r gweithwyr wedi torri'r coed, tyllu'r ffos a phentyrru'r pridd a'r cerrig i wneud y domen cyn defnyddio'r coed i wneud y castell pren. Yn 1094, cipiodd Gruffydd ap Cynan y castell oddi ar y Normaniaid. Yn yr ail ganrif ar bymtheg yr adeiladwyd y castell cerrig y gwelir ei weddillion heddiw, gan wer o'r enw Thomas Cheadle.
Roedd gwaith dringo grisiau pren i gyrraedd Castell Aberlleiniog ei hun, ond roedd yn werth yr ymdrech gan fod y golygfeydd o'r tyrrau yn wych. Mae gwaith ardderchog wedi'i wneud yma gan Menter Mn ac mae'n werth galw heibio i weld y cynefin heddychlon yma.
CAPTION(S):
Castell Aberlleiniog ger Llangoed, ac ar y dde rhai o'r llwybrau pren ar y safle Lluniau: Menter Mn
![]() ![]() ![]() ![]() | |
Title Annotation: | Features |
---|---|
Publication: | Daily Post (Liverpool, England) |
Date: | Oct 14, 2009 |
Words: | 771 |
Previous Article: | Cau pen y mwdwl; LLYTHYRAU. |
Next Article: | Arferion yn gysylltiedig , Chalangaeaf; LLxN Y LLYSIAU. |