Printer Friendly

Holi am enwau Cymraeg ar wahanol fadarch.

Byline: bethan GWANAS

DWI'N gwybod mod i'n tresmasu ar dir Bethan Wyn Jones rwan, a'i bod hi eisoes wedi sgwennu am fadarch, ond dwi'n digwydd bod diddordeb mawr ynddyn nhw hefyd. Dyna pam es i ar gwrs madarch i Blas Tanybwlch, Maentwrog yn ddiweddar. Roedd Twm Elias wedi ei argymell i mi llynedd, ond erbyn i mi ffonio doedd dim lle ar l, felly mi rois fy enw i lawr ar gyfer un eleni fisoedd yn l.

Wrth gwrs, roedd o'n siwr o daro ar rywbeth difyr arall - Gweyl Fwyd Dolgellau yn un peth - grrr. Bu hwnnw'n llwyddiant mawr mae'n debyg felly croesi bysedd y llwyddai i fynd i'r un nesa.

Ond yn l at y madarch. Gwer o'r enw Patrick Harding oedd y tiwtor; dyn bychan, barfog oedd yn edrych fel pe tae o newydd gerdded allan o un o lyfrau Harry Potter. Nid yn annhebyg i Twm Elias, sy'n ei gynorthwyo ar y cwrs hwn ers blynyddoedd. Roedd hiwmor y ddau yn ddigon tebyg hefyd, ac mi fu 'na gryn chwerthin yn ystod y penwythnos.

Ro'n i wedi dewis talu i fod yn fyfyriwr preswyl i gael profiad llawn o'r adeilad - a'r bwyd. A sbario gorfod golchi llestri a chodi'n gynnar a gorfod yfed sudd oren yn lle gwin gyda'r nos wrth gwrs.

Roedd 'na hanner dwsin o bobl o ochrau Blaenau yn mynychu'r cwrs ar 'day release' fel petae hefyd, ambell wyneb yn eu mysg nad o'n i wedi ei weld ers dros chwarter canrif! Ond mi fyswn i wedi nabod y 'dreadlocks' 'na yn unrhyw le.

Oedd, roedd 'na gymeriadau ar y cwrs yma, yn cynnwys dyn tawel drodd allan i fod yn wyddonydd go bwysig fu'n dangos i ni sut i weld Andromeda efo'i sbienddrych ar y nos Sadwrn oer, hynod glir.

Wel, mi lwyddodd rhai i'w weld. Dim ond miloedd ar filoedd o sr welais i, nid y cysgod tywyll ro'n i fod i chwilio amdano. Ond falle mai gweld drwy'r cysgod o'n i, dwn i'm.

Ond yn l at y madarch. Sleids o wahanol fadarch o bob siap, lliw a llun, rhai'n wenwynig, rhai'n wych mewn padell o fenyn, ac yna i ffwrdd ni am dro yn y bws mini i fannau sy'n llawn ffwngws. A dwi'm yn mynd i ddeud lle mae'r mannau hynny, neu mi fyddwch chi wedi eu sbydu cyn cwrs 2011 - ond maen nhw i gyd o fewn llai nac awr a hanner o Faentwrog...

Y sioc ges i oedd fod 'na gymaint o fadarch gwahanol sy'n berffaith saff i'w bwyta - rhai sy'n edrych yn hyll iawn, yn gwbl anfwytadwy, ond nefi, y noson honno yn l yn y plas, mi gawson ni wledd!

A ges i un arall ar l mynd adre nos Sul wedi mynd a Del am dro i'r coed efo fy llyfr newydd sbon 'How to Identify edible mushrooms'. Boletes o bob math, parasols anferthol sy'n edrych yn union fel parasols (ond gair o rybudd - mae 'na rai tebyg iawn, ond dipyn llai sy'n gallu eich lladd...) a'r hyfryd saffron milk caps (lactarius deliciosus - roedd yr hen bobl yn gwybod eu stwff) oedd yn wirioneddol fendigedig, er eu bod nhw'r pethau mwya annhebyg i'r madarch bwytadwy rydan ni wedi arfer efo nhw.

Ac mi fysech chi'n disgwyl i'r ffaith fod 'na fath o hylif oren yn dod allan ohonyn nhw - sy'n troi'n wyrdd! - yn brawf pendant eu bod nhw'n wenwynig. Ond na, tydyn nhw ddim. Ond unwaith eto, mae ganddyn nhw frodyr digon tebyg sy'n wenwynig, felly byddwch yn ofalus, prynwch lyfr da - ac ewch ar gwrs.

Roedd awdur 'The Horse Whisperer', Nicholas Evans yn meddwl ei fod o a'i wraig wedi bwyta hanner kilo o chanterelles ( madarch melyn, rhyfedd yr olwg) ond Cortinarius speciosissimus, neu'r deadly webcap oedden nhw. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae'r ddau'n dal i aros am arennau newydd, ond maen nhw'n lwcus eu bod yn fyw. Ond tasen nhw wedi gwneud be dwi wedi bod yn ei wneud, sef gosod y madarch ben i lawr ar ddarn o bapur am rai oriau i weld pa liw sy'n disgyn allan ohonyn nhw, mi fydden nhw wedi gallu gweld nad chanterelles mohonyn nhw.

Mae 'na gymaint allwn i ei ddeud am fadarch ac am yr hyn ddysgais i; dwi hyd yn oed wedi cael syniad am nofel ...

Ond yr hyn oedd yn fy mhoeni o hyd oedd y diffyg enwau Cymraeg. Fu'r hen Gymry'n rai am fwyta unrhyw beth heblaw madarch y maes cyffredin ys gwn i? Neu a gafodd yr enwau eu hanghofio dros y canrifoedd? Mae Twm Elias a'i gyfeillion wrthi'n hel a chreu enwau, felly os gwyddoch chi am unrhyw enwau lleol i chi, gadewch i ni wybod. Ac mae 'na ddau ddigwyddiad difyr arall yn y Plas yn fuan: Tachwedd 12-14 - Cynhadledd am hanes amaeth yng Nghymru, a Tachwedd 20 - Cynhadledd Enwau Lleoedd. Efallai y gwelai chi yno!
COPYRIGHT 2010 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2010 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Oct 27, 2010
Words:809
Previous Article:Mae'n bryd bwydo'r adar; BYD NATUR.
Next Article:Mes si,p rhyfedd yn peri penbleth; LLxN Y LLYSIAU.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters