Printer Friendly

Hogyn drwg a sefydlodd gymdeithas o rafins lloerig.

Byline: bethan GWANAS

MI lwyddais i fynd i un o gyfarfodydd Cymdeithas Ddiwylliadol Rhydymain wythnos dwytha, ond ro'n i'n benderfynol na fyddwn i'n colli hwn gan mai sgwrs am 'Gymdeithas Loerig Drws-y-Nant' oedd hi. Ro'n i wedi clywed rhyw son am rhain o'r blaen, ac wedi deall mod i'n perthyn (ar ochr Mam) i un o'r selogion, Rhys Jones o'r Blaenau.

Nid Blaenau Ffestiniog, ond Blaenau, Rhydymain, ty (a hen, hen stad fechan) sydd ar y ffordd gul i fyny heibio Aran Hall - neu Hengwrt Uchaf.

Mi gafodd Rhys Jones ei eni yn 1713, yn un o ddisgynyddion Gwenllian, merch Gruffydd ap Cynan ar ochr ei dad, ac roedd ei fam yn ferch i Hugh Jones, Garthmaelan, ac yn or-wyres i Robert Vaughan, yr hynafiaethydd o'r Hengwrt. Mae Lowri, chwaer Owain Glyn Dwr yn yr achau hefyd.

Dyn o deulu da felly, ond hogyn drwg oedd Rhys mae'n debyg. Gan fod ei dad wedi gobeithio gwneud cyfreithiwr ohono, cafodd ei yrru i Ysgol Ramadeg Dolgellau, ond mae'n debyg mai cambihafio oedd ei hanes yn fanno, a dyna pam gafodd ei alw'n 'mawr-ddrwg', neu 'mwddrwg' yno. Cafodd ei yrru i'r Amwythig i orffen ei addysg, ond yn 18 oed, bu farw ei dad, a daeth Rhys adre i edrych ar ol y stad.

Mae'n rhaid ei fod o unai wedi dysgu cynganeddu cyn hynny, neu'n fuan wedyn, gan ei fod o wedi sgwennu cywydd marwnad yn 1736, ac yntau'n ddim ond 23. Mi sgwennodd nifer o gerddi am deulu ei gyfaill William Vaughan, Corsygedol (a Nannau) ac mae'n debyg mai drwy hwnnw y daeth o i nabod Lewis Morris, a gweddill Morrisiad Mon, teulu fu'n brysur yn atgyfodi diddordeb yn y traddodiad llenyddol yng Nghymru.

Yn 1757, mi sgwennodd Lewis Morris lythyr yn honni mai fo fu'n gyfrifol am annog Rhys Jones a'i sicrhau 'y gellid prydydd ohono'.

Ond roedd y Morrisiaid a theulu Nannau yn gyfarwydd iawn a Llundain hefyd, ac mae'n siwr eu bod nhw wedi bod yn son dipyn wrth Rhys am y bywyd yn fanno, ac mae'n ddigon posib eu bod nhw wedi son wrtho am y 'London's Gentlemen's club' a 'The Hellfire Club'. Rwan, roedd 'na dipyn o gymdeithasau fel hyn o gwmpas Prydain ar y pryd, math o gymdeithasau preifat i wyr bonedd, lle byddai trafod barddoniaeth a chrefydd ac ati, ond, yn yr Hellfire Club, mi fydden nhw'n cambihafio'n arw, yn meddwi'n rhacs ac yn hel merched (amheus).

Mae'n siwr bod hyn wedi tanio dychymyg yr hen 'fwddrwg' gan fod Rhys, yn 1765, wedi sefydlu clwb tebyg yn Rhydymain, o bob man, yn Nrws-y-Nant, lle roedd 'na dafarn dros y ffordd i lle mae Hywel Dda heddiw. Maes parcio sydd yno bellach, ond mae'r hen dy bach dros y ffos yn dal ar ei draed.

Dwi ddim yn gwybod faint ydi oed hwnnw, ond mi fyddai'n braf meddwl y bu Rhys a'i fets yno.

Mi alwodd y clwb yn 'Y Lloerig Gymdeithas', sy'n gwneud i chi feddwl eu bod nhw'n udo ar y lleuad neu rywbeth, ond naci, cyfarfod bob nos Iau cyn y lleuad llawn fydden nhw, am y rheswm syml am eu bod nhw angen golau i gerdded adre. Ond dwi'n amau a fyddai 'na lawer o heddweision o gwmpas y lle i'w restio am fod yn feddw ar gefn ceffyl.

Doedden nhw ddim y math o gymdeithas i gadw cofnodion, yn anffodus, felly chydig iawn rydan ni'n ei wybod am be'n union roedden nhw'n ei wneud yn Nrws-y-Nant. Ond roedden nhw'n sicr yn barddoni, ac yn yfed, ac yn morio chwerthin wrth wrando ar ei gilydd yn perfformio cerddi dychanol a masweddus. Digon tebyg i ambell i Stomp heddiw. Mi sgwennodd Rhys gan i'w chanu yn y cyfarfodydd, a dyma'r gytgan: 'Fal pysg traflyngcwn, Fal Bleiddiaid bloeddiwn, Ag yfwn yn ddi gwrs, At iechyd Hymen A Syr Sion Heidden, Tra dalio llen y pen a'r pwrs.'

Dim ond am rhyw bum mlynedd barodd y cyfarfodydd hyn, a chydig iawn o'r cerddi gafodd eu cyhoeddi. Roedd hi'n 1818 erbyn i'w fab gyhoeddi 'Gwaith Prydyddawl y Diweddar Rice Jones o'r Blaenau, Meirion', ac roedd o'n amlwg yn teimlo gormod o embaras i gynnwys llawer o'r rhai masweddus. Fel mae'n digwydd, roedd Rhys yn ddyn crefyddol ac roedd ganddo hen ddigon o gerddi mwy parchus yn ei bortffolio.

Roedd o wedi gwirioni efo gwaith yr hen feirdd, ac yn 1773, mi gyhoeddodd 'Gorchestion Beirdd Cymru', 'to save our Language and Poetry from utter Ruin and Oblivion'. Llyfr gafodd ei ganmol yn arw gan Syr Thomas Parry.

Oedd, roedd o'n dipyn o foi ac mae 'na lawer mwy i'w ddeud amdano fo. Os am wybod mwy, holwch Arwel (Rocet) Jones yn y Llyfrgell Genedlaethol, neu Beryl H Griffiths yn Llanuwchllyn, a chofiwch amdano fo y tro nesa y byddwch chi'n pasio Drws-y-nant!
COPYRIGHT 2009 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2009 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Jan 28, 2009
Words:797
Previous Article:Newid ei blwyf o Wynedd i'r Wladfa; DAILY POST Cymraeg.co.uk.
Next Article:Llythyr.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters