Printer Friendly

Gwenynod meirch sy'n gyfrifol am rai o greadigaethau rhyfeddaf byd natur; BYD NATUR.

Byline: Gan BETHAN WYN JONES

WEDI mynd i gerdded hefo Cymdeithas Edward Llwyd roeddwn i, a hynny i ardal Rachub ar 21ain o Fawrth eleni. Dwi'n cofio'r union ddyddiad am ei bod yn ddiwrnod mor braf a golygfeydd clir eithriadol o Fon a'r Gogarth.

A deud y gwir, roedd 'na lot fawr iawn o betha difyr am y daith oedd yn cael ei harwain gan y Prifardd Ieuan Wyn ac yn son am gysylltiad R. Williams Parry hefo'r ardal hon, ond mi wnaeth 'na un peth dynnu fy sylw i'n arbennig, sef afalau'r dderwen (oak apple gall).

Doedd y dderwen ddim wedi deilio ac felly roedd hi'n bosib gweld yr afalau'n reit glir.

Maen nhw'n cael eu creu gan wenynen feirch y derw, sef y Biorhiza palladia, sydd hefyd yn cael ei galw'n gall wasp yn Saesneg.

Mae afalau'r dderwen yn medru amrywio o tua 2 i 5cm mewn diamedr ac mae'r fenyw yn dodwy ei wyau ym mlagur y dail. Wrth i'r larfa ddatblygu, mae'r 'afal' yn creu cartref diogel iddo.

Os ydach chi'n hoff o grwydro ar hyd a lled YouTube, yna mae modd i chi weld y wenynen feirch yn ymddangos o un o'r afalau. Mae edrych ar hyn yn digwydd yn rhyfeddol.

Mae'n gwthio ei theimlyddion allan yn gyntaf drwy dwll bach ac wedyn y pen, y thoracs a'r coesau a'r abdomen yn olaf. Wrth edrych ar afalau'r dderwen ddiwedd mis Mawrth, roedd yn eitha hawdd gweld y twll bach crwn.

Mi gewch chi hefyd farblis coed; mae'r rhain yn ddigon tebyg i afalau'r dderwen ac mae'n reit hawdd cymysgu rhyngddyn nhw.

Maen nhw'n datblygu ar y dderwen am fod rhywogaeth arall o wenynen feirch y dderwen (Andricus kollari; gall wasp) yn dodwy ei wyau ym mlagur y dail.

Wrth ddodwy ei wyau fel hyn mae hi hefyd yn gollwng hylif sy'n debyg i hormon twf y goeden ei hun ac mae hyn yn creu newid cemegol yn y blagur sy'n achosi iddyn nhw dyfu fel marblis bach.

Wrth i'r wyau ddeor mae'r larfa yn bwydo'n reit ddel ac maen nhw'n cael eu diogelu gan y marblis.

Mae cylch bywyd gwenynen feirch y marblis coed ychydig yn fwy cymhleth nag un afalau'r dderwen.

Mae'r wyau'n cael eu dodwy tua mis Mai neu mis Mehefin fel arfer a hynny ar y dderwen mes digoes (Quercus petraea; sessile oak) a'r dderwen mes coesynnog (Quercus robur; pedunculate oak).

Mae gan y wenynen feirch y dderwen hon ddwy genhedlaeth - un rhywiol ac un anrhywiol a hynny bob yn ail, ac mae'n aml yn cymryd dwy flynedd i gwblhau'r cylch. Mae'r cylch bywyd yn dechrau hefo'r fenyw rhywiol yn dodwy'r wyau a hynny fel arfer mewn coed ifanc neu rai sy'n araf yn datblygu am ryw reswm.

Wrth i'r marblis ddatblygu maen nhw'n wyrdd i ddechrau ac yn aeddfedu'n frown erbyn tua mis Awst. Mae gan bob marblen siambr yn y canol ac o ganol y farblen mae larfa gwenynen feirch o genhedlaeth anrhywiol yn ymddangos ym mis Medi drwy dwll bach sy'n edrych fel twll pry mewn dodrefn.

Mae'r benywod anrhywiol yma yn dodwy wyau sydd heb eu ffrwythloni ym mlagur embryonig dail derwen Twrci (Quercus cerris; Turkey oak) ac mae'r rhain yn datblygu dros fisoedd y gaeaf.

Yr oedolyn fydd yn ymddangos y gwanwyn dilynol ydi'r genhedlaeth rywiol fydd yn cynhyrchu gwrywod a benywod ac a fydd yn hedfan i'r coed derw cynhenid i gychwyn ffurfio marblen yr haf.

Y tro yma, mi fydd y blagur cyfan yn cael ei orchuddio gan y farblen, ac mi all y marblis aros ar y coed am sawl blwyddyn.

Mae'r ffaith fod y marblis angen derwen Twrci yn rhan o'r cylch bywyd yn gwneud i mi feddwl mai afalau'r dderwen welsom ni ar y daith.

Mae 'na amryw byd o wahanol fathau o dyfiant fel hyn sy'n cael eu hachosi gan fathau o wenyn meirch sy'n perthyn i'r teulu Cynipidae, ac mae 'na nifer o enwau Cymraeg am y mathau yma o dyfiant - fala'r derw, marblis coed, chwydd helyg, chwydd llosg, chwydd blagur, ysgubau'r wrach, coronchwydd, cibafal, clwt blewog (ar ddail), afal hopys (hop gall), pincas robin (sy'n tyfu ar y rhosyn gwyllt ac yn cael eu creu gan wenynen feirch Bedeguar) a chwydd botwm sidan.

Mae afalau'r dderwen wedi eu defnyddio i wneud inc ers amser y Rhufeiniaid ac yn cael eu defnyddio'n eithaf cyson yn ystod yr Oesoedd Canol.

CAPTION(S):

Clwstwr o Afalau'r |dderwen. Mae'r rhain yn cael eu creu gan wenynen arbennig. Mae'r pincas robin (uchod) hefyd yn cael ei greu fath arall o wenynen
COPYRIGHT 2015 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2015 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Conwy, Wales)
Date:Sep 30, 2015
Words:757
Previous Article:Follow your Impulse.
Next Article:TV CHOICE.
Topics:

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2020 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters