Printer Friendly

Gwarchodfa Cors Ddyfi; BYD NATUR.

Byline: Gan BETHAN

PNAWN Sadwrn braf oedd hi pan wnes i aros yng Nghors Ddyfi i glywed hanes prosiect Gweilch y Ddyfi, ond gwiriondeb fasa gadael y llecyn braf yma heb gael tro o amgylch darn o'r gors hefyd. A dyna be wnes i - yng nghwmni hynaws Alan Hughes, un o'r gwirfoddolwyr sy'n rhoi ei amser i dywys ymwelwyr o amgylch y gors.

O 1966 hyd at 1995 roedd planhigfa o goed conifferaidd yn tyfu yma. Sbriws Sitka oedden nhw ond fe gawsant eu cwympo yn 1995 ac ers hynny mae'r gors wedi cael llonydd i ddychwelyd i'w chynefin naturiol.

Ymddiriedolaeth Byd Natur Maldwyn sy'n berchen ar y darn yma o dir ac maen nhw wedi cael cymorth s byffalos i drampio ar y gors, ac mae hyn wedi bod o gymorth i greu llecynnau gwlyb ac i adfer tyfiant mwy naturiol yno.

Mae llwybr pren hwylus iawn o amgylch darn o'r gors ac ar hyd hwn yr es i yng nghwmni Alan Hughes.

Cyn i mi fynd dau gam roeddwn wedi gweld llysiau'r milwr coch yn tyfu'n dalsyth a llysiau'r sipsiwn (Lycopus europaeus; gipsywort). Cyn gynted ag y bydda i'n clywed y gair 'wort', mi fydda i'n moeli nghlustiau gan ei fod o'n hen air Saesneg sy'n dangos fod llysieuyn wedi ei ddefnyddio fel meddyginiaeth ryw oes. Roedd y sipsiwn yn arfer defnyddio'r planhigyn yma: roedden nhw'n defnyddio'r sudd du sydd ynddo er mwyn llifo deunyddiau. Roedden nhw hefyd yn defnyddio'r planhigyn am ei fod yn dda at wres, ac i drin briwiau a doluriau. Mae'n ddiddorol sylwi fod y planhigyn yma yn aelod o deulu'r farddanhadlen, ac yn perthyn yn weddol agos i'r gruw neu'r teim gwyllt.

Roedd gelli o goed helyg yn tyfu ar un ochr i'r llwybr ac mae'r fan hon yn gynefin i'r pathew - un o'r creaduriaid sy'n cael ei weld yn rheolaidd ar y gors. Mae nifer o flychau wedi'u gosod ar y coed helyg yma er mwyn ceisio gweld faint yn union o bathewod sydd yma.

Mae llwynogod ifanc i'w gweld yn aml yn croesi'r llwybr pren ac mae'r dyfrgi i'w weld yma. Sgrech y coed ydi un o'r adar welir yn y coed a'r prysgwydd ar gyrion y gors.

Roedd y byddon chwerw yn tyfu yma a briwydd y gors, ac roedd y twmpathau brwyn yn amlwg iawn. Roedd 'na nifer o goed bedw ifanc i'w gweld ac roedd yr helyglys hardd a helyglys y gors yn eu blodau. Wrth i ni gerdded ar hyd y llwybr pren yn yr haul cynnes, fe hedfanodd yr ir wen fawr heibio i ni.

Roedd yr elinog yn ei borffor a'i felyn yn gwenu arnom ni oddi wrth ochr y llwybr ac roedd y gorsen ysig, neu gynffon y gath (y bullrush) wrth ochr y pyllau. Roedd sawl llwyn o'r helygen Fair a'i arogl aromatig yma.

Un rhedynen brin sy'n tyfu ar y gors ydi'r rhedynen gyfrdwy (Osmunda regalis; royal fern) ac mae tua phum gwahanol blanhigyn yma. Ar y mwyafrif o redyn, fe welwch y sborangia yn tyfu dan y ffrondau, ond yn y rhedyn cyfrdwy mae ffrond ffrwythlon yn tyfu ar wahn ac mae'r sborangia i gyd ar yr un ffrond yma.

Yn l mytholeg Slafaidd, blodau Perun oedd yr enw ar y sborangia ac roedd ganddyn nhw bwerau hud a lledrith. Roedden nhw'n galluogi'r sawl oedd yn gafael yn y sborangia i orchfygu cythreuliaid, gwarantu dymuniadau, datgloi cyfrinachau a deall iaith coed. Fodd bynnag, cyn i chi allu gwneud hyn, roedd yn rhaid i chi gasglu'r sborangia ar noson Kupala, sef Heuldro'r Haf a sefyll mewn cylch oedd wedi'i nodi o amgylch y rhedynen gyfrdwy a gwrthsefyll sen neu fygythiadau cythreuliaid!

Roedd telor yr hesg yn canu i ni wrth i ni gerdded ymlaen ac eglurodd Alan fod nifer o deloriaid i'w canfod yma gan gynnwys y troellwr bach (grasshopper warbler).

Wrth i ni nesu at y llyn, roeddwn i'n gallu gweld nifer o weision y neidr a mursennod yn hofran uwchben y dwer. Mae gwas y neidr blewog i'w weld yma yn ystod misoedd Mai a Mehefin ac mae'r ymerawdwr hefyd i'w weld yma. Mae madfallod a llygod y dwer yn cael lloches yma ac mi allwn i weld y grug croesddail yn swatio yng nghysgod yr hesg.

Mi fu Edward Llwyd yn chwilio am blanhigion yng Nghors Ddyfi. Ewyrth iddo oedd Walter Pryse (brawd i'w fam) a oedd yn byw yn Tyno-hir sydd i lawr y ffordd o Cors Ddyfi. Roedd Edward Llwyd yn mynd i ymweld 'i ewyrth pan oedd o'n aros hefo'i fam ac mae cofnod yn ei lyfr nodiadau o fis Mai 1682 amdano yn chwilio am blanhigion ar y gors sydd heddiw yn ffinio ar warchodfa Cors Ddyfi. Roedd o wedi rhestru naw o blanhigion ac mae''r rhywogaethau yma i gyd yn tyfu ar ochr Sir Drefaldwyn o'r gors heddiw. Does gen i ddim ond gobeithio ei fod wedi cael diwrnod cystal ag a ges i yng Nghors Ddyfi!

CAPTION(S):

Alan Hughes yn edrych dros ran o Gors Ddyfi. Gellir gweld y guddfan sy'n edrych ar nyth gweilch y pysgod yn y cefndir
COPYRIGHT 2011 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2011 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Jul 27, 2011
Words:848
Previous Article:Three nations scrum down.
Next Article:Dail yr efwr i wella anifeiliaid s,l; LLxN Y LLYSIAU.

Terms of use | Copyright © 2017 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters