Printer Friendly

Gwanwyn a'i addewid i'w weld ym mhobman; BYD NATUR.

OS cofiwch chi, tro dwytha y buom ni'n cerdded llwybr arfordir Mon hefo'n gilydd, roeddan ni wedi cychwyn cerdded o'r Traeth Coch i'r Benllech. Wel, rydw i am i chi ddwad hefo mi chydig pellach ar hyd y llwybr yma.

Rydan ni am adael traeth llydan, tywodlyd Benllech hefo caffi'r Wendon a'r llefydd gwerthu hufen ia tu ol i ni a dilyn y llwybr troed sydd wrth ochr nant fechan sy'n byrlymu ei ffordd i'r traeth.

Yn y fan yma ar ochr y llwybr mae'r triaglog coch yn tyfu.

Centranthus ruber ydi'r enw gwyddonol arno fo a 'Red Valerian' yn Saesneg. Mae'r enw'n dweud wrthach chi pa liw ydi'r blodyn - triaglog coch. Er, mi fedrwch chi gael rhai pinc a gwyn hefyd.

Planhigyn lluosflwydd, trawiadol, ydi hwn sydd fymryn yn wyrddlas. Does dim blew ar y dail na'r coesyn. Mae o'n gyffredin mewn rhai mannau ar waliau, hen adeiladau, creigiau, clogwyni, ochrau ffyrdd, argloddiau rheilffordd, tir anial a gerddi. Er ei fod wedi ymsefydlu yma, wedi'i gyflwyno yma o dde Ewrop mae o - i'r gerddi i ddechrau, ac unwaith y gwnaeth o ddianc i'r gwyllt ... wel dyna hi wedyn, mae o'n dal i ledaenu.

Mae 'na ddalan poethion yma hefyd, a'r goesgoch a'r ddalen arian i esmwythau traed blinedig. Ond dowch, dim ond cychwyn rydan ni, mi awn ni i lawr y grisiau cerrig yn y fan yma a dilyn y llwybr i'r chwith ac i ran greigiog y traeth tywodlyd, eang, braf yma.

Mae'r betys arfor ar ochr y llwybr yn y fan yma ac wrth i mi edrych ar y nant yn cymysgu hefo'r creigiau a'r tywod, mae rhywun yn gweld y gwymon gwyrdd yn tyfu'n amlwg iawn wrth ochr y dwr croyw sy'n llifo i'r mor.

Mae'r llanw'n uchel, ac mae 'na sawl gwylan y penwaig ifanc yn chwilio am fwyd ar y traeth a chredwch ne beidio ond mae 'na un jac do ar y traeth!

Ar lanw mawr, go brin y medrach chi gerdded ar hyd y llwybr ar ran ucha'r traeth gan ein bod ni i bob pwrpas yn cerdded drwy lain y diferion, ac mae'r cen oren a du sy'n nodweddiadol o'r rhan ucha o'r traeth i'w gweld yn amlwg iawn yma.

Capan y mor (Caloplaca marina) ydi'r enw ar y cen oren, llachar sy'n ffurfio clytiau afreolaidd ar hyd ac ar led y creigiau o gwmpas y penllanw ar y traeth. Mae o'n medru goddef diferion y don a throchiad byr yn heli'r mor ac mi welwch chi hwn ar hyd arfordir Cymru.

A maneg y graig (Verrucaria maura) ydi enw'r cen du sydd yma, ac mae hwn eto yn medru dioddef trochiad ysbeidiol yn nwr y mor yn ogystal ag ewyn y tonnau.

Pyllau glan mor bach sy'n y creigiau fan hyn, ond mae yna ddigon o ddwr y mor i'r perfedd gwyrdd dyfu ynddyn nhw.

Mae 'na hocyswydden ifanc ar ochr y llwybr fan hyn a rwan mae 'na risiau gweddol serth i ni ddringo i fyny o'r traeth.

Mae'r llwybr yn eithaf mwdlyd ar ol yr holl law rydan ni wedi'i gael yn ddiweddar, ac rydw i'n credu fod y gwanwyn eleni yn siwr o fod ryw dair wythnos yn ddiweddarach na'r un gawsom ni llynedd.

Ar yr ochr dde i mi, ochr y mor, mae troed yr iar ar ochr y llwybr, a thwmpathau o glustog Fair yn tyfu ar y graig serth, ac ar yr ochr arall, ochr y tir, mae'r gorthyfail yn dyfiant uchel.

Mae mwg y ddaear cyffredin (Fumaria officinalis) yma; blodyn bach braidd yn ddisylw ydi hwn hefo blodau bach pinc a'u blaenau yn binc tywyllach yn ffurfio sbigyn hir ar hyd y coesyn.

Mae'r ddraenen wen bron yn ei blodau, ac mae yna dancer gweddol fawr yn cysgodi'n y bae. Mae golygfa wych o'r fan yma.

Draw i'r dwyrain mi fedra i weld cyn belled a Phen y Gogarth; yn nes yma mae Trwyn Du, Penmon, a llethrau Llanddona a mynydd Llwydiarth ac yn ymestyn ymhell ar y dde i mi, mae'r Traeth Coch a Thrwyn Dwlban yn ei wahanu oddi wrth draeth y Benllech.

Islaw i mi ar y creigiau yn y mor, mae gwylanod y penwaig yn loetran a'u traed yn y dwr.

Mae'r llwybr ar ochr y clogwyn serth sy'n disgyn i'r mor ac mae blodyn neidr o nghwmpas i, y llwylys neu'r dail sgyrfi yn ei flodau, blodau'r dulys bron a darfod, a mwyalchen yn ehedeg o fy mlaen i yn brysur cario bwyd i'w chywion.

Rydw i'n pasio maes carafannau Hewitt rwan ac rydw i'n gallu gweld clychau'r gog yn eu glas gogoneddus ar fin y llwybr. Mae dail y rhedyn ungoes yn agor ac mae'r gwanwyn a'i addewid yn llenwi pobman.

Yn is i lawr ar y llethr mae 'na glwstwr ddigon o sioe o friallu. Mae gris neu ddwy ar y llwybr yma, ac ol traul ar y garreg. Yn union o fy mlaen i mae'r ddraenen wen yn ffurfio bwa gwych dros y llwybr ac ym mhobman mae'r adar yn canu.

Mae'r ysgawen bron, bron a blodeuo ac wrth i ni fynd dan y canopi hyfryd yma, mi fedra i weld blodau ar y fasarnen. Mae'r ddraenen ddu yma, yr eithin wedi mynd i had ac mae'r cnau yn dechrau ffurfio ar y coed cyll.

Erbyn hyn, mae'r mor ymhell islaw, ac wrth i ni fynd rownd y tro nesa yma, mi rydan ni'n gweld draw i gyfeiriad Traeth Bychan ac Ynys Moelfre yn y pellter.

CAPTION(S):

Traeth Benllech; Uchod, y llwylys neu'r dail sgyrfi, ac ar y chwith, y ddalen arian; Lluniau: Bethan Wyn Jones
COPYRIGHT 2008 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2008 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Features
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:May 7, 2008
Words:932
Previous Article:Diwrnod agored; BYD NATUR LLEN Y LLYSIAU.
Next Article:Fy hoff lyfrau, ond tydi pawb ddim yn gwirioni r'un fath.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2018 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters