Printer Friendly

GAIR I GALL.

Byline: LefiGruffudd

MA' hi wedi bod yn wythnos ddigon rhyfedd i'n cyfryngau Saesneg yng Nghymru. Cafwyd achlysur prin lle achosodd y cylchgrawn hwn storm o brotest, a hynny am ragflas i'r rhaglen deledu am "ddeilema" Lucy Owen ynghylch rhoi addsyg Gymraeg i'w mab.

Er tegwch i'r newyddiadurwr sgwennodd yr erthygl dydd Sadwrn diwetha yn amlwg doedd e ddim wedi defnyddio'r gair "despite" yn fwriadol ddilornus a dw i'n amau i'r ymateb ar Twitter, yn cynnwys fy ymateb i, fod braidd dros ben llestri.

Petai'n erthygl fwriadol sarhaus, yn arddull un o golofnwyr y Daily Mail dyweder, byddai modd cyfiawnhau'r cynnwrf efallai, ond yng nghyd-destun yr hyn a ysgrifennwyd, dw i ddim yn credu bod malais bwriadol.

Ac er bod llawer o'r trydariadau yn ddoniol a digon difyr, dw i'n amau bod ambell un wedi gwneud mwy o ddrwg nag o les.

I fi, fel y rhan fwyaf o drydarwyr Cymraeg, nid dim ond yr hyrtrwydd o ddefnyddio'r gair anffodus yng nghyswllt addysg Gymraeg oedd y broblem, ond y ffaith ei fod yn adlewyrchu agweddau llawer o bobl ddi-Gymraeg at yr iaith, yn cynnwys llawer o'r cyfryngau Saesneg. A falle bod yr ymateb ffyrnig yn arwydd ein bod yn cael llond bol.

Ac mi oedd rhannau o'r rhaglen nos Lun gyda Lucy a Rhodri Owen yn cadarnhau'r agweddau hynny.

Roedd edrych ar deitl y rhaglen a'r brawddegau agoriadol yn dweud llawer. Do'n i methu deall beth oedd y "big dilema" roedd Lucy'n gyfeirio ato ar y dechrau. A beth tybed oedd yr "huge decision" oedd yn stresso hi mas? Byddech chi'n meddwl ei bod gorfod penderfynu a ddylai hi anfon ei mab am flwyddyn mas i'r blaned Mawrth neu beidio, yn hytrach nag ystyried caniatau i'w mab gael addysg Gymraeg.

Fel roedd y rhaglen yn datblygu ro'ch chi'n gweld mai'r cynhyrchwyr oedd yn trio creu stori mas o ddim oedd hyn.

A wedyn dyma nhw'n fwriadol holi pobl gwrthun oedd am sicrhau bod eu plant yn dysgu "ieithoedd modern" yn hytrach na'r Gymraeg, fel tase ysgolion Cymraeg ddim yn dysgu ieithoedd Ewropeaidd a bod y Gymraeg yn opsiwn oedd yn ymdebygu i Ladin.

A thra fod ambell un yn trio mynd a ni nol i gyfnod pan oedd y Gymraeg ddim ond yn dderbyniol yn y capel ac i gymdeithasu, fydden i'n hoffi mynd nol i gyfnod pan oedd plant yn gwneud eu gwaith cartref eu hunain.

Ta waeth am hynny, roedd yn ryddhad gweld bod y mab yn mynd i gael addysg uwchradd Gymraeg (doedd dim cymaint o ddeilema a hynny, dw i ddim yn credu) ac yn fendith gweld agwedd Jamie Roberts, sydd o gartref di-Gymraeg, mor bositif dros yr addysg a dderbyniodd.

Ond doedd dim rhyddhad o weld bod agwedd cibddall pobl uniaith Saesneg dal i fod mor amlwg.

Beth bynnag arall am y rhaglen, mae wedi codi trafodaeth am addysg yng Nghymru, a hefyd yn dangos manteision addysg ddwyieithog, fel nododd yr arbenigwr ar y rhaglen.

Ond falle bod angen trafodaeth ehangach am addysg yng Nghymru. Pam nad yw'r ddarpariaeth ar gyfer y galw am addysg Gymraeg yn cael ei gyflenwi? Pam nad yw pob plentyn yng Nghymru yn cael y cyfle i gael addysg Gymraeg? Pam fod cymaint o bobl yn dod drwy'r system addysg methu siarad brawddeg yn yr iaith? Ma' tipyn o waith i newid meddylfryd a rhoi hyder yn y Gymraeg dybia i. Falle bod angen Hywel Teifi arall arnon ni i edrych eto ar y dibrisio a fu, i ni allu gweithio mas pam bod cymaint o Gymry yn dal i weld ein hiaith yn destun cywilydd a negyddiaeth.

@LefiGruffudd
COPYRIGHT 2016 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2016 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

 
Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Features
Publication:Western Mail (Cardiff, Wales)
Date:Jan 30, 2016
Words:598
Previous Article:Wyneb cyfarwydd ym Mhorth y Glo.
Next Article:Criw Jonathan am godi hwyl.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2018 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters