Printer Friendly

Ffynhonnau i olchi copr ...a disychedu ceffylau.

| O dudalen 26 Lloegr i feddyginiaethu llygaid ac fe'i profwyd yn fuddiol. Gwyddom i sicrwydd am sawl achos yn Llandudno heddiw y gellir tystio bod gwellhad i'r llygaid wedi digwydd wrth ddefnyddio dwr y ffynnon hon.

Y mae'r cerrig sgwar sy' o gwmpas y ffynnon yn profi iddi fod ar un adeg mewn cyflwr gwell o lawer a bod gwaith cerrig wedi'i adeiladu o'i chwmpas. Gelwid y llwybr y cyfeiriwyd ato eisoes yn 'Llwybr y Myneich', sef y llwybr a ddefnyddid ganddynt i gyrraedd Eglwys Tudno Sant, ac nid yw'n anhebygol bod mynachod Abaty'r Gogarth rhywdro wedi defnyddio'r ffynnon."

3. FFYNNON Y GASEG Fe'i lleolir ym mhen eithaf gogleddorllewin y Gogarth Fawr; a darganfuwyd hi yn ystod y gwaith o adeiladu'r 'Marine Drive' yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe'i defnyddid yn bennaf fel ffynnon i ddisychedu ceffylau oedd yn tynnu'r coetsys ar y reid o dros bum milltir o gylch y Gogarth. Cyn belled ag y gwyddom 'does fawr neb yn gwybod rhyw lawer amdani. Mae'n anodd dyfalu pam y cafodd yr enw hwn. Gellir nodi fod yn y cyffiniau olion pentref hynafol, a'r tebygrwydd yw y defnyddid y ffynnon hon yn y cyfnod cyntefig hwnnw.

Yn gynharach ym1863 nodwyd ei bod wedi cael ei defnyddio yn y cyfnod cyn y Rhufeiniaid i olchi llawer iawn o gopr.

4. FFYNNON LLECH Peidiwch a mentro ceisio mynd at y ffynnon yma! Mae'n rhy beryglus!

Lleolwyd y ffynnon yn Ogof Llech ar ochr ogledd orllewin y Gogarth. Yr unig ffordd ati o'r tir yw dringo gyda rhaffau!

Mae'r ogof yn un ddiddorol gan bod ynddi waith cerrig go anghyffredin. Honnir mai dyma gell wreiddiol Sant Tudno pan symudodd i'r ardal o Fangor is y Coed yn ystod y chweched ganrif.

5. FFYNNON LLETY FADOG Mae Ffynnon Llety Fadog, a elwir gan rai yn Ffynnon Rufeinig, i'w gweld ger fferm Dolfechan a'r cyfeirnod map yw 76528379.

Wrth gwrs, nid y ffynnon wreiddiol sydd ymamae'n debyg bod honno yn tu ol i'r wal. Y ffordd hawsaf o gyrraedd y ffynnon yw gyrru i fyny'r Gogarth, heibio gorsaf hanner ffordd y tram, ac yna troi i'r dde. Ar ol croesi'r trac fe welwch safle parcio. Oddi yno gallwch ddilyn y llwybr at y wal.

Gerllaw mae olion tebyg i'r hyn a elwir yn Gytiau Gwyddelod sy'n dangos bod dyn wedi byw ar y Gogarth filoedd o flynyddoedd yn ol. Mae yna hefyd olion o aredig cynnar. Roedd rhaid cael dwr ac mae'n debyg mai oherwydd y ffynnon y sefydlwyd cartrefi yma. Er gwaethaf yr enw' Ffynnon Rufeinig', dywed rhai nad oes a wnelo'r Rhufeiniaid ddim oll a'r ffynnon!

Mae Ffynnon Llety Fadog mewn cilfach yn y wal fodern. Mae'r twr yn codi mewn cist o gerrig tua thair troedfedd Ond pwy oedd y Madog yma? Gallai fod yn Madog o Gloddaeth neu ei dad, Madog ab Iorwerth Goch o Greuddyn oedd yn wr o bwys yn y drydedd ganrif ar ddeg. Y Gogarth oedd ei 'ranch' ceirw ac mae rhan o'r Gogarth yn cael ei galw'n 'Hwylfa'r Ceirw hyd heddiw.

Yn ol John Roberts, mewn erthygl yn y 'Llandudno Advertiser yn 1909, roedd y Rhufeiniaid yn golchi eu copr ar y safle yma.

| Dymunaf ddiolch yn fawr i Tom Parry, hanesydd lleol o fri, am fy nhywys at nifer o'r ffynhonnau a'i gymorth parod bob amser.

| Cawn ragor o hanes ffynhonnau Penygogarth yn Yr Herald yn fuan

COPYRIGHT 2017 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2017 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Conwy, Wales)
Date:Apr 19, 2017
Words:564
Previous Article:'Anfadwaith'newid enwau.
Next Article:Driver in tirade against Jeremy Vine is jailed; WOMAN LOSES APPEAL OVER CLASH CAUGHT ON HEADCAM.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters