Printer Friendly

Dyn 'i fryd ar Gyfeillion pluog.

Byline: Ian Parri

ANIFAIL digon prin ydy'r darlledwr arbenigol sydd chymaint o frwdfrydedd egnol yn ei bwnc nes ei fod yn rhwym o'i drosglwyddo i'r gwyliwr neu'r gwrandawr.

Mae rhywun yn gallu meddwl am Medwyn Williams yn trin ei ardd, neu Carys Jones yn trwsio ac yn addurno cartrefi.

Ac yna mi oedd ganddoch chi Ted Breeze Jones, y diweddar naturiaethwr a ffotograffydd coeth ei Gymraeg. Dyna ddyn oedd 'r holl wybodaeth wyddoniadurol 'na am ein cyfeillion pluog ar flaenau ei fysedd, yn ogystal ag ar flaen ei dafod.

Daeth byd natur i'n cartrefi mewn cyfnod pryd roedd darlledu am y fath bwnc yn y Gymraeg yn eitha' anarferol. A thrwy'r cyfan roedd ei hynawsedd yn disgleirio fel llusern.

Ted Breeze Jones oedd y person cyntaf i mi ei gyfweld erioed yn fy ngyrfa newyddiadurol, a chofiaf yn iawn godi'r ffn efo peth pryder i holi dyn oedd yn wyneb a llais cyfarwydd ar y cyfryngau. Sut ymateb a gawn i, tybed?

Nid oedd lle o gwbl i'm pryder, wrth iddo led sylweddoli fy mod i'n ddibrofiad yn y maes, a'm tywys trwy'r cyfweliad efo rhes o atebion cynhwysfawr, syml a dealladwy. Dyna oedd un o'i rinweddau pennaf; y gallu i wneud i'r lleygwr ddeall ac ymddiddori mewn pwnc yr oedd yntau'r arbenigwr arno.

Bellach aeth pum mlynedd ers ei farwolaeth disymwth, ac yntau'n 68 mlwydd oed, ond ni aeth ei gyfraniad yn angof. Ac mewn rhifyn arbennig o Portreadau (S4C, Nos Lun, 8.30pm) byddwn yn coffu ei waith a'i fywyd.

Yng nghwmni ei weddw, Anwen Breeze Jones a'i ffrindiau Dei Tomos, Gwyn Thomas a Robin Williams, down i adnabod dyn a gyhoeddodd 30 o lyfrau Cymraeg am fyd natur ac a gysegrodd ei fywyd i fyd natur - ac yn arbennig felly i astudio adar.

Trwy gyfweliadau 'r rhai oedd yn ei adnabod a chlipiau o'r archifau o Ted Breeze Jones ei hun wrth ei waith, cawn ddarlun cyflawn o'r naturiaethwr a'r dyn.

``Roedd diddordeb Ted mor eang, nid yn unig mewn adar, ond yn y byd natur o'i gwmpas a'r amgylchedd,'' meddai Dei Tomos, ei gyd-gyflwynydd ar y gyfres deledu, Awyr Iach, yn y dyddiau a fu. ``Roedd ei wybodaeth o'n ddiharebol.''

Un o ddoniau Ted Breeze Jones oedd ei allu i gyrraedd cynulleidfa o bob oedran. Yn ogystal bod yn gyflwynydd teledu a radio, ysgrifennodd dros 30 o lyfrau natur i blant ac oedolion. Hefyd, ynghanol y chwedegau, cyhoeddodd y rhestr safonol gyntaf o enwau adar Cymraeg ar y cyd gyda P Hope Jones.

``Roedd ganddo enw Cymraeg ar bob dim,'' ychwanega Dei Tomos.

``Roedd ganddo Gymraeg naturiol, ac roedd yn disgrifio pethau mewn iaith bob dydd. Doedd dim rhaid i chi fod yn arbenigwr i'w ddeall o. Doedd o ddim yn defnyddio geiriau crand.''

Ganed Ted Breeze Jones ger droed y Moelwyn ym Manod, ond yn 10 oed collodd ei fam ac yn fuan wedyn, ei dad. Bu'n rhaid i'r hogyn ifanc hel ei bac a mudo rhyw filltir i fyny'r ffordd i Flaenau Ffestiniog, lle cafodd ei fagu gan ei fodryb a'i ewythr.

Roedd yn ei elfen yn nhirlun gerwin ond llawn bywyd Blaenau Ffestiniog, ac roedd ei ddiddordeb ym myd natur yn amlwg o'r dechrau. Yn hogyn ifanc byddai'n tynnu lluniau o'r adar a welai o'i gwmpas, a threuliai lawer o'i amser yn trampio i fannau digon anghysbell yn y mynyddoedd a amgylchynai'r dref.

Yn ddiweddarach, ac yntau edrbyn hynny yn fyfyriwr yn y Coleg Normal ym Mangor, daeth yn ffrindiau mawr efo'r arbenigwr adar TG Walker. Treuliai benwythnosau cyfain yn ei gwmni athrylithgar, yn ei gartref ym Moelfre, Ynys Mn, lle bu'r meistr yn trwytho ei ddisgybl yng nghyfrinachau'r adar a'u cynefin. Bu'r addysg honno yn sylfaen gref iddo weddill ei fywyd.

Roedd Walker yn arlunydd ac yn ffotograffydd yn ogystal bod yn naturiaethwr ac yn awdur, a thrwyddo fo y daeth Ted Breeze Jones i adnabod yr arlunydd byd-enwog, George Tunnicliffe, oedd yn byw ym Malltraeth ar yr ochr arall i'r ynys.

Cafodd Oriel Ynys Mn, ger Llangefni, ei datblygu'n bennaf er mwyn cynnig cartref parhaol i ran o gasgliad Tunnicliffe o ddarluniau adar wedi ei farwolaeth. Wedi eu huno gan eu diddordeb brwd mewn byd natur a thynnu lluniau, daeth y tri'n gyfeillion cls.

Mae cynllun erbyn hyn ar droed i sefydlu canolfan wylio adar yn un o hoff lefydd Ted Breeze Jones, sef y Cob ym Mhorthmadog, er cof amdano.

Teyrnged briodol i ddyn a fu, yng ngeiriau Dei Tomos, ``yn ein goleuo ni fel cenedl am gyfaredd y byd natur ac yn rhannu'r rhyfeddod yr oedd o yn ei gael gyda ninnau hefyd.''

CAPTION(S):

EGNOL: Y diweddar Ted Breeze Jones yn paratoi i groesawu mwy o adar i'w ardd
COPYRIGHT 2002 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2002 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Features
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Dec 7, 2002
Words:781
Previous Article:Carvings are back where they belong.
Next Article:What to Watch.


Related Articles
Craig yn falch o fod 'nil wrth ei wreiddiau; POBOL Y CWM S4C/Llun-Gwener.
PIGION Y DYDD.
PIGION Y DYDD; SUNDAY.
PIGION Y DYDD; THURSDAY.
Roy'n hel atgofion wrth ddweud ffarwel.
Iaith y nefoedd yn cyrraedd Palas Lambeth.
Ciniawa, cyfeddach ... a charu; Hwyrach bod y tymheredd yn codi ledled Cymru, ond a fydd pethau'n poethi rhwng y cyplau posib ar Cinio Caru yr...
SIARAD PLAEN.
Viewpoint: ORIG WILLIAMS At SIARAD PLAEN.
wales: Syr Kyffin... bonwr y byd celf.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters