Printer Friendly

Dyfodol yr laith Gymraeg.

Byline: Huw Lewis

AR un wedd, roedd canlyniadau Cyfrifiad 2001 yn galondid mawr. Wedi blynyddoedd o weld niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn dirywio, gall rhywun ond croesawu elfen o gynnydd beth bynnag y bo.

Serch hynny, er mor galonogol ydyw, cam gwag fyddai dadlau bod y cynnydd hwn yn cadarnhau dadleuon a chyfeiriad Bwrdd yr Iaith a Llywodraeth Cymru.

I'r gwrthwyneb, gellid dadlau fod Cyfrifiad 2001 yn cadarnhau rhai o ragdybiaethau Cymdeithas yr Iaith.

Yn ystod yr wythdegau a'r nawdegau, wrth edrych i'r dyfodol, dadleuai'r Gymdeithas y byddai miloedd o unigolion yn parhau i fedru siarad Cymraeg, ac yn wir - dros amser - yr ychwanegid cryn dipyn at y cyfanswm hwnnw.

Ond, ar yr un pryd, dadleuwyd na fyddai hyn, o anghenrhaid, yn arwain at gynnal y Gymraeg a'i normaleiddio fel iaith gymunedol fyw. Yr hyn a wnai'r Gymdeithas ar y pryd, oedd rhybuddio rhag creu dyfodol cul i'r iaith - dyfodol lle byddai ond modd i rai Cymru ymwybodol i ddefnyddio'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd arbennig, tra byddai'r nifer o gymunedau Cymraeg yn dirywio yn aruthrol o gyflym.

Erbyn heddiw, mae angen ail-ystyried y ddadl hon, gan ei bod yn berthnasol iawn i rai o gasgliadau Cyfrifiad 2001.

I dechrau, tra ein bod yn gweld cynnydd yn y nifer o unigolion sydd yn 'gwybod' Cymraeg, nid ydym yn cysylltu hynny gyda hawliau go iawn i ddefnyddio'r iaith. Mae Deddf Iaith 1993 a'r diwylliant 'Welsh on demand' sydd yn rhan anatod ohono, yn rhwystro unrhyw ddatblygiad o'r fath.

Ar hyn o bryd, os ydyn ni am dderbyn gwasanaeth Cymraeg - bil ffon, er engrhaifft, neu ffurflen - mae'n rhaid gofyn yn arbennig amdano, a hynny, wrth gwrs, cyhyd 'i fod yn rhesymol ac yn ymarferol.

Serch hynny, nid yw gorfod gofyn dro ar ol tro am y Gymraeg yn gweud dim mwy na swcro lleiafrif penderfynol.

Ar yr un pryd, mae'r ffaith bod y Ddeddf Iaith yn gyfyngedig i'r sector gyhoeddus, yn golygu bod cwmniau preifat, sydd bellach yn gyfrifol am gymaint o wasanaethau, yn rhydd i anwybyddu'r iaith.

Yn sicr, nid yw gwneud y Gymraeg yn fwy trafferthus, gan ei gwthio i'r cyrion yn fodd o annog pobl - yn enwedig dysgwyr a phlant ifanc - i wneud mwy o ddefnydd ohoni.

Ymhellach, mae'r methiant i osod angenion yr iaith a chymunedau Cymru - yn wledig a threfol - fel ystyriaeth ganolog ym mhob maes polisi (er enghraifft tai, cynllunio a'r economi), yn arwain at danseilio rhagolygon y cymunedau hynny, lle mae'r iaith Gymraeg yn gyfrwng naturiol. Cafwyd cadarnhad pellach o'r methiant hwn wythnos yma, wrth i Gyngor Sir Caerfyrddin roi sel bendith ar Gynllun Datblugu Unedol a allai arwain at godi dros 11,000 o dai yn y sir dros y pymtheg mlynedd nesaf.

Dyma gynllun a luniwyd heb gynnal unrhyw ymchwil i'r angen lleol am dai ac heb ystyried effeithiau posib y datblygiad ar gymunedau Cymraeg y sir.

Felly, y cwestiwn mawr a ddylai godi yn sgil canlyniadau Cyfrifiad 2001 yw sut fath o ddyfodol ydym ni am ei greu i'r Gymraeg? Yn nhyb Cymdeithas yr Iaith, ni fydd y llwybr cul presennol yn fodd o ryddhau ac ehangu'r defnydd o'r Gymraeg, gan roi'r hawl i bobl ei ddefnyddio ym mhob agwedd o fywyd.

Mewn geiriau eraill nid dyma'r ffordd o sicrhau fod y Gymraeg yn 'Iaith Pawb'.
COPYRIGHT 2003 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2003 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Features
Publication:Wales On Sunday (Cardiff, Wales)
Date:Aug 3, 2003
Words:542
Previous Article:CYMRU - DYFODOL CENEDLAETHOLDEB; Agenda Gwladgarwch ymarferol.
Next Article:It's time nationalists stood up for Wales.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters