Printer Friendly

Dyddiau difyr yn archwilio rhai o amgueddfeydd ac orielau Glasgow.

Byline: angharad TOMOS

RHAID mai fan''no oedd y lle ffasiynol i fynd yn ystod gwyliau''r Pasg eleni. Y munud y canfu David Cameron 'mod i''n mynd i Glasgow, roedd yntau eisiau mynd yno hefyd. Ac o fewn dyddiau, roedd Wil a Cet yn ein dilyn, yn dynn wrth ein sodlau. Nid fod ein llwybrau wedi croesi o gwbl - dyna fantais dinas mor enfawr.

Doedden ni ddim yn debygol o ddod ar eu traws yn ein llety chwaith. Un rheswm dros ddewis Bunkum Backpackers oedd na fyddai Prif Weinidogion a thywysogion yn tarfu arnom amser brecwast. Am naw punt y noson, yng nghanol y West End, anodd oedd credu''r pris. Dim ond pan ddaru ni fethu cysgu y noson gyntaf oherwydd yr oerni y dechreuais amau''r fargen. Hyd yn oed o wisgo cap, sgarff, menyg a gwasgod i fynd i''r gwely, ron i''n dal i deimlo fel Capten Scott. Brrrr.

Ond chwarae teg, hwn oedd y Pasg oeraf ers 1962, a derbyniais nad pennaf ddiddordeb gwr y llety oedd glanhau. Y ffordd orau o gadw''n gynnes oedd ymweld a chynifer o orielau ac amgueddfeydd ag y gallem mewn saith niwrnod, ac oherwydd haelioni Cyngor Dinas Glasgow, maent am ddim ac yn llawn pobl.

Kelvingrove yw''r mwyaf poblogaidd, a chaiff fwy o ymwelwyr na''r un amgueddfa y tu allan i Lundain. Yno y cefais weld y gwreiddiol o''m hoff lun - Crist ar y Groes gan Salvador Dali. Cefais fy nghyflwyno i gelf Albanaidd hefyd, a dotio at waith y Glasgow Boys a''r Colourists. Caiff plant ddifyrrwch yn gweld eliffant a jiraff wedi ei stwffio, a chael hwyl yn chwarae efo nadroedd go iawn (dan oruchwyliaeth!) Yr Amgueddfa Wyddoniaeth yw''r fwyaf, honglad o beth ar lan yr afon a godwyd i ddathlu''r Mileniwm. Digon o gyfleoedd i blant roi cynnig ar bopeth dan haul, a f''unig gwyn oedd fod gormod o''r diawliad bach dan draed... Doedd gen i fawr o awydd mynd i''r Amgueddfa Drafnidiaeth, ond roedd hon yn un hynod o ddifyr, ac mewn adeilad newydd sbon a gynlluniwyd gan Zaha Hadid ac a agorwyd ddwy flynedd yn ol. Welais i mo''r cyfan o''r 3,000 o drenau, ceir, beics a chychod, ond y cerbyd mwyaf diddorol i mi oedd carafan o wersyll heddwch Faslane, yn dangos amodau byw protestwyr yn yr unfed ganrif ar hugain.

Roedd gweld rhai o''r ceir cynharaf yn peri i mi fod yn ddiolchgar mai yn yr oes bresennol rwy''n byw.

Mantais Hostel Bunkum oedd y ffaith fod yr Oriel Gelf Hunterian dafliad potel ddwr poeth i ffwrdd, ac roedd bychander hon yn rhan o''i hapel. Er ei bod yn fychan, roedd detholiad gwych o waith celf, a llawer o waith Whistler. Ches i ddim cyfle i weld yr Oriel Gelf Fodern. Os cewch ddigon o strydoedd prysur Glasgow, digon hawdd dal y tren tanddaearol i weld casgliad Burrell yn Parc Pollock. Hwn oedd fy hoff leoliad, ac wedi paned yn y caffi modern, roedd amrywiaeth o bethau o bob cyfandir a phob canrif. Rhoddais y wobr gyntaf i fosaic Rhufeinig o geiliog lliwgar o''r ganrif gyntaf cyn Crist.

Pobl sy''n gwneud dinas y mi, a''r lle mwyaf gwerinol yw''r People''s Palace, amgueddfa i bobl Glasgow yn bennaf yn rhoi hanes cymdeithasol y ddinas. Wedi gweld arddangosfa ar amodau byw yn slymiau''r Chwedegau, ni allwn lai na dathlu fod llawer o''r rhain wedi eu dymchwel.

Os am hanes un wraig yn arbennig, mae Tenement House ar agor i''r cyhoedd. I''r ty hwn ym 1911 y daeth Agnes Toward a''i mam i fyw, ac yno y treuliodd ei hoes nes gorfod mynd i''r ysbyty ym 1965. Ni newidiodd ddim oll yn y ty, ac o ganlyniad, cawn gamu yn ol i oes arall. Nid fod hynny ynddo''i hun yn newydd. O ran glanweithdra, ron i''n camu''n ol rhyw ganrif bob tro ron i''n agor drws y Byncar Bunkum.

Os cewch chi''r cyfle i wario cyfnod yn Glasgow, a phlant yn gwmni i chi, dau le sy''n gwbl hanfodol. Canolfan Bypedau a Masgiau Glasgow yw''r cyntaf, lle cewch dreulio bore mewn gweithdy i wneud pypedau,

a''r ail yw Theatr Kinetic Sharmanka. Theatr o ddyfeisiadau mecanyddol ydyw a grewyd gan alltud o St Petersburg, ac yn y gwyll, i gyfeiliant cerddoriaeth, roedd y profiad yn un cwbl wahanol i unrhyw beth arall a welais.

Mae gan Glasgow hanes o fod yn noddfa i alltudion a phobl o bob man dan haul, a dyma sy''n rhoi lliw a chymeriad i''r lle - cymaint mwy na Chaeredin ddywedwn i.

Fel y dywedodd y crydd wrthyf pan es i brynu cria a chwyno ei fod wedi gwerthu rhai y maint anghywir i mi, yn ol y pecyn. "You can listen to them or you can listen to me", meddai "It''s up to you". A phetai yn cyfeirio at y Prif Weinidog ac Etifedd Coron Lloegr, dwi''n credu mai dyna fyddai ei union eiriau hefyd. Dewis pobl yr Alban ydyw. Mae yna ddyfodol difyr yn eu wynebu yn 2014.
COPYRIGHT 2013 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2013 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Features
Publication:Daily Post (Conwy, Wales)
Date:Apr 10, 2013
Words:824
Previous Article:Rhaid cofio mai ein corff ni ydi Cadw...
Next Article:Connie'n dod adref ar gyfer cyngerdd yr Urdd.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters