Drama o drasiedi Tryweryn yn profi'n boblogaidd iawn; Y CELFYDDYDAU.
CAFODD drama a seliwyd ar un o gyfnodau mwyaf cynhyrfus yn ein hanes diweddar gynulleidfaoedd heb eu hail gyda'r mwyafrif o'r theatrau'n llawn dop ar gyfer perfformiadau.Denodd 'Porth y Byddar' gan Manon Eames (dde), sef drama sy'n ymwneud a boddi cymuned Capel Celyn ger Y Bala 50 mlynedd yn ol, dros 6,500 o bobl i'w gweld yn ystod taith chwech wythnos o gwmpas prif theatrau Cymru yn ogystal ag un perfformiad yn Llundain.
Roedd 'Porth y Byddar' yn gyd gynhyrchiad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Clwyd Theatr Cymru. Bu'r perfformiadau cyntaf yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Yr Wyddgrug eleni cyn iddi gychwyn ar daith oedd y cynnwys 17 o berfformiadau mewn wyth gwahanol theatr i gyd.
Gwerthwyd pob un tocyn ar gyfer nosweithiau'n Yr Wyddgrug, Theatr Gwynedd ymMangor, Canolfan Celfyddydau Taliesin yn Abertawe, Theatr Sherman yng Nghaerdydd, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth a Theatr Mwldan yn Aberteifi.
"Roedd cymeradwyaeth ryfeddol y cynulleidfaoedd mwyaf i ddrama Gymraeg ers blynyddoedd ynghyd a'r clod roddwyd i'r cynhyrchiad yn brawf o allu anferthol Manon Eames fel dramodydd yn ogystal a'r awch ymysg y gynulleidfa amtheatr o safon sy'n berthnasol ac yn adlewyrchiad o'u bywydau," meddai Cyfarwyddwr 'Porth y Byddar', Tim Baker.
"Bu'n bleser pur gweld dau o brif gwmniau drama Cymru'n rhannu talent ac adnoddau i greu cynhyrchiad fu mor llwyddiannus," ychwanegodd.
![]() ![]() ![]() ![]() | |
Publication: | Daily Post (Liverpool, England) |
---|---|
Date: | Oct 24, 2007 |
Words: | 220 |
Previous Article: | Casgliad yn gofnod o yrfa grwp arloesol; Y CELFYDDYDAU. |
Next Article: | Cofio'r cawr oedd yn cario baich y byd ar ei 'sgwyddau eiddil. |