Printer Friendly

Dirgelwch yr eneth golledig.

Byline: Gan TUDUR HUWS JONES

YR wythnos hon rydym yn apelio am gymorth darllenwyr Y Daily Post Cymraeg i ddatrys dirgelwch teuluol sydd 'i wreiddiau yn nyddiau'r Rhyfel Mawr (1914-18).

Mae'n stori drist sy'n ymwneud merch fach gafodd ei geni yn ystod y rhyfel, ond a gollodd ei mam ar ei genedigaeth. Cafodd ei magu gyda'i nain, ond pan ddaeth ei thad i geisio dod hi adref gydag o, fe ddiflannodd y plentyn a'r nain.

A dyna lle mae Gwynfryn James, a'i ferch - y gantores Sin James - angen eich cymorth chi, achos roedd y ferch fach dan sylw yn perthyn iddynt.

Dyma'r stori yn fras: Un o feibion Tynewydd Uchaf, Llanerfyl, yn yr hen sir Drefaldwyn, oedd Dafydd Davies, ond fel llawer o'i gyd-Gymry bu'n rhaid iddo adael y tir a mynd i chwilio am waith yn Lerpwl, ac mae'n debyg mai yn ffatri Tate & Lyle yn y ddinas honno y cyfarfu 'i wraig - Cymraes o Langefni.

Priododd y ddau, ond - hithau'n feichiog gyda'u plentyn cyntaf - cafodd Dafydd ei alw i ryfel, a mynd fu raid wrth gwrs.

Tra'r oedd i ffwrdd ganwyd merch fach iddynt, ond bu farw'r fam wrth ei geni. Danfonwyd am Dafydd, ond roedd ei wraig wedi'i chladdu erbyn iddo gyrraedd yn l.

Magwyd y plentyn gyda'i nain yn Llangefni, ond ar l pump neu chwe mlynedd, anfonodd nain Llangefni air at Dafydd yn gofyn am bres i'w helpu i fagu'r ferch fach.

Gan fod pres yn brin ymhobman, cynigiodd mam Dafydd fagu'r plentyn yn ei chartref yn Llanerfyl, lle byddai'n gwmpeini i'w chyfnither, Ruby - mam Gwynfryn a nain Sin James.

Meddai Sin: "Felly aeth Dafydd a Ruby i Langefni i moen y lodes fach - cyfnither 'cosa' fy nain. Aethant ar geffyl a thrap i Lanfair Caereinion, trn o Lanfair i Trallwm a trn mwy wedyn i Langefni.

"Cyrraedd y tye a chynnig y syniad i'r Nain - hynny yw y bydde'n well i'r lodes fach gael ei magu gyda'i thad. Dwn im beth oedd yr ymateb ond fel mam fy hun dwi'n dychmygu ei bod hi wedi dychryn am ei bywyd yn enwedig o gofio ei bod hi wedi colli ei merch namyn pum mlynedd ynghynt.

"Cawsant swper gyda'r ddwy ac aros yn y bwthyn hyd y bore. Ond y bore wedyn roedd brecwast wedi ei osod ond dim sn o'r Nain a'r plentyn. Roedd y tye yn wag. Nid oedd golwg o'r ddwy, a ddaethon nhw ddim yn l, ac aeth Dafydd a Ruby adre'n waglaw."

Ond mae'n amlwg bod y ferch yn ymwybodol bod ei thad yn byw yn Llanerfyl, oherwydd flynyddoedd wedyn daeth i'r pentref i gyflwyno ei darpar wer iddo er mwyn i hwnnw wybod fod ganddi dad cyfreithlon.

Mae Gwynfryn James yn credu fod y ferch fach naill ai'n cadw, neu'n gweithio mewn siop yn Llangefni neu efallai Gaernarfon.

"Roedd Dafydd bellach wedi ail-briodi efo gwraig o'r enw Lisi Tan-y -berth ac mi fuon nhw'n byw mewn ffarm o'r enw Cwm Byr, Cwm Elan, Rhaeadr, ac yna yn Tan-y-berth Llangurig. Glyn, Milton, a Howey oedd meibion Dafydd o'r ail briodas. Roedd gan Lisi blentyn siawns o'r enw Dora ac fe'i derbyniwyd hi'n llwyr gan Dafydd - ond mae'n debyg i Lisi wrthod cydnabod y ferch fach o Langefni," medd Sin.

Mae'r teulu wedi ceisio dod o hyd i ragor o hanes, ond heb fawr o lwc hyd yma. Felly, rwan mae Gwynfryn a Sin yn apelio ar unrhyw un sydd gwybodaeth neu fedr daflu mymryn o oleuni ar y dirgelwch i gysylltu hwy.

"Y maen tramgwydd mwyaf yw nad oes gennym enw ar gyfer gwraig gyntaf Dafydd na'i ferch wrth gwrs," meddai Sin, "ond gobeithio bod yr hanes yn canu cloch efo rhywun yn rhywle. Mi fuasai'n nhad a finnau wrth ein bodd cael datrys y dirgelwch."

Adroddodd Sin hanes cyd-ddigwyddiad anhygoel a ddigwyddodd iddi'n ddiweddar - un y mae'n ei ystyried fel arwydd iddi barhau i chwilio.

"Mae gen i ffrind agos iawn yn byw yng Nghaeredin o'r enw Lorraine - mi wnaethon ni gyfarfod pan oeddan ni'n dwy yn gweithio yn Disneyworld Florida flynyddoedd mawr yn l.

"Mae hi'n gweithio mewn coleg yn y ddinas yn dysgu Saesneg i fewnfudwyr o wledydd pell. Un o'i chyd-weithwyr yw gwraig yn ei chwedegau o'r enw Eldrydd - neu Eldryd sydd chysylltiadau a Chymru.

"Pan o'n i yn ymweld Lorraine a'i theulu dros yr haf soniodd am Eldrydd gan ddweud bod ganddi gysylltiadau agos Llanerfyl - oedd yn ei hun yn reit anhygoel - a'i bod hi newydd ddychwelyd o wibdaith i'r pentref yn ceisio hel achau.

"Mi ddychwelodd, yn l pob tebyg yn llawn cynnwrf am ryw stori glywodd hi gan un o'r teulu am hanes lodes fach yn cael ei geni i'w hen ewythr a'i bod hi wedi ei magu yn Llangefni a hanes ei Yncl Dafydd yn mynd i'w nl hi ond yn dod nol yn waglaw...!

"Yn ddiarwybod i Lorraine roedd fy mhen innau'n llawn o'r un stori ac wrthi'n ceisio penderfynu dros yr haf be' i neud nesa i geisio darganfod mwy am y lodes fach o Langefni. Mi sbies i'n hollol gegrwth ar Lorraine. Dyna gyd-ddigwyddiad! Mae'r hen fyd ma'n fach yn tydi!". Ydy'r hanes yn canu cloch? Cysylltwch Gwynfryn James ar (01938) 820339 Neu Gwyn Jones (gwer Sin) ar 07968 174 008 Neu gyda'r Daily Post Cymraeg, Blwch Post 202, Cyffordd Llandudno, Conwy, LL31 9ZD. (01492) 574428 e-bost: tudur.jones@northwalesnews.co.uk

CAPTION(S):

Sgwr Llangefni ar droad y ganrif ddwytha Sin James a'i thad Gwynfryn
COPYRIGHT 2009 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2009 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Sep 23, 2009
Words:906
Previous Article:Expansion adds up to office move.
Next Article:Atgofion am Bob Tai'r Felin; LLYTHYRAU.


Related Articles
PIGION Y DYDD; WEDNESDAY.
Cyflawni pererindod a dod o hyd i oleudy mewn oes go dywyll.
Iolo Williams a'i ben yn y cymylau.
Ai dyma ddiwedd y daith I adar brith Porth yr Aur? Mae o wedi creu rhai o'r cymeriadau mwyaf poblogaidd yn hanes llenyddiaeth Cymru, ond ai hon fydd...
Dysgu blaenoriaethu - dyna ydi'r nod i mi.
Dathlu doniau dinas Caerdydd.
156,697 rheswm i ddathlu; Torfeydd yn dyst i lwyddiant yn y brifddinas meddai Huw Llywelyn Daves.. nawr am Y Bala EISTEDDFOD CAERYDD A'R CYCLH.
PUM MUNUD GYDA ... MERERID HOPWOOD.
Angen cefnogaeth pob plaid yn ddi-wahan; LLYTHYRAU.
Wyth yn brwydro am Ysgoloriaeth Bryn.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters