Printer Friendly

Dal yn eu blodau at ddiwedd yr haf; BYD NATUR Mwy o ryfeddodau byd natur gyda Bethan Wyn Jones.

Byline: Bethan Wyn Jones

MYND i gerdded ar hyd Lon Ceint wnes i a mwynhau munud fach dawel ar derfyn dydd.

Mae'r dyddiau'n prysur dynnu i mewn rwan yn dydyn? Ac ma isio dal ar bob mymryn fedar rywun ei gael o'r haul eleni.

Roedd hi'n braf cael awyr iach fin nos ac roedd hi'n braf hefyd gweld cymaint o blanhigion yn dal yn eu blodau.

Un oedd llysiau'r milwr coch. Mae hwn yn blanhigyn sy'n tyfu'n dal ac unionsyth yn ymyl ffosydd ymmon y gwrychoedd. 'Purple loosestrife' ydi'r enw Saesneg arno, a Lythrumsalicaria ydi'r enw gwyddonol.

Mae'r blodau'n drawiadol tua 1 cm o hyd ag yn lliw coch/porffor cyfoethog, hefo 6 petal mewn sidelli, wedi eu casglu mewn sbigynnau hir, trwchus, nes bod y pen yn edrych fel rhyw gynffon cath borffor.

Mae o'n ffurfio clystyrau amlwg mewn corsydd, ar lannau afonydd a nentydd, ac ar dir anial. Ac mae o'n rhoi lliw amlwg, llachar i'r tirlun yn arbennig ar ddiwedd haf, hyd yn oed ymhell o ddwr. Mae 'na dri gwahanol fath o flodau ar blanhigion gwahanol, pob un hefo stigmau o wahanol hyd ac mae'r addasiad yma'n gwella'r siawns o draws beilliad gan bryfetach.

Mae'r ffrwythau yn gapsiwlau bach siap wy, tua 3-4 mm o faint, ac hefo llawer o hadau bychain, bach.

Mae'r hadau yn ludiog ac mae'r had yn cael ei wasgaru gan adar dwr - drwy gael eu cario ar eu traed a'u plu.

Roedd y planhigyn yma'n arfer cael ei ddefnyddio i'w roi ar friwiau, ac mae'n debyg ei fod wedi cael ei ddefnyddio yn yr Iwerddon i drin y dolur rhydd.

Reit yn ymyl llysiau'r milwr coch, ac yn creu gwrthgyferbyniad hyfryd roedd y cedowydd, Pulicaria dysenterica, y 'common fleabane' yn Saesneg. Hwn eto yn blanhigyn unionsyth ond yn llawer iawn llai o ran taldra na llysiau'r milwr coch.

Pen melyn sydd gan hwn ac mae'n edrych rhywbeth yn debyg i'r llygad llo mawr heblaw bod y blodigau canol a'r rheiddiol yn aur felyn.

Mi gwelwch nhw fel arfer mewn clystyrau llac, hefo pen gwastad canghennog, braidd yn flewog.

Maen nhw'n aml i'w gweld ar dir sydd wedi ei bori, glaswelltir tamp, yn arbennig ar bridd cleiog, ag yn aml iawn ar ochrau ffyrdd os oes yna ffos neu fan tamp yn ymyl.

Mae'r marchalan (Inula helenium) yn perthyn i'r un teulu ag yn ddigon tebyg i'r cedowydd ar yr olwg gyntaf. Ond mae o'n blanhigyn cadarnach ag yn tyfu hyd at 1m o daldra hefo pennau blodeuog 5-8 cmar draws.

Roedd y planhigyn yma'n cael ei ddefnyddio fel llysieuyn meddyginiaethol ers talwmag mi welwch chi o'n tyfu yn aml iawn yn ymyl hen dai a murddunod.

Roedd gan y Rhufeiniaid a'r Eingl Sacsoniaid feddwl mawr o hwn, ac roedden nhw'n arfer ei weini o fel bwyd yn ogystal a'i ddefnyddio fo fel moddion.

Y gwreiddiau oedd yn cael ei ddefnyddio fel moddion, ac roedden nhw'n berwi'r rhain ag yn yfed y trwyth ar gyfer anhwylderau'r ysgyfaint.

Un arall sy'n dal yn ei flodau ydi'r byddon chwerw, neu Chwyn Joe Pye, Eupatorium cannabinuma 'hemp agrimony' yn Saesneg. Hwn eto yn un o'r planhigion lluosflwydd, unionsyth sy'n ffurfio clystyrau mewn mannau gwlyb, corsydd, cloddiau, mannau glaswelltog, tamp a phrysgwydd.

Mae ail hanner yr enw gwyddonol, 'cannabinum' yn adlewyrchu tebygrwydd y dail i gywarch (Cannabis sativa). Mae'r byddon chwerw, gyda llaw, wedi cael ei ddefnyddio i drin peswch mewn gwartheg.

Roedd yr efwr hefyd i'w weld yn amlwg iawn yn torsythu ar ochr y ffordd a'i ben gwyn, gwastad.

Heracleumsphondyliumydi ei enw gwyddonol a 'hogweed' yn Saesneg. Mae 'na nifer o enwau Cymraeg eraill arno fo: ewr, efyrllys, pannas y cawr, moron y meirch, panasen y fuwch, y gron, bras gawl a cecsen.

Fel sawl aelod arall o deulu'r foronen, ond yn arbennig yr efwr enfawr, mae o'n achosi'r croen i fod yn sensitif i olau'r haul, a hynny'n creu pothelli a briwiau. Er, mae cofnodion yn dangos fod sudd yr efwr wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer cael gwared a defaid neu'r ddafaden oddi ar y croen.

Mae'r efwr yn cael ei ddiystyru fel chwyn bler ond roedd o'n arfer bod yn fwyd moch, ac roedd hynny'n bwysig wrth gwrs am fod yna fochyn yn cael ei gadw yn bron bob tyddyn ers talwm.

CAPTION(S):

Ar y chwith, y cedowydd; uchod yr efwr, ac yn y prif lun gwelir llysiau'r milwr coch Lluniau: Bethan Wyn J
COPYRIGHT 2007 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2007 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

 
Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Features
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Aug 22, 2007
Words:734
Previous Article:Mel ar fysedd; BYD NATUR LLYTHYRAU.
Next Article:Pa fwydydd gwyllt fyddwch chi'n fwyta? BYD NATUR.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2018 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters