Printer Friendly

Daeth i ben deithio byd.

Byline: Dylan Iorwerth

AR un olwg, roedd o'r lle perffaith i fynd. Os oedd rhaid iddi adael y byd yma, y lle addas oedd gwlad bell a hithau'n mwynhau'r profiad cyfarwydd o weld y byd.

Ar olwg arall, peth chwithig oedd marw ar wyliau yn Sbaen, heb Foel Eilio ar y gorwel na'r Mynydd Mawr yn anghenfil swrth gyferbyn.

Doedd neb fel hi am deithio, ond doedd neb tebyg iddi chwaith am ymfalchio yn ei hardal a'i phobol ei hun.

Mi fydd yna fwlch ar ol Mary Vaughan Jones yn ei phentre', yn Waunfawr, ond mi fydd yna bobol yn ei chofio ar hyd a lled y byd.

Stopio'n stond wnan' nhw, mae'n siwr, wrth glywed y newydd a'i chael hi'n anodd i gredu fod y fath ynni'n dod i ben. Ac mi fydd yna wen yn gymysg a'r tristwch wrth gofio.

A hithau ymhell yn ei hwythdegau, roedd hi wedi dal ati i deithio'r byd, weithiau ar ei phen ei hun, a gwneud ffrindiau newydd ymhobman.

Mentro i bum cyfandir ac, fel y bydd pob teithwr da, yn sicr o gael croeso siriol oherwydd ei sirioldeb ei hun.

Hi wnaeth ffrindiau efo athrawes o Hwngari a dechrau teithio yno ymhell cyn chwalu'r Llen Haearn. Mi ddaeth eu teulu nhwthau i Waunfawr yn eu tro a chadw'r cysylltiad i'r diwedd.

Pan glywan nhw'r newydd, ble bynnag y maen nhw heddiw, mi fyddan nhwthau'n oedi a meddwl am Hafod y Coed a'i anferth o ardd lle'r oedd croeso i adar a gloynnod byw. . . a theulu o Hwngari.

I lawer ohonon ni, roedd Mary Vaughan yn cynrychioli Waunfawr, y rhuban hir o bentref a dyfodd blith draphlith ar y tir gerwin agored rhwng afon Gwyrfai a mynydd Cefn Du.

Hi oedd yn gwybod ei hanes hefyd.

Hi a'i gwr, y dramodydd lleol Wil Vaughan, oedd y chwilotwyr a'r croniclwyr. Y ddau yn blant yr ardal ac wedi byw yno fwy neu lai trwy eu hoes.

Dyn hynod oedd yntau. Dyn disglair a guddiodd ei gannwyll dan lestr er mwyn goleuo bywyd ei ardal. Mi fu farw flynyddoedd yn ol ond roedd pobol y cylch yn dal i siarad amdano.

Roedd wedi ennill prif wobr ddrama'r Eisteddfod Genedlaethol yn ol yn y 40au ond, ar ol hynny, wedi bodloni - na, wedi ymroi - i greu a chynhyrchu dramau i gwmniau lleol. Eu Glob oedd festri'r capel.

Brwyn ar y Comin oedd enw'r ddrama genedlaethol. Ond roedd hi'n delio ag un o'r cyfnodau mwya' dramatig a chreulon yn ardal y Waunfawr, pan gaewyd y tiroedd comin a'r meistri mawr yn dwyn oddi ar y bobol gyffredin.

Cymraeg y bobol hynny oedd gan Mary Vaughan. Cymraeg agored, llawn priodddulliau, a'r dywediadau yn cwympo i'w lle fel darnau o jig-so.

O'r co' sydd gen i, un tawelach oedd Wil Vaughan. Un mwy pwyllog ei ffordd wrth ochr ei rhyferthwy hi. Ond mi roedd hi'n aml yn son am "Wil" ac, o dan yr wyneb, yr un anian oedd i'r ddau.

Mi roedden nhw'n adnabod yr ardal i'r byw, nid dim ond y ffyrdd a'r llwybrau, ond yr adar a'r bywyd gwyllt.

Bywydegydd oedd hi - nid bywydeg y llyfr a'r theori ond bywydeg y pethau byw.

Ar un olwg, doedd ganddyn nhw ddim plant.

Ar olwg arall, roedd ganddyn nhw gannoedd.

A'r ddau wedi bod yn athrawon yn Ysgol Brynrefail, Llanrug, roedd Mary Vaughan yn adnabod cyn-ddisgyblion ymhobman.

Mi fyddai cofnod bywgraffyddol moel o fywyd Mary Vaughan yn gwneud ichi feddwl mai creadur plwyfol oedd hi.

Ond pe baech chi'n gwneud map o'r byd ac yn tynnu llinellau i ddangos lle buodd hi'n teithio a lle'r oedd ganddi ffrindiau, mi fyddai'n stori wahanol iawn.

Mi fyddai'r llinellau'n croesi'r cyfandiroedd yn wead tynn. A phob edafedd yn y diwedd yn dirwyn yn ol i'r Waunfawr.
COPYRIGHT 2002 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2002 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Title Annotation:Columns
Publication:Western Mail (Cardiff, Wales)
Date:Apr 24, 2002
Words:626
Previous Article:Cymuned.
Next Article:Vale MP's words of advice for Sven; Westate.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters