Printer Friendly

DYLAN IORWERTH.

Byline: WELSH COLUMN

DYDI hanes ddim yn forwyn i heddiw ond mae'n rhyfedd pa mor aml y mae'r presennol a'r gorffennol yn taro tant ei gilydd.

Ynghanol y son am raliau annibyniaeth i Gymru ar hyn o bryd, mae yna ddarganfyddiadau'n cael eu gwneud yng Ngheredigion sy'n newid ein syniadau ni am annibyniaeth fwy nag 800 o flynyddoedd yn ol.

Yn Ystrad Fflur, ger Pontrhydfendigaid, mae yna griw o bobol wrthi ar hyn o bryd yn crafu wyneb y tir a chwilio am hen, hen dystiolaeth.

Gwirfoddolwyr ydi'r rhan fwya' ohonyn nhw ac mae rhai hyd yn oed yn gyn-filwyr sy'n ceisio dod tros effeithiau difaol rhyfel a'r gwaith, manwl pwyllog yn falm.

Mae'r cyfan yn rhan o dim dan arweinyddiaeth yr archeolegydd, yr Athro David Austin, sydd bellach yn dathlu 20 mlynedd o weithio ar safle'r abaty ar lan afon Teifi.

Mae'n hawdd ei nabod, a'i ben o wallt toreithiog gwyn, yn brasgamu yn ol ac ymlaen trwy'r olion a'r ffosydd cloddio. Nid yn safle amlwg yr abaty efo'i fwa cerrig enwog, ond rai cannoedd o lathenni'n nes draw.

A dyna'r pwynt. Mae'r gwaith cloddio yn Ystrad Fflur yn dangos mai dyma un o abatai mwya' gwledydd Prydain yn ei dydd; o bosib un o'r mwya' yn Ewrop.

Erbyn hyn mae David Austin yn hyderus ei fod wrthi'n darganfod olion canolfan gwbl allweddol yn hanes Cymru, safle sy'n dangos bod brenin y Deheubarth, yr Arglwydd Rhys, yn cynllunio ar gyfer creu gwlad "fodern" gyflawn yn yr 1170au.

Fyddai hi ddim yn ormod dweud mai dyma waith mawr gyrfa'r archeolegydd o Lanbed wrth iddo weddnewid ein syniadau am yr abaty a dangos ei fod wedi ei godi'n gwbl fwriadol ar safle a oedd eisoes yn werthfawr a sanctaidd i'r Cymry.

Gydag ymddiriedolaeth annibynnol y tu cefn iddo, mae yn y broses o droi Ystrad Fflur yn ganolfan i ystyried a dathlu hanes a diwylliant Cymru - yn y bon, canolfan sy'n dangos pwy oedden ni ac, efallai, pwy fyddwn ni eto.

Nid gwaith yr hanesydd a'r archeolegydd ydi'r dyfodol. Eu rol nhw ydi datgelu'r dystiolaeth a thrio'i dehongli hi mor onest ag y gallan nhw. Rhan o stori Ystrad Fflur ydi hanes y goncwest hefyd, diddymu'r mynachlogydd a meddiannu tiroedd gan deuluoedd cyfoethog Cymru.

Efo'r hen ffermdy a godwyd ar ran o safle'r abaty, mi fydd hefyd yn dweud hanes amaeth a chefn gwlad yng Nghymru yng nghanol y ganrif ddiwetha', yn union cyn i'r byd a'r Gymru wledig newid yn llwyr ac am byth.

Mae'n stori gymhleth, yn llawn llwyd a lliwiau eraill, a fyth yn ddu a gwyn. Ond mae'n anodd gwrthod y syniad bellach fod Ystrad Fflur yn cyfleu rhywbeth sylfaenol am yr hyn yr yden ni'n ei galw yn genedl y Cymry.

Be wnawn ni o'r hanes hwnnw? Ni fydd yn dewis hynny.

walesonline/cymraeg

COPYRIGHT 2019 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2019 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Western Mail (Cardiff, Wales)
Date:Aug 29, 2019
Words:468
Previous Article:Gran has 'shades' tattooed on eyes after light misery.
Next Article:Unicycle hockey player followed heart to Wales; It took several years of adventures, which included living on a narrow boat and meeting his future...

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2021 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters |