Printer Friendly

Cynnal cynefin arbennig iawn; BYD NATUR.

Byline: Gan BETHAN WYN JONES

PNAWN hyfryd o Fai ac roeddwn i ar y Gogarth yn cyfarfod a Colin Cheesman, Rheolwr Rhaglen Plantlife Cymru, er mwyn i mi ddysgu am waith Plantlife yn diogelu planhigion gwyllt ar y Gogarth. Roedd golygfeydd digymar o'r copa tuag at Benmaenmawr a Mon, ond wedi dod i edrych am bethau oedd yn tyfu dan fy nhraed roeddwn i. Penrhyn o galchfaen ydi'r Gogarth sydd wedi'i amgylchynu ar dair ochr gan y mor ac sy'n aml i'w weld yn cael ei drochi gan yr haul. Mae'r hinsawdd yn fwyn am ran helaeth o'r flwyddyn ac wrth gyplysu hyn a'r garreg galch, mae'n lle ardderchog i weld planhigion prin.

Mae tua 360 o wahanol rywogaethau o flodau gwyllt brodorol yn byw yma. Mae tua 20 o'r rhain yn brin iawn, gan gynnwys cotoneaster y Gogarth (Cotoneaster cambricus; Wild cotoneaster) sy'n tyfu ar y Gogarth a nunlle arall. Dim ond chwe planhigyn o'r cotoneaster gwreiddiol sydd yna, er fod yna nifer o blanhigion eraill wedi cael eu tyfu o hadau ac o doriadau.

Mae yma hefyd nifer o gen a mwsoglau prin hefyd ac mae'r amrywiaeth o blanhigion yn golygu fod hyn yn ei dro yn cynnal adar, anifeiliaid a thrychfilod yn cynnwys gloynnod byw fel y glesyn serennog (Plebejus argus; Silver-studded Blue) a'r gweirloynnod.

Mi eglurodd Colin mai cydweithio a phartneriaid eraill mae Plantlife Cymru ar y Gogarth ac mewn sawl lle arall yng Nghymru. Maen nhw'n cydweithio mewn ffordd ymarferol gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Gymdeithas Gwarchod Adar, Cyngor Bwrdeistref Conwy, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, i reoli'r Gogarth er budd byd natur.

Mae pori yn eithriadol o bwysig mewn llecyn fel hyn ac ers Clwy'r Traed a'r Genau yn 2001, mae defaid wedi cael eu cyfyngu i fannau caeedig ac mae'r rhan mwyaf gwyllt o'r penrhyn wedi dioddef am nad oes digon o bori. O ganlyniad, mae drain, mieri a gwair trwchus wedi tagu'r mannau lle byddai'r blodau'n tyfu.

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd berchen Fferm y Parc a Dan Jones sy'n dal y tir gan ddefnyddio defaid i reoli'r pori.

Plantlife Cymru sydd wedi prynu'r ddiadell o dros bedwar cant o ddefaid Lleyn er mwyn targedu'r mannau na chawsant eu pori ers blynyddoedd.

Un o'r planhigion prin sydd dan fygythiad ydi'r cor-rosyn lledlwyd (Helianthemum oelandicum ssp. incanum; Hoary Rockrose. Mi welais hwn wrth grwydro'r llethrau yng nghwmni Colin: un bach melyn ydi o sy'n creu cwrlid o flodau melyn ddiwedd y gwanwyn a dim ond mewn llond dwrn o safleoedd yng Nghymru mae o i'w ganfod.

Am ei fod mor fach, mae'n mynd ar goll mewn twmpathau o wair ac felly mae hwn yn un o'r planhigion wnaiff elwa o bori gan y defaid.

Er mwyn gallu pori y tu allan i waliau'r fferm, mi fydd angen i Dan Jones fod yn bugeilio'n ofalus gyda'i gwn er mwyn sicrhau fod y rhannau sydd wedi gordyfu yn cael eu pori.

Mae Plantlife Cymru yn ddibynnol ar eu haelodau am arian i gynnal eu gwaith gwarchod planhigion ac mae'n costio PS3 y mis i ymuno a Plantlife Cymru: am ragor o fanylion ewch i www.plantlife.org.uk/uk/support-us/join-us . Wrth gerdded y llethrau ar y pnawn godidog o braf (roedd taith arbennig i aelodau fin nos) ac edrych ar y llechweddau fe ddangosodd Colin i mi rai o'r llecynnau lle roedd yr eithin wedi goresgyn a rhai eraill lle roedd yr eithin wedi cael ei glirio. Roedd yn amlwg fod mwy o flodau i'w gweld yn y rhannau oedd wedi eu clirio.

Ar yr un pryd, dydyn nhw ddim eisiau cael gwared a'r eithin yn gyfangwbl am ei fod yn cynnig cynefin i famaliaid bach ac adar.

Y gobaith ydi cael gwell cydbwysedd rhwng y gwahanol blanhigion yn y cynefinoedd yma, a "bugeilio dwys" drwy ddefnyddio'r cwn a'r bugail i gadw'r defaid mewn llecynnau bach priodol.

Mi fydd yn ddifyr iawn dychwelyd yma ymhen rhai blynyddoedd i weld canlyniadau'r gwaith yma.
COPYRIGHT 2017 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2017 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Conwy, Wales)
Date:May 31, 2017
Words:659
Previous Article:Dashing to success at Nottingham.
Next Article:Cyfryngau cymdeithasol: Yr ochr dda a'r ochr ddrwg; BARN.
Topics:

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters