Printer Friendly

Cyhoeddi arlwy'r Brifwyl; Cynigion arbennig ii ddenu pobl ii'r we yl.

GYDA thocynnau Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg yn mynd ar werth yfory, bu Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, yn trafod y paratoadau ar gyfer yr weyl eleni a'r rl sydd gan yr Eisteddfod i hyrwyddo'r Gymraeg.

"Cyfle i edrych ymlaen yw'r adeg hon o'r flwyddyn, wrth i ni gyhoeddi'r arlwy ar gyfer ein cyngherddau," meddai, "ond wrth edrych ymlaen, rhaid rhoi'r presennol yn ei gyd-destun.

"Dyw'r misoedd diwethaf heb fod yn rhai hawdd i'r Eisteddfod; mae delio gyda'r golled yn dilyn Eisteddfod Wrecsam a'r Fro wedi bod yn her, a rydan ni wedi gwneud arbedion sylweddol i'n cyllidebau ar gyfer eleni, wrth i ni a gweddill y wlad wynebu blwyddyn economaidd anodd arall. Ond rwy'n hyderus ein bod wedi llwyddo i wneud arbedion doeth, a'r gobaith yw na fyddwn yn gorfod hepgor gweithgareddau ar Faes yr Eisteddfod.

"Fel pob gweyl a digwyddiad mawr arall, rydym yn ddibynnol ar gefnogaeth ein hymwelwyr, ac yn ymwybodol bod ein cynulleidfa ni hefyd yn ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd. Felly eleni, bydd nifer o gynigion arbennig i'r rheini sy'n prynu tocynnau ymlaen llaw. Ein bwriad yw ei gwneud yn haws i bobl fforddio dod i'r Maes ar ragor o ddyddiau, a bydd ein cynllun tridiau ar y Maes am bris deuddydd, y tocyn wythnos, a'r prisiau gostyngol ar docynnau dyddiol tan 1 Gorffennaf yn apelio at ein cynulleidfa selog a'r rheini sy'n ystyried dod atom am y tro cyntaf.

"Rydym hefyd wedi ceisio gwneud yn siwr bod ein cyngherddau ni'n cynnig gwerth am arian, ac wedi codi'r oed ar gyfer tocyn plentyn o 12 i 16, er mwyn sicrhau bod noson yn y Pafiliwn yn brofiad fforddiadwy ar gyfer teuluoedd.

"Wrth gyhoeddi'r rhaglen gyngherddau bum mis ymlaen llaw, mae'n anodd rhagdybio beth fydd fwyaf poblogaidd eleni, gan fod cymaint o amrywiaeth i'r rhaglen. Bydd Karl Jenkins yn arwain y Premiere Prydeinig o'i waith diweddaraf, Beirdd Cymru, gyda Dennis O'Neill, Rebecca Evans a Chr yr Eisteddfod, nos Sadwrn, ac mae hon yn sicr o apelio at garfan fawr o Eisteddfodwyr.

"Y cr amryddawn, Only Men Aloud, sy'n agor y Brifwyl eleni, gyda chyfle hefyd i fwynhau'r cr bechgyn a grwyd ar gyfer Eisteddfod 2010, Only Boys Aloud, ac aelod diweddaraf y teulu, Only Vale Kids Aloud.

"Bydd gan Caryl Parry Jones, un o berfformwyr mwyaf talentog Cymru, sioe newydd sydd wedi'i hysgrifennu'n arbennig ar ein cyfer. Cyfle i fwynhau'i chwmni hi, y band a rhai o'i chymeriadau mwyaf amlwg, nos Iau.

"Mae'n anodd credu bod Dafydd Iwan wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd Cymru am hanner canrif eleni, ac fe fyddwn yn dathlu'i gyfraniad i gerddoriaeth ac i Gymru, nos Lun, gyda llu o westeion arbennig a fydd yn ein tywys trwy ddegawdau Dafydd Iwan.

"Gala Gomedi fydd yn y Pafiliwn nos Fawrth, a bydd hon yn addas ar gyfer y rheini dros 14 oed.. Dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod gynnal noson gomedi, a chyda rhai o ddigrifwyr a pherfformwyr gorau Cymru fel Tudur Owen, Arthur Picton, Ifan Gruffudd, Daniel Glyn, Gary Slaymaker a Dewi Pws,yn ymddangos, dyma fydd y noson gomedi Gymraeg fwyaf erioed!

"Ac wrth fentro i faes newydd, gan gyflwyno comedi fel rhan o arlwy'r cyngherddau eleni, rydym nid yn unig yn ymateb i ddyheadau nifer fawr o'n hymwelwyr, ond hefyd yn creu llwyfan newydd ar gyfer criw sy'n defnyddio'r Gymraeg ym maes comedi.

"Mae ffyniant yr iaith a'r defnydd ohoni'n rhan greiddiol o'n gwaith, yn ystod wythnos y Brifwyl a thrwy gydol y prosiect cymunedol dros gyfnod o bron i ddwy flynedd. Mae'r Eisteddfod yn darparu cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn lleol, i wirfoddoli, i ddysgu sgiliau newydd ac i gymdeithasu drwy gyfrwng yr iaith, a gellid dweud bod yr Eisteddfod yn un o'r catalyddion mwyaf pwerus a phwysig sydd gan y Gymraeg yng Nghymru heddiw. Ond er mwyn llwyddo mae'n rhaid i gyrff a sefydliadau eraill sy'n weithredol yn lleol barhau 'r gwaith yn dilyn wythnos yr Eisteddfod.

"Mae'r gweithgareddau amrywiol yn y cyfnod hyd at ac yn ystod yr wythnos ei hun yn brawf pendant o'r diddordeb sy'n bodoli yn yr iaith ac awydd Cymry o bob oed i ddathlu ein diwylliant a bodolaeth yr iaith. Nid Cymraeg ffurfiol byd addysg a'r ystafell ddosbarth yw Cymraeg y Maes, Cymraeg Maes B a Chymraeg y maes ieuenctid, ond Cymraeg naturiol go iawn, dewis iaith miloedd o bobl ifanc sy'n heidio i ba bynnag sir yng Nghymru sy'n gartref i'r Eisteddfod y flwyddyn honno. Nid iaith sy'n sefyll yn ei hunfan ond iaith sy'n datblygu ac yn symud gyda'r oes, ac mae hyn i'w groesawu a'i gofleidio os yw'r iaith am ffynnu dros y cenedlaethau nesaf."

CAPTION(S):

Elfed Roberts
COPYRIGHT 2012 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2012 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Feb 29, 2012
Words:773
Previous Article:Pryderu os na ddaw Wylfa B; LLYTHYRAU.
Next Article:Drop in teen pregnancies; Lowest conception rates in under-18s for over a decade as abortion rates on increase.

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2021 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters |