Printer Friendly

Cyfeillion y dyfnder; BYD NATUR.

Byline: gan bethan wyn jones

NOSON braf o wanwyn a finnau wedi mynd am dro fin nos draw i Drwyn Leinws, ym Mn i weld yr haul yn machlud. Roedd hi'n noson wych - yr eithin yn aur felyn a seren y gwanwyn yn garped glas dan draed wrth i mi ddilyn y llwybr at y goleudy. Yma ac acw roedd sypiau gwyn o'r gludlys arfor ac ar y creigiau, clustog Fair yn dusw pinc, tlws. Roedd gwylanod yn nythu ar y creigiau mwyaf anhygyrch a mulfran yn oedi ar greigiau yn is i lawr ac yn nes at y mr. Ambell dro roeddwn i'n medru gweld mulfran yn hedfan islaw i mi, yn isel uwchben wyneb y mr.

Wedi nesu at y goleudy, dyma aros am funud, ac edrych draw dros y mr i gyfeiriad Ynys Manaw. Ar yr ochr chwith i mi, roedd arfordir gogleddol Mn wedi'i olchi gan haul yr hwyr ac ar y dde roedd y Trwyn Du ac Ynys Seiriol a Phen y Gogarth ymhell i ffwrdd.

Wrth graffu ar y mr islaw i mi ac ychydig o'r lan, roedd cysgod tywyllach ar y dwer, ac wrth edrych yn ofalus, mi welwn ambell i symudiad yn y mr.

Llamhidyddion oedd yna, a bob hyn a hyn roeddwn i'n medru eu gweld yn torri wyneb y mr.

Mae llamhidyddion yn rhai o'r creaduriaid mwyaf diddorol sydd i'w gweld o gwmpas ein glannau, ac rydan ni'n ffodus iawn fod yna lamhidyddion i'w gweld o amgylch arfordir Cymru. Mae 'na ambell fan sy'n well na'i gilydd, fel Pen Llyen er enghraifft ac mae'r rhan yma o arfordir Mn hefyd yn lle reit dda i weld dolffiniaid a llamhidyddion.

Phocoena phocoena ydi'r enw gwyddonol ar y llamhidydd, a'r 'harbour porpoise' ydi'r enw Saesneg arno.

Dydi ddim bob amser yn hawdd dweud y gwahaniaeth rhwng y dolffin a'r llamhidydd - wel, ddim o bell beth bynnag! Ond yn gyffredinol, mae'r dolffin yn fwy na'r llamhidydd.

Asgell fach, sip triongl sydd gan y llamhidydd ar ei gefn tra mae gan y dolffin asgell gefn sy'n fwy ac yn dalach ac mae eu hymyl yn fwy crwm. Does gan lamhidyddion ddim y trwyn amlwg sydd gan ddolffiniaid.

Y gwahaniaeth arall ydi yn sip eu dannedd nhw - ond mae'n andros o job gweld y rheini o bellter! Maen nhw'n lliw llwyd tywyll hefo marciau brych ar eu hochrau, a'u bol yn wyn.

Ambell dro, mi fedrwch chi glywed y llamhidyddion yn gwneud swn yn y mr, serch eich bod ar y lan. Maen nhw'n anadlu drwy dwll bach sydd wedi'i leoli fymryn i'r chwith o ganol y pen. Maen nhw'n tynnu gwynt i mewn yn gyflym oddi ar wyneb y mr. Yn ei dro mae aer yn cael ei ollwng allan drwy'r twll bach ar y pen, ac yna mae'r ysgyfaint yn llenwi'n gyflym unwaith eto.

Yn eu pen, ar eu talcen, mae ganddyn nhw''r hyn sy'n cael ei alw'n felon. Be ydi hwn ydi meinwe sy'n llawn lipidau sydd jest uwchlaw'r craniwm. Mae hwn yn bwysig iddyn nhw wrth leoli eu prae drwy atsain. Yn y fan hon mae canolbwynt y synau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer lleoliad adlais, ac sydd yn eu harwain nhw at eu bwyd.

Mae llamhidyddion yn defnyddio eu dannedd i afael yn eu prae ac maen nhw'n bwydo'n bennaf ar bysgod sy'n heigio. Maen nhw'n bwyta pysgod fel penwaig a brwyniaid (anchovies), hynny ydi pysgod sy'n llawn lipidau - sy'n dda iddyn nhw wrth gwrs. Mi wnawn nhw hefyd fwyta penfras ifanc ac maen nhw'n gallu plymio i ddyfnder o tua 650 troedfedd i ddal eu bwyd. Dydyn nhw ddim yn cnoi'r pysgod, ond yn eu llyncu yn gyfan.

Mae'r fam a'r llo fel arfer yn aros hefo'i gilydd am beth amser ar l i'r fam ddyfnu'r llo, ac maen debyg fod y llo yn dysgu hela ar ei ben ei hun drwy fwyta prae y pysgod mae'r fam yn eu bwyta. Mae'r benywod yn fwy na'r gwrywod ac mae'n bur debyg fod y gwrywod yn cymharu hefo mwy nag un fenyw.

Mae llamhidyddion yn byw'n weddol agos at y lan - ble mae'r hil ddynol hefyd yn gwneud defnydd ohono. Ni, felly, ydi'r perygl mwyaf i lamhidyddion. Er enghraifft, mae tua 40,000 o lamhidyddion yn cael eu harpwnio yn flynyddol oddi ar arfordir Japan er mwyn eu cig. Mae'n bosibl fod synau o longau a chychod yn drysu'r llamhidyddion wrth iddyn nhw geisio lleoli eu prae drwy leoliad adlais. Rhwydi pysgota ydi un arall o'r peryglon sy'n wynebu llamhidyddion ac mae 'na amcangyfrif fod tua 7,000 o lamhidyddion yn cael eu dal mewn rhwydi pysgota ym Mr y Gogledd bob blwyddyn, sy'n andros o biti.

Mi ges i fodd i fyw yn crwydro Trwyn Leinws ac yn gwylio'r llamhidyddion. A be sy'n well ar noson braf yn ystod y gwanwyn na chrwydro'r glannau i weld rhai o'r creaduriaid hoffus yma.

CAPTION(S):

Llamhidydd, harbour porpoise, Phocoena phocoena
COPYRIGHT 2012 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2012 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Apr 4, 2012
Words:820
Previous Article:Construction key for Enterprise Zone; LETTERS.
Next Article:'Sgwn i pa mor aml ydach chi'n meddwl am eich angladd?
Topics:

Terms of use | Privacy policy | Copyright © 2019 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters