Printer Friendly

Crwydro'r cloddiau; BYD NATUR.

Byline: Gan BETHAN WYN JONES

Erwain

PAN maen nhw'n cael llonydd, mae ochrau'r ffyrdd yn un o'r llecynnau gorau i weld blodau gwyllt. Mi fydda i'n lecio crwydro ar hyd y ln sy'n arwain o'r Talwrn i Ceint, ac mae 'na amrywiaeth dda o flodau gwyllt i'w gweld yno, yn enwedig ddiwedd haf fel hyn.

Wn i ddim os ydach chi wedi sylwi, ond mae'r erwain (Filipendula ulmaria; meadowsweet) yn ei flodau rwan. Mae'n ffurfio tonnau melyn golau hardd ym mn y clawdd, yn y ffosydd ac yn y corsydd. Mae'r planhigyn yn cael ei ddefnyddio i drin y dwymyn, ffliw a chricymala. Mae te wedi'i wneud o'r blodau'n cael ei ddefnyddio i drin dolur yn y stumog a chur pen.

Erstalwm mi fyddai'r blodyn yn cael ei ddefnyddio yn y tai oherwydd yr arogl braf sydd arno, ond mae 'na rai sy'n ystyried ei bod yn anlwcus dod 'r blodyn i fewn i'r tye. Wir, mae na hen goel petai chi'ch syrthio i gysgu mewn ystafell oedd yn llawn o'r blodau yma, na fyddech chi byth yn deffro. Roedd y derwyddon yn l pob sn yn ystyried fod yr erwain yn blanhigyn sanctaidd.

Blodyn trawiadol arall ydi llysiau'r milwr coch (Lythrum salicaria; purple loosestrife). Mae'r blodau ar y planhigyn yma tua 1 cm o hyd ag yn lliw coch/porffor cyfoethog, hefo 6 petal mewn sidelli, wedi eu casglu mewn sbigynnau hir, trwchus, nes fod y pen yn edrych fel rhyw gynffon cath borffor.

Mae'n blanhigyn lluosflwydd, trawiadol, hefo blew byr a phedair ongl ar y coesyn. Mae'n ffurfio clystyrau amlwg mewn corsydd, ar lannau afonydd a nentydd, ac ar dir anial. Ag mae o'n rhoi lliw amlwg, llachar i'r tirlun yn arbennig ar ddiwedd haf, hyd yn oed ymhell o ddwer. Mae 'na dri gwahanol fath o flodau ar blanhigion gwahanol, pob un hefo stigmu o wahanol hyd ac mae'r addasiad yma'n gwella'r siawns o draws beilliad gan bryfetach.

Mae'r ffrwythau yn gapsiwlau bach sip wy, tua 3-4mm o faint, ag hefo llawer o hadau bychain, bach. Mae'r hadau yn ludiog ac mae'r had yn cael ei wasgaru gan adar dwr - drwy gael eu cario ar eu traed a'u plu. Roedd y planhigyn yma'n arfer cael ei ddefnyddio i'w roi ar friwiau, ac mae'n debyg iddo gael ei ddefnyddio yn Iwerddon i drin y dolur rhydd.

Un arall sy'n amlwg iawn ar ochrau'r ffyrdd y dyddiau yma ydi'r cedowydd (Pulicaria dysenterica; common fleabane) er nad ydi hwn yn tyfu mor dal llysiau'r milwr coch. Pen melyn sydd gan hwn ac mae'n edrych rhywbeth yn debyg i'r llygad llo mawr heblaw bod y blodigau canol a'r rheiddiol yn aur felyn yn y blodyn yma. Mi gwelwch nhw fel arfer mewn clystyrau llac, hefo pen gwastad canghennog, braidd yn flewog. Erstalwm, oedd pobl yn sychu'r cedowydd, ac wedyn yn llosgi'r planhigion yn y tye er mwyn cadw pryfaid draw.

Roedd o hefyd yn cael ei ddefnyddio i gadw chwain draw.

Un arall, ac un o fy ffefrynnau i, ydi'r byddon chwerw (Eupatorium cannabinum; hemp-agrimony). Hwn eto yn un o'r planhigion lluosflwydd, unionsyth sy'n ffurfio clystyrau mewn mannau gwlyb. Mae ail hanner yr enw gwyddonol, 'cannabinum' yn adlewyrchu tebygrwydd y dail i ddail cywarch (Cannabis sativa), er nad oes yna ddim perthynas. Mae'r byddon chwerw, gyda llaw, wedi'i ddefnyddio i drin peswch mewn gwartheg.

Mae'r helyglys hardd (Chamerion angustifolim; rosebay willowherb) i'w weld ym mhobman hefyd ac yn codi'n dal a gosgeiddig uwchlaw planhigion eraill min y ffordd.

Un arall sy'n amlwg iawn yn torsythu ar ochr y ffordd a'i ben gwyn, gwastad a bron cyn daled 'r helyglys hardd ydi'r efwr. Heracleum sphondylium ydi ei enw gwyddonol a 'hogweed' yn Saesneg. Mae 'na nifer o enwau Cymraeg eraill arno fo: ewr, efyrllys, pannas y cawr, moron y meirch, panasen y fuwch, y gron, bras gawl a cecsen.

Planhigyn tal, unionsyth, garw, a blewog ydi o sy'n tyfu ar ochrau'r ffyrdd, cloddiau, glaswelltir ffrwythlon, ochrau nentydd a llennyrch mewn coedlannau.

Roedd yr hadau a'r gwreiddiau yn arfer cael eu berwi, a'r trwyth wedyn yn cael ei yfed ar gyfer y clefyd melyn ac afiechydon yr iau. Roedd o hefyd yn cael ei ddefnyddio i gael gwared defaid oddi ar y croen.

CAPTION(S):

Helyglys hardd Cedowydd Lluniau: Bethan Wyn Jones Erwain Byddon chwerw
COPYRIGHT 2009 MGN Ltd.
No portion of this article can be reproduced without the express written permission from the copyright holder.
Copyright 2009 Gale, Cengage Learning. All rights reserved.

Article Details
Printer friendly Cite/link Email Feedback
Publication:Daily Post (Liverpool, England)
Date:Aug 19, 2009
Words:712
Previous Article:Chwilio am lyfr cerddi; LLYTHYRAU.
Next Article:Cadw pryfaid draw o'r bwyd a'r tye; LLxN Y LLYSIAU.


Related Articles
Dyn 'i fryd ar Gyfeillion pluog.
BYD NATUR: Chwedl Roegaidd i egluro'r gwanwyn; Mwy o ryfeddodau byd natur gyda Bethan Wyn Jones.
BYD NATUR: Llawlyfr lliwgar ar gael i'w ennill.
Llaw gyfar wydd i'n tywys trwy ogoniant y tymhorau; Bu Tudur Huws Jones yn bwrw golwg ar gyfrol newydd gan awdures y bydd darllenwyr Yr Herald yn...
Digon i ddweud am y gwynt a'r glaw.
Y gwanwyn yn codi'i ben.

Terms of use | Copyright © 2017 Farlex, Inc. | Feedback | For webmasters